Lwfans Myfyrwyr Anabl – Caffael Cyflenwadau a Gwasanaethau


Ar ôl cael cymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cynnal ymarfer caffael er mwyn rhoi contractau ar waith ar gyfer darparu asesiadau o anghenion, technoleg gynorthwyol, hyfforddiant ynghylch technoleg gynorthwyol a gwasanaethau cymorth i gwsmeriaid sy’n cael Lwfans Myfyrwyr Anabl gan Gyllid Myfyrwyr Cymru a Chyllid Myfyrwyr Lloegr.

Bydd diweddariadau’n cael eu rhoi ar y dudalen hon wrth i’r ymarfer caffael fynd yn ei flaen.

Further to the supplier day on the procurement for Disabled Students’ Allowance (DSA) Supplies and Services, a procurement prospectus has been published. The prospectus can be accessed at the link below:

Diwygiadau i’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl Rhagolwg Ymgysylltu â’r Farchnad

Cafodd yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ei gyhoeddi ddydd Gwener 4 Chwefror. Gallwch ei weld drwy ddilyn y ddolen gyswllt isod:

Disabled Students’ Allowance (DSA) Supplies and Services - Find a Tender (find-tender.service.gov.uk)

Mae manylion i’w cael ar y dudalen hon am y diwrnod i gyflenwyr a fydd yn cael ei gynnal cyn bo hir mewn amgylchedd rhithiol ar MS Teams.

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ymateb i gwestiynau a gyflwynwyd drwy blatfform Delta eSourcing yn dilyn y cyflwyniad yn ystod y Diwrnod i Gyflenwyr.

Yn dilyn cyhoeddi’r cwestiynau a’r atebion, mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi darparu eglurhad. Gellir gweld yr eglurhad drwy ddilyn y ddolen gyswllt isod:

Lwfans Myfyrwyr Anabl - diwygio trefniadau caffael – ymateb i gwestiwn dilynol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb yng nghyswllt y gwaith diwygio trefniadau caffael. Gellir gweld yr Asesiad trwy ddilyn y ddolen gyswllt isod:

Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb – Diwygio trefniadau Caffael y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl

Ar ôl i gam cyntaf yr ymarfer caffael ddod i ben, cafodd diweddariad ei rannu â chyflenwyr sy’n ymwneud â’r Lwfans Myfyrwyr Anabl.