Ceisiadau Addysg Bellach ar gyfer 2023 i 2024


Gwneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gyfer 2023 i 2024

Dylech wneud cais ar-lein drwy greu cyfrif neu fewngofnodi, os ydych eisoes wedi creu un. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd!

Os na allwch wneud cais ar-lein, bydd angen i chi lenwi ffurflen bapur yn lle hynny.

Gallwch lawrlwytho’r nodiadau yma.

Os nad oes modd i chi ddefnyddio argraffydd, gallwch gasglu pecyn gwneud cais o’ch ysgol neu’ch coleg.

Byddwn yn derbyn eich cais ac unrhyw dystiolaeth tan 31 Awst 2024.

Cofiwch lofnodi eich Cytundeb LCA yn yr ysgol neu’r coleg er mwyn cael eich arian ar ôl i ni brosesu eich cais.

I gael yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am LCA yn 2023 i 2024:

Gwneud cais am Grant Dysgu AB Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023 i 2024

Dylech ymgeisio ar-lein drwy greu cyfrif neu fewngofnodi. Dim ond tua 30 munud y dylai gymryd!

Os na allwch wneud cais ar-lein, bydd angen i chi lenwi ffurflen bapur yn lle hynny.

Os ydych yn gwneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Yna, gallwch lawrlwytho a llenwi’r ffurflen er mwyn ei hanfon atom. Mae nodiadau cyfarwyddyd ar gael i’ch helpu gyda’r ffurflen.

Os nad oes gennych chi argraffydd, gallwch chi gael pecyn cais o'ch ysgol neu goleg.

Gall ceisiadau gael eu derbyn hyd at 9 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs, a gellir derbyn tystiolaeth ar gyfer eich cais hyd at 12 mis ar ôl dyddiad dechrau eich cwrs. Er enghraifft, os dechreuodd eich cwrs ar 1 Medi 2023:

  • Bydd angen i chi anfon eich cais erbyn 31 Mai 2024
  • Bydd angen i chi ddarparu unrhyw dystiolaeth y mae arnom ei hangen erbyn 31 Awst 2024

Cofiwch lofnodi eich Cytundeb GDLlC AB yn eich coleg i gael eich arian ar ôl i ni brosesu eich cais.

I gael rhagor o wybodaeth am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) yn 2023 i 2024: