Eich llythyr Hysbysiad o Hawl


Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon y llythyr hwn atoch - bydd yn dweud wrthych beth y byddwch yn ei gael a phryd.

Gwirio bod y wybodaeth sydd yn y llythyr yn gywir

Pan fyddwch yn cael eich llythyr – gwiriwch y wybodaeth ganlynol:

  • faint y byddwch yn ei gael
  • pryd y byddwn yn eich talu
  • eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu
  • a oes angen i chi anfon rhywbeth atom

Dweud wrthym os yw’r wybodaeth yn anghywir neu’n hen

Rhowch wybod i ni ar unwaith. Gallwch ddiweddaru rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth hon yn eich cyfrif cyllid myfyrwyr.

Angen rhoi gwybod i ni am newid i’ch gwybodaeth?

Anfon unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth goll atom

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth neu dystiolaeth yn eich llythyr. Os byddwn yn gwneud hynny, dylech ei hanfon atom cyn gynted ag sy’n bosibl.

Mae’r pethau mwyaf cyffredin y byddwn yn gofyn amdanynt yn cynnwys eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu neu’ch rhif Yswiriant Gwladol (os ydych yn un o wladolion y DU). Ni allwn eich talu heb yr holl fanylion y mae arnom eu hangen.

Ni fydd unrhyw Lwfans Myfyrwyr Anabl i’w weld yn y llythyr hwn

Os ydych hefyd yn gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, byddwch yn cael llythyr ar wahân i gadarnhau hynny, sef Hysbysiad o Hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Os byddwch yn cael llythyr Hysbysiad o Hawl arall

Y rheswm tebygol am hynny yw ein bod wedi ailasesu’r hyn y mae gennych hawl iddo. Bydd y llythyr sydd â’r dyddiad diweddaraf bob amser yn disodli unrhyw lythyr yr ydych wedi’i gael yn barod.

Dylech ddarllen unrhyw lythyrau newydd yr ydych wedi’u cael, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod a oes unrhyw beth wedi newid. Os talwyd gormod o arian i chi, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ei ad-dalu’n gynharach nag y byddech yn ei wneud fel arfer.