Sut mae gwneud cais a phryd
Bydd ceisiadau ar gyfer cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn 2025 i 2026 yn agor ddiwedd Mawrth.
Sut mae gwneud cais
Dylech wneud cais ar-lein. Os na allwch wneud cais ar-lein bydd angen i chi anfon ffurflen gais atom.
Os ydych yn gymwys i gael cyllid ffioedd dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Benthyciad Ffioedd Dysgu. Ni allwch wneud cais ar-lein.
Os ydych chi'n ail-ymgeisio am gyllid myfyrwyr ar ôl tynnu'n ôl o gwrs neu ohirio'ch astudiaethau, darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud.
Pryd mae gwneud cais
Gallwch wneud cais yn awr ar gyfer:
- 2024 i 2025
- 2023 i 2024
Rhaid i chi wneud cais cyn pen 9 mis ar ôl dechrau eich blwyddyn academaidd. Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg cyn i chi wneud cais.