Pwy sy’n gymwys


Bydd eich cymhwysedd i gael Benthyciad Gradd Doethur Ôl-raddedig yn dibynnu ar:

  • eich cenedligrwydd a’ch statws preswylio
  • eich cwrs
  • eich prifysgol neu’ch coleg
  • eich oedran
  • eich astudiaethau blaenorol

Eich cenedligrwydd a’ch statws preswylio

Gallech gael y cyllid hwn os gallwch nodi eich bod yn un o’r canlynol:

Rydych yn un o wladolion y DU neu’n ddinesydd Gwyddelig neu mae gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE neu rydych wedi cael caniatâd amhenodol i aros fel nad oes unrhyw gyfyngiadau ar ba mor hir y gallwch aros yn y DU.

Rhaid:

  • eich bod yn byw fel rheol yng Nghymru
  • eich bod wedi bod yn byw yn y DU, ar Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw am y tair blynedd cyn diwrnod cyntaf eich blwyddyn academaidd gyntaf

Os ydych wedi bod yn byw yn y DU, ei Hynysoedd neu Iwerddon, neu’r DU, ei Hynysoedd neu’r Tiriogaethau Tramor Prydeinig penodedig am y tair blynedd cyn dechrau eich blwyddyn academaidd gyntaf, gallech gael cyllid i astudio cwrs yng Nghymru.

Os ydych yn un o wladolion yr UE neu’n aelod o deulu un o wladolion yr UE

Gallech gael y cyllid hwn:

  • os oes gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • os ydych yn astudio yng Nghymru
  • wedi bod yn byw yn y DU, yr AEE, y Swistir neu’r Tiriogaethau Tramor am y tair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs

Nid oes angen i ddinasyddion Gwyddelig wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ond byddai angen iddynt fod yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 i gael cyllid dan y categorïau hyn.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys os ydych yn un o wladolion y DU (neu’n aelod o deulu un o wladolion y DU) neu’n ddinesydd Gwyddelig:

  • sydd wedi dychwelyd i’r DU ar 1 Ionawr 2018 neu wedi hynny ac erbyn 31 Rhagfyr 2020 ar ôl bod yn byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, neu
  • a oedd yn byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein ar 31 Rhagfyr 2020 ac sydd wedi bod yn byw yn y DU, yr UE, Gibraltar, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein yn ystod y 3 blynedd diwethaf

Mae cyllid ar gael hefyd i aelodau o deulu gwladolion y DU os oedd yr aelod o’r teulu yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am y tair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gallwch wneud cais am gyllid os ydych wedi bod yn byw yn y DU, Tiriogaethau Tramor, yr AEE neu’r Swistir am y 3 blynedd diwethaf a bod gennych un o’r canlynol:

  • os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a’ch bod yn aelod o deulu person o Ogledd Iwerddon
  • os oes gennych statws preswylydd yn Gibraltar fel un o wladolion yr UE neu aelod o deulu un o wladolion yr UE, neu fel un o wladolion y DU neu aelod o deulu un o wladolion y DU
  • os ydych wedi bod yn byw yn Gibraltar fel un o wladolion y DU neu aelod o deulu un o wladolion y DU
  • os ydych yn weithiwr mudol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir (gan gynnwys aelodau’r teulu) sydd â statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • os ydych yn blentyn i un o wladolion y Swistir a bod gennych chi a’ch rhiant statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Gallwch hefyd wneud cais am gyllid:

  • os ydych yn blentyn i weithiwr o Dwrci a bod eich rhiant/llys-riant sy’n weithiwr o Dwrci wedi cael caniatâd i aros am gyfnod estynedig yn y DU, ac mae angen eich bod chi a’ch rhiant/llys-riant sy’n weithiwr o Dwrci yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020
  • os ydych wedi cael gwarchodaeth ddyngarol (neu os oes gennych deulu sydd wedi cael gwarchodaeth ddyngarol)
  • os ydych wedi cael caniatâd i aros am resymau’n ymwneud â bywyd teuluol neu breifat, neu os ydych yn aelod o deulu rhywun sydd wedi cael caniatâd i aros am resymau’n ymwneud â bywyd teuluol neu breifat, a’ch bod wedi bod yn byw yn y DU a’r Ynysoedd am o leiaf 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • os ydych wedi cael caniatâd yn ôl disgresiwn, oherwydd cais aflwyddiannus am loches neu os na wnaed cais am loches, neu os ydych yn aelod o deulu rhywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
  • os ydych yn berson diwladwriaeth neu’n aelod o deulu person diwladwriaeth
  • os ydych wedi cael caniatâd i aros dan adran 67 Deddf Mewnfudo 2016, neu os ydych yn blentyn i rywun sydd wedi cael caniatâd i aros dan adran 67 Deddf Mewnfudo 2016
  • os ydych yn ffoadur (neu os oes unrhyw aelod o’ch teulu yn ffoadur)
  • os ydych wedi cael ‘caniatâd i aros’ yn y DU fel dioddefwr camdriniaeth neu drais domestig, neu os ydych yn blentyn dibynnol i rywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
  • os ydych wedi cael ‘caniatâd Calais’ i aros yn y DU
  • os ydych yn blentyn i rywun sydd wedi cael ‘caniatâd Calais’ i aros yn y DU, a’ch bod hefyd wedi cael caniatâd i aros yn y DU am yr un cyfnod â’ch rhiant (a elwir yn ‘ganiatâd oherwydd llinach’)
  • os ydych wedi cael ‘caniatâd i aros’ yn y DU fel partner gweddw, neu os ydych yn blentyn dibynnol i rywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
  • neu os yw’r aelod o’ch teulu wedi cael caniatâd i aros dan y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu'r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan
  • wedi cael caniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin, neu’r Cynllun Estyn Cyfnod Gwladolion o Wcráin.

