Cymorth ychwanegol
Gallai’r cymorth ychwanegol canlynol fod ar gael i fyfyriwr:
Diweddariad COVID-19
Bydd dal gan fyfyrwyr sy’n gorfod astudio ar-lein o gartref yn 2020 i 2021 yn hytrach na mynychu eu cwrs ar y campws yn eu prifysgol neu goleg hawl i unrhyw Grantiau Dibynyddion y maen nhw’n cymhwyso amdanynt.
Grant Gofal Plant
Gall myfyrwyr gael Grant Gofal Plant tuag at gost eu gofal plant os oes ganddynt blant mewn gofal plant cofrestredig a chymeradwy.
Bydd yr uchafswm Grant Gofal Plant sydd ar gael hyd at 85% o’u gwir gostau, ar sail dwyster eu cwrs.
Dwyster y cwrs | Uchafswm y Grant Gofal Plant os oes ganddynt un plentyn | Uchafswm y Grant Gofal Plant os oes ganddynt un plentyn |
---|---|---|
50 i 59% | £87.11 | £149.35 |
60 i 74% | £104.54 | £179.22 |
75% neu’n fwy | £130.67 | £224.02 |
Dyma enghraifft yn dangos y symiau wythnosol.
Nifer y plant | Eu cost gofal plant wythnosol | 85% o’u gwir gostau | Dwyster eu cwrs | Grant Gofal Plant sydd ar gael |
---|---|---|---|---|
1 | £90 | £76.50 | 50 i 59% | £38.25 |
1 | £90 | £76.50 | 60 i 74% | £45.90 |
1 | £90 | £76.50 | 75% neu’n fwy | £57.38 |
Os nad oes gan y myfyriwr ddarparwr gofal plant pan fyddant yn gwneud cais, yr uchafswm y gallant ei gael yw naill ai 85% o’u costau gofal plant neu’r cyfyngiad Grant Gofal Plant (pa bynnag un yw’r un isaf):
Dwyster y cwrs | Cyfyngiad y Grant Gofal Plant | |
---|---|---|
50 i 59% | £67.35 | |
60 i 74% | £80.82 | |
75% neu’n fwy | £101.03 |
Gellir ailasesu Grant Gofal Plant myfyrwyr ar ôl iddynt ddarparu manylion eu darparwr gofal plant.
Ni fyddant yn cymhwyso am y grant hwn os bydd naill ai’r myfyriwr neu eu partner yn hawlio elfen gofal plant y Credydau Treth Gwaith, y Credyd Cynhwysol, grantiau gofal plant a ariennir gan y GIG neu Ofal Plant Di-dreth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Lwfans Dysgu i Rieni
Cymorth ychwanegol yw’r Lwfans Dysgu i Rieni gyda’r nod o dalu am rai o’r costau ychwanegol sy’n cael eu gwario gan fyfyrwyr a chanddynt blant.
Yr uchafswm y gall myfyriwr ei gael yw £1,766 y flwyddyn. Gallant ond wneud cais am Lwfans Dysgu i Rieni os oes ganddynt un plentyn neu’n fwy (waeth beth yw eu hoedran) sy’n dibynnu arnynt yn ariannol.
Mae faint gallant ei gael yn dibynnu ar eu hincwm, incwm eu partner, plant ac unrhyw ddibynyddion eraill.
Dwyster y cwrs | Uchafswm y Lwfans Dysgu i Rieni sydd ar gael |
---|---|
50 i 59% | £883 |
60 i 74% | £1,059.60 |
75% neu’n fwy | £1,324.50 |
Grant Oedolion Dibynnol
Yr uchafswm y gall myfyriwr ei gael ar gyfer Grant Oedolion Dibynnol yw £3,094 y flwyddyn. Gallant ond wneud cais am Grant Oedolion Dibynnol os oes ganddynt bartner neu oedolyn arall sy’n dibynnu arnynt yn ariannol.
Mae faint gallant ei gael yn dibynnu ar eu hincwm, incwm eu partner, plant ac unrhyw ddibynyddion eraill. Mae’ch hawl yn dibynnu ar ddwyster eich cwrs hefyd.
Dwyster y cwrs | Uchafswm y Grant Oedolion Dibynnol sydd ar gael |
---|---|
50 i 59% | £1,547 |
60 i 74% | £1,856.40 |
75% neu’n fwy | £2,320.50 |
Nid yw uchafswm y Grant yn ystyried nifer yr oedolion dibynnol sydd gan fyfyriwr.
Dysgu o bell
Os yw myfