Rhieni, gwarcheidwaid a phartneriaid
Lwfans wythnosol o £40 yr wythnos, a gaiff ei asesu ar sail incwm, yw LCA er mwyn helpu myfyrwyr 16 i 18 oed gyda chostau addysg bellach. Caiff y taliadau eu gwneud bob pythefnos yn uniongyrchol i gyfrif banc y myfyriwr, os byddant yn bodloni gofynion yr ysgol neu’r coleg o ran presenoldeb, perfformiad ac ymddygiad.
Os oes unrhyw un yn eich cartref yn cael LCA, ni fydd y taliadau hynny’n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy’n cael eu talu i chi neu’r myfyriwr.
Trothwyau ar gyfer incwm y cartref
Ceir dau drothwy gwahanol ar gyfer incwm y cartref. Eich amgylchiadau teuluol fydd yn penderfynu pa drothwy sy’n berthnasol i’r myfyriwr.
Incwm y cartref | Nifer y plant dibynnol (gan gynnwys y myfyriwr) | Dyfarniad |
---|---|---|
£0 - £20,817 |
1 |
£40 |
£20,818+ |
1 |
£0 |
£0 - £23,077 |
2+ |
£40 |
£23,078+ |
1+ |
£0 |
Beth y bydd angen i chi ei wneud
Er mwyn i’r myfyriwr fod yn gymwys i gael LCA, bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth am incwm y cartref i gefnogi ei gais.
Byddwn yn gofyn am wybodaeth am incwm y cartref 2 flwyddyn dreth yn ôl.
Er enghraifft
Os yw’r myfyriwr yn gwneud cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025, byddwn yn gofyn am wybodaeth ariannol o flwyddyn dreth 2022 i 2023.
Myfyrwyr dibynnol
Bydd angen eich manylion arnom os yw’r myfyriwr yn dibynnu arnoch yn ariannol ac os chi yw:
- rhiant/rhiant mabwysiol y myfyriwr
- llys-riant y myfyriwr
- gwarcheidwad y myfyriwr
- partner rhiant y myfyriwr.
Ni fyddwn yn gofyn am wybodaeth gan:
- unrhyw un o frodyr neu chwiorydd y myfyriwr, sy’n 21 oed neu’n hŷn ac sy’n byw yn yr un cartref â’r myfyriwr
- unrhyw riant, llys-riant neu warcheidwad nad yw fel rheol yn byw yn yr un cartref â’r myfyriwr (hyd yn oed os yw’n gwneud taliadau cynhaliaeth).
Myfyrwyr annibynnol
Os nad yw’r myfyriwr yn byw gyda’i riant/rhieni neu’i warcheidwad/gwarcheidwaid, ac os chi yw partner y myfyriwr, bydd angen i chi roi eich manylion ariannol chi ar y ffurflen gais.
Y dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon
Os yw eich incwm wedi gostwng yn barhaol ers blwyddyn dreth 2022 i 2023, gallwn asesu’r myfyriwr gan ddefnyddio incwm eich cartref yn ystod y flwyddyn bresennol. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth i gadarnhau’r gostyngiad parhaol mewn incwm. Mae’r nodiadau canllaw ymgeisio yn rhoi rhagor o wybodaeth am y mathau o dystiolaeth y gallwch ei hanfon.
Os oes dau riant/gwarcheidwad yn y cartref, yna rhaid i'r ddau ddarparu tystiolaeth o'u henillion, hyd yn oed os mai dim ond incwm un ohonynt sydd wedi gostwng.
Yn rhan o’r cais, mae’n bosibl y gofynnir i chi anfon tystiolaeth ynghylch unrhyw bobl ifanc eraill sydd yn y cartref. Bydd hynny’n ein helpu i benderfynu a yw’r myfyriwr yn gymwys i gael LCA neu beidio.
Mae’r nodiadau cyfarwyddyd ynghylch gwneud cais yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y mathau o dystiolaeth y gallwch eu hanfon.
Unwaith y bydd y myfyriwr wedi cael LCA, efallai y byddwn yn cysylltu yn y dyfodol a gofyn am dystiolaeth bellach. Diben hynny yw sicrhau bod y myfyriwr yn dal yn gymwys.