Sut mae gwneud cais a phryd


Mae ceisiadau israddedig rhan amser ar gyfer 2026 i 2027 ar agor nawr!

Sut mae gwneud cais

Dylech wneud cais ar-lein (yn agor mewn tab newydd).

Os ydych chi'n ail-ymgeisio am gyllid myfyrwyr ar ôl tynnu'n ôl o gwrs neu ohirio'ch astudiaethau, darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs cyn 1 Medi 2018

Bydd angen i chi anfon ffurflen gais atom.

Pryd mae gwneud cais

Gallwch wneud cais yn awr ar gyfer:

  • 2026 i 2027
  • 2025 i 2026

Rhaid i chi wneud cais cyn pen 9 mis ar ôl dechrau eich blwyddyn academaidd. Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg cyn i chi wneud cais.

Ffurflenni cais

Er ein bod yn argymell gwneud cais ar-lein, mae gennym ffurflenni cais papur ar gael os oes angen un arnoch.