Pwy sy’n gymwys
Bydd eich cymhwysedd i gael Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig yn dibynnu ar:
- eich cenedligrwydd a’ch statws preswylio
- eich cwrs
- eich prifysgol neu’ch coleg
- eich oedran
- eich astudiaethau blaenorol
Eich cenedligrwydd a’ch statws preswylio
Gallech gael y cyllid hwn os gallwch nodi eich bod yn un o’r canlynol:
Rydych yn un o wladolion y DU neu’n ddinesydd Gwyddelig neu mae gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu rydych wedi cael caniatâd amhenodol i aros fel nad oes unrhyw gyfyngiadau ar ba mor hir y gallwch aros yn y DU
Rhaid:
- eich bod yn byw fel rheol yng Nghymru
- eich bod wedi bod yn byw yn y DU, ar Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw am y tair blynedd cyn diwrnod cyntaf eich blwyddyn academaidd gyntaf
Os ydych wedi bod yn byw yn y DU, ei Hynysoedd neu Iwerddon, neu’r DU, ei Hynysoedd neu’r Tiriogaethau Tramor Prydeinig penodedig am y tair blynedd cyn dechrau eich blwyddyn academaidd gyntaf, gallech gael cyllid i astudio cwrs yng Nghymru.
Os ydych yn un o wladolion yr UE neu’n aelod o deulu un o wladolion yr UE
Gallech gael y cyllid hwn:
- os oes gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
- os ydych yn astudio yng Nghymru
- wedi bod yn byw yn y DU, yr AEE, y Swistir neu’r Tiriogaethau Tramor am y tair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
Nid oes angen i ddinasyddion Gwyddelig wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ond byddai angen iddynt fod yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 i gael cyllid dan y categorïau hyn.
Os ydych yn un o wladolion y DU neu’n aelod o deulu un o wladolion y DU sydd wedi bod yn byw yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir
Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn un o wladolion y DU (neu’n aelod o deulu un o wladolion y DU) neu’n ddinesydd Gwyddelig:
- sydd wedi dychwelyd i’r DU ar 1 Ionawr 2018 neu wedi hynny ac erbyn 31 Rhagfyr 2020 ar ôl bod yn byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, neu
- a oedd yn byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ar 31 Rhagfyr 2020 ac sydd wedi bod yn byw yn y DU, yr UE, Gibraltar, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein yn ystod y 3 blynedd diwethaf
Mae cyllid ar gael hefyd i aelodau o deulu gwladolion y DU os oedd yr aelod o’r teulu yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am y tair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
Gallwch wneud cais am gyllid os ydych wedi bod yn byw yn y DU, Tiriogaethau Tramor, yr AEE neu’r Swistir am y 3 blynedd diwethaf a bod gennych un o’r canlynol:
- os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a’ch bod yn aelod o deulu person o Ogledd Iwerddon
- os oes gennych statws person o Gibraltar fel un o wladolion yr UE neu aelod o deulu un o wladolion yr UE
- os ydych wedi bod yn byw yn Gibraltar fel un o wladolion y DU neu aelod o deulu un o wladolion y DU
- os ydych yn weithiwr mudol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir (gan gynnwys aelodau’r teulu) sydd â statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
- os ydych yn blentyn i un o wladolion y Swistir a bod gennych chi a’ch rhiant statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
Gallwch hefyd wneud cais am gyllid:
- os ydych yn blentyn i weithiwr o Dwrci a bod eich rhiant/llys-riant sy’n weithiwr o Dwrci wedi cael caniatâd i aros am gyfnod estynedig yn y DU, ac mae angen eich bod chi a’ch rhiant/llys-riant sy’n weithiwr o Dwrci yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020
- os ydych wedi cael gwarchodaeth ddyngarol (neu os oes gennych deulu sydd wedi cael gwarchodaeth ddyngarol)
- os ydych wedi cael gwarchodaeth ddyngarol (oherwydd cais aflwyddiannus am loches)
- os ydych wedi cael caniatâd i aros am resymau’n ymwneud â bywyd teuluol neu breifat, neu os ydych yn aelod o deulu rhywun sydd wedi cael caniatâd i aros am resymau’n ymwneud â bywyd teuluol neu breifat, a’ch bod wedi bod yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am o leiaf 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- os ydych wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn, oherwydd cais aflwyddiannus am loches neu os na wnaed cais am loches, neu os ydych yn aelod o deulu rhywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
- os ydych yn berson diwladwriaeth neu’n aelod o deulu person diwladwriaeth
- os ydych wedi cael caniatâd i aros dan adran 67 Deddf Mewnfudo 2016, neu os ydych yn blentyn i rywun sydd wedi cael caniatâd i aros dan adran 67 Deddf Mewnfudo 2016
- os ydych yn ffoadur (neu os oes unrhyw aelod o’ch teulu yn ffoadur)
- os ydych wedi cael ‘caniatâd i aros’ yn y DU fel dioddefwr camdriniaeth neu drais domestig, neu os ydych yn blentyn dibynnol i rywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
- os ydych wedi cael ‘caniatâd Calais’ i aros yn y DU, neu os ydych yn blentyn dibynnol i rywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
- os ydych wedi cael ‘caniatâd i aros’ yn y DU fel partner gweddw, neu os ydych yn blentyn dibynnol i rywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
- neu os yw’r aelod o’ch teulu wedi cael caniatâd i aros dan y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu'r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan
- wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, neu’r Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin.
Eich cwrs
Rhaid bod eich cwrs:
- yn gwrs Gradd Meistr annibynnol llawn (h.y. nad yw’n gwrs atodol)
- yn werth o leiaf 180 o gredydau
- wedi dechrau ar 1 Awst 2019 neu wedi hynny
- yn para rhwng 1 a 4 blynedd
Gall fod yn:
- gwrs llawn-amser neu ran-amser
- yn gwrs a addysgir neu sy’n seiliedig ar ymchwil
Mae enghreifftiau o gyrsiau Gradd Meistr ôl-raddedig yn cynnwys:
- cwrs MSc (Meistr yn y Gwyddorau)
- cwrs MA (Meistr yn y Celfyddydau)
- cwrs MPhil (Meistr mewn Athroniaeth)
- cwrs MRes (Meistr mewn Ymchwil)
- cwrs LLM (Meistr yn y Gyfraith)
- cwrs MLitt (Meistr mewn Llenyddiaeth)
- cwrs MFA (Meistr mewn Celfyddyd Gain)
- cwrs MEd (Meistr mewn Addysg)
- cwrs MBA (Meistr mewn Gweinyddu Busnes)
Cyllid hyfforddiant i athrawon
Os oes gennych radd i israddedigion yn barod ac os ydych yn bwriadu dilyn cwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon sy’n gwrs ôl-raddedig, dylech wneud cais am yr un cyllid â myfyriwr israddedig. Mae hynny’n golygu y gallech fod yn gymwys i wneud cais am gymorth o ran ffïoedd dysgu ac am help gyda’ch costau byw.
Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gael rhai cymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon. Dylech gysylltu â’ch prifysgol ynglŷn â’r rhain.
Dysgu o bell
Os byddwch yn astudio drwy ddysgu o bell, bydd angen i chi fod yn byw:
- yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
- ac yn y DU drwy gydol eich cwrs
Nid yw hynny fel rheol yn berthnasol:
- os ydych yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog
- os ydych dan 25 oed ac yn blentyn neu’n llysblentyn rhywun sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog
- os ydych yn briod neu’n bartner sifil rhywun sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog
- os ydych yn rhiant dibynnol, sy’n byw gyda rhywun sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog
Rhaid i wladolion yr UE fyw yng Nghymru drwy gydol eu cwrs.
Cyrsiau integredig
Ni fyddwch yn gymwys i gael cyllid Meistr Ôl-raddedig os yw’ch cwrs wedi’i integreiddio â:
- gradd israddedig – dylech wneud cais am gyllid i fyfyrwyr israddedig yn lle hynny
- gradd doethur – dylech wneud cais am Fenthyciad Gradd Doethur Ôl-raddedig yn lle hynny
Cyrsiau pensaernïaeth
Os ydych yn bwriadu astudio ar gyfer cymhwyster Meistr mewn Pensaernïaeth (MArch), gallwch wneud cais am gymorth i israddedigion ar yr amod ei fod yn gwrs Rhan 2 sy’n arwain at gymhwyster fel pensaer.
Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y bydd Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig ar gael ar gyfer cymhwyster MArch:
- os ydych yn newid eich dull astudio, er enghraifft o astudio’n llawn-amser i astudio’n rhan-amser
- os nad ydych yn gymwys i gael cyllid i israddedigion am reswm arall, er enghraifft os gwnaethoch dynnu’n ôl o gwrs blaenorol neu os gwnaethoch gymryd saib hir rhwng cwblhau eich cwrs Rhan 1 a dechrau eich cwrs Rhan 2
- os gwnaethoch ddechrau cwrs Rhan 1 mewn pensaernïaeth, a oedd yn gwrs rhan-amser, cyn 1 Medi 2018
Eich prifysgol neu’ch coleg
Rhaid bod eich prifysgol neu’ch coleg:
- yn y DU
- wedi’i gymeradwyo ar gyfer cyllid gan Lywodraeth Cymru
Gofynnwch i’ch prifysgol neu’ch coleg os nad ydych yn siŵr a yw’n gymwys.
Eich oedran
Rhaid eich bod dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.
Mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ar:
- 1 Medi, os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Awst a 31 Rhagfyr
- 1 Ionawr, os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth
- 1 Ebrill, os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin
- 1 Gorffennaf, os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Gorffennaf a 31 Gorffennaf
Eich astudiaethau blaenorol
Ni allwch gael Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig:
- os ydych wedi cael Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig neu Fenthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig yn barod
- mae gennych chi eisoes radd meistr, neu gymhwyster cyfatebol, fel gradd meistr integredig
- mae gennych chi eisoes gymhwyster sy’n uwch na gradd
Mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael cyllid os na wnaethoch lwyddo i gwblhau eich cwrs blaenorol oherwydd rheswm personol a chymhellol.
Mae salwch neu brofedigaeth yn enghreifftiau o resymau personol cymhellol, ond gellir adolygu amgylchiadau fesul achos. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hynny.
Cyllid arall
Ni allwch gael Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig os ydych yn cael cyllid gan:
- y cynllun KESS 2
- bwrsariaeth gwaith cymdeithasol (ond efallai y byddwch yn dal yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl)
- unrhyw gynlluniau cyfatebol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon
Hefyd, ni allwch gael cyllid Meistr Ôl-raddedig os byddwch yn dewis cael cyllid gan neu’n cael taliad trwy Fwrsariaeth GIG.