Help ychwanegol i fyfyrwyr ag anabledd
Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl yn gymorth ychwanegol ar ben eich cyllid myfyrwyr arall, a gellir ei ddefnyddio i dalu am gostau’n ymwneud ag astudio, er enghraifft cost offer, cost help nad yw’n help meddygol, costau teithio a chostau llungopïo ac argraffu.
Gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl i dalu rhai o’r costau ychwanegol sydd gennych oherwydd problem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall.
Gallwch gael help gyda chostau:
- offer arbenigol, er enghraifft gliniadur os oes angen un arnoch oherwydd eich anabledd
- cynorthwywyr nad ydynt yn staff meddygol, er enghraifft dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu gymerwr nodiadau arbenigol
- costau teithio ychwanegol oherwydd eich anabledd, er mwyn mynychu eich cwrs neu’ch lleoliad
- costau astudio eraill sy’n gysylltiedig â’ch anabledd, er enghraifft cost gorfod argraffu copïau ychwanegol o ddogfennau er mwyn eu prawf-ddarllen.
Beth sydd ar gael
Bydd y cymorth y gallwch ei gael a beth y gallwch wario’r arian arno yn dibynnu ar eich anghenion unigol yn hytrach nag incwm eich cartref.
Nid oes angen i chi ad-dalu Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Gall myfyrwyr israddedig llawn-amser a rhan-amser a myfyrwyr ôl-raddedig gael hyd at:
- £33,146 ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024
- £32,546 ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023
Gellir defnyddio’r arian i dalu am gostau offer arbenigol a chynorthwy-ydd nad yw’n gynorthwy-ydd meddygol a thalu costau mwy cyffredinol a allai fod gennych.
Mae lwfans teithio ar gael hefyd i dalu am unrhyw gostau teithio cysylltiedig ag astudio a allai fod gennych oherwydd eich anabledd.
Pwy sy’n gymwys
Gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl os oes gennych anabledd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n effeithio ar eich gallu i astudio, megis:
- anhawster dysgu penodol, er enghraifft dyslecsia neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
- anhwylder iechyd meddwl, er enghraifft gorbryder neu iselder
- anabledd corfforol, er enghraifft os oes yn rhaid i chi ddefnyddio ffyn baglau, cadair olwyn neu fysellfwrdd arbennig
- anabledd synhwyraidd, er enghraifft os oes gennych nam ar eich golwg neu’ch clyw neu os ydych yn fyddar
- anhwylder iechyd hirdymor, er enghraifft canser, clefyd cronig y galon neu HIV.
Rhaid hefyd eich bod yn gymwys ar gyfer un o’r canlynol, hyd yn oed os nad ydych yn dymuno gwneud cais amdano:
Sut i wneud cais
Mae sut i wneud cais yn dibynnu ar ba fath o gwrs yr ydych yn ei astudio ac a ydych yn gwneud cais am gyllid arall i fyfyrwyr.
Ymgeisio ar-lein
Os ydych yn fyfyriwr israddedig amser llawn, gallwch ymgeisio ar-lein ar ôl i chi wneud cais am eich cyllid myfyriwr arall. Ni fydd raid i chi ailymgeisio am DSA pob blwyddyn.
Ymgeisio trwy’r post
Os nad ydych yn ymgeisio am unrhyw gyllid i fyfyrwyr arall neu os nad oes gennych gyfrif ar-lein, bydd angen i chi anfon ffurflen gais atom.
Bydd angen i chi hefyd anfon ffurflen gais atom os ydych yn fyfyriwr israddedig rhan-amser neu'n fyfyriwr ôl-raddedig.
- Ffurflen gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl – 2023 i 2024
- Ffurflen gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl – 2022 i 2023
Mae canllaw ar gael i’ch helpu i lenwi’r ffurflen ac sy’n esbonio pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon:
- Nodiadau ar gyfer gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl – 2023 i 2024
- Nodiadau ar gyfer gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl – 2022 i 2023
Os nad ydych yn gwneud cais am unrhyw gyllid myfyriwr arall, neu os ydych yn fyfyriwr israddedig rhan-amser neu’n fyfyriwr ôl-raddedig, bydd angen i chi ailymgeisio am DSA bob blwyddyn. Fel arfer ni fydd angen i chi anfon mwy o dystiolaeth atom oni bai bod eich anghenion wedi newid.
Profi eich anabledd
Edrychwch yn eich cyfrif ar-lein neu ar y ffurflen gais i weld pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon atom. Gallwch hefyd gyflwyno ffurflen tystiolaeth o anabledd:
Trefnu asesiad o anghenion
Ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn gofyn i chi fynychu asesiad anghenion i weld pa gymorth y bydd ei angen arnoch.
Peidiwch â threfnu’r asesiad hwn nes y byddwch wedi cael cyfarwyddyd i wneud hynny. Gall eich Lwfans Myfyrwyr Anabl dalu cost yr asesiad.
Ar ôl yr asesiad, byddwch yn cael gwybod pa offer a chymorth arall y gallwch eu cael ar gyfer eich cwrs.
Cael eich talu
Byddwn naill ai’n talu eich arian i’ch cyfrif banc neu’n ei dalu yn uniongyrchol i’r cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth neu’r offer.
Defnyddiwch y ffurflen hon os oes angen i chi hawlio ar gyfer costau yr ydych eisoes wedi’u talu: