Cymhwystra


Cyn i chi wneud eich cais, mae yna rai pethau y dylech eu gwirio er mwyn sicrhau bod modd i chi gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach).

Oedran

Rhaid eich bod yn 19 oed neu’n hŷn ar 1 Medi 2023.

Cenedligrwydd a statws preswylio

Gallwch ymgeisio os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn wladolyn y DU, Dinesydd Gwyddelig neu gyda statws preswylydd sefydlog
  • byddwch yn byw yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • rydych wedi bod yn byw yn y DU a’i Hynysoedd am 3 blynedd cyn dechrau eich cwrs

Os nad yw’r rhain yn berthnasol i chi, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i wneud cais am GDLlC AB os ydych yn byw yng Nghymru. Edrychwch ar ein canllaw Cenedligrwydd a Manylion Preswylio am ragor o wybodaeth.

Cwrs

Er nad oes yn rhaid i chi astudio yng Nghymru i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), rhaid eich bod yn astudio mewn ysgol neu goleg sy’n cymryd rhan yn y cynllun Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach).

Rhaid bod eich cwrs:

  • yn mynnu eich bod yn bresennol am o leiaf 275 o oriau yn ystod y flwyddyn academaidd
  • yn cael ei gynnig mewn ysgol neu goleg sy’n cymryd rhan yn y cynllun
  • yn arwain at gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol, hyd at a chan gynnwys cymwysterau Lefel 3.

Mae yna lawer o gyrsiau y gallwch eu dilyn i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), er enghraifft:

  • Cyrsiau TGAU
  • Cyrsiau Safon UG neu Safon Uwch
  • Cyrsiau BTEC, GNVQ, NVQ
  • Cyrsiau sgiliau sylfaenol
  • Cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol neu, os ydych yn astudio yn Lloegr, cyrsiau Paratoi ar gyfer bod yn Oedolyn

Rhaid bod eich cwrs yn ‘gymwys’ ar gyfer cymorth ar ffurf Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach). Gall eich ysgol neu’ch coleg ddweud wrthych a yw’r cwrs yr ydych am ei ddilyn yn gymwys.

Os cawsoch chi Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) wrth astudio ar gwrs oedd ar yr un lefel â’r cwrs yr ydych yn gwneud cais ar ei gyfer (neu oedd ar lefel uwch na’r cwrs hwnnw), ni fyddwch yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn ystod y flwyddyn academaidd hon nac unrhyw flwyddyn academaidd yn y dyfodol.

Incwm eich cartref

Rhaid bod incwm eich cartref yn £18,370 neu lai i chi fod yn gymwys i gael y grant hwn.

Gall ein cyfrifiannell addysg bellach eich helpu i gyfrifo faint o arian y gallai fod gennych hawl i’w gael.

Mae gwybodaeth fanylach am incwm y cartref, gan gynnwys beth y dylech ei wneud os ydych yn berson sy’n gadael gofal, i’w chael yn yr adran am incwm y cartref.