Eich cwrs

Rhaid bod eich cwrs:

  • yn gwrs Gradd Doethur annibynnol llawn (h.y. nad yw’n gwrs atodol)
  • wedi dechrau ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny
  • yn para rhwng 3 ac 8 mlynedd

Gall fod yn:

  • gwrs llawn-amser neu ran-amser
  • yn gwrs a addysgir neu sy’n seiliedig ar ymchwil

Mae enghreifftiau o gyrsiau Gradd Doethur Ôl-raddedig yn cynnwys:

  • cwrs PhD (Doethur mewn Athroniaeth)
  • cwrs EdD (Doethur mewn Addysg)
  • cwrs EngD (Doethur mewn Peirianneg)

Cyllid hyfforddiant i athrawon

Os oes gennych radd i israddedigion yn barod ac os ydych yn bwriadu dilyn cwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon sy’n gwrs ôl-raddedig, dylech wneud cais am yr un cyllid â myfyriwr israddedig. Mae hynny’n golygu y gallech fod yn gymwys i wneud cais am gymorth o ran ffïoedd dysgu ac am help gyda’ch costau byw.

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gael rhai cymhellion Addysg Gychwynnol i Athrawon. Dylech gysylltu â’ch prifysgol ynglŷn â’r rhain. 

Dysgu o bell

Os byddwch yn astudio drwy ddysgu o bell, bydd angen i chi fod yn byw:

  • yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • ac yn y DU drwy gydol eich cwrs

Nid yw hynny fel rheol yn berthnasol:

  • os ydych yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog
  • os ydych dan 25 oed ac yn blentyn neu’n llysblentyn rhywun sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog
  • os ydych yn briod neu’n bartner sifil rhywun sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog
  • os ydych yn rhiant dibynnol, sy’n byw gyda rhywun sy’n gwasanaethu yn y lluoedd arfog

Rhaid i wladolion yr UE fyw yng Nghymru drwy gydol eu cwrs.

Cyrsiau integredig

Gallwch gael Benthyciad Gradd Doethur Ôl-raddedig os yw eich rhaglen ddoethurol yn cynnwys Gradd Meistr integredig, hyd yn oed os oes gennych Radd Meistr yn barod.

Eich prifysgol neu’ch coleg

Rhaid bod eich prifysgol neu’ch coleg:

  • yn y DU
  • ac yn sefydliad sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer cyllid gan Lywodraeth Cymru

Os oes mwy nag un brifysgol yn cyflwyno eich cwrs a bod un ohonynt dramor, byddwch yn dal yn gymwys i gael Benthyciad Gradd Doethur Ôl-raddedig ar yr amod:

  • mai’r brifysgol yn y DU yw’r sefydliad arweiniol
  • caiff o leiaf 50% o’r addysgu a’r goruchwylio ei ddarparu yn y DU

Gofynnwch i’ch prifysgol neu’ch coleg os nad ydych yn siŵr a yw’n gymwys.

Eich oedran

Rhaid eich bod dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.

Mae’r flwyddyn academaidd yn dechrau ar:

  • 1 Medi, os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Awst a 31 Rhagfyr
  • 1 Ionawr, os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth
  • 1 Ebrill, os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin
  • 1 Gorffennaf, os yw eich cwrs yn dechrau rhwng 1 Gorffennaf a 31 Gorffennaf

Eich astudiaethau blaenorol

Ni allwch gael Benthyciad Gradd Doethur Ôl-raddedig:

  • os ydych wedi cael Benthyciad Gradd Doethur Ôl-raddedig yn barod
  • os oes gennych Radd Doethur yn barod, neu gymhwyster sy’n gyfwerth â Gradd Doethur neu ar lefel uwch na hynny

Mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael cyllid os na wnaethoch lwyddo i gwblhau eich cwrs blaenorol oherwydd rheswm personol a chymhellol.

Mae salwch neu brofedigaeth yn enghreifftiau o resymau personol cymhellol, ond gellir adolygu amgylchiadau fesul achos. Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hynny.

Cyllid arall

Ni allwch gael Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig os ydych chi’n cael:

Mae hyn yn cynnwys unrhyw gynlluniau cyfatebol yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Hefyd ni allwch gael Benthyciad Doethuriaeth Ôl-raddedig os ydych chi’n:

  • derbyn neu gael eich talu Bwrsariaeth y GIG
  • yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn cael Bwrsariaeth Seicoleg Addysg
  • yn derbyn lwfans, bwrsariaeth neu wobr a wnaed gan Ymchwil ac Arloesedd y Deyrnas Unedig (UKRI) tuag at eich cwrs doethuriaeth ôl-raddedig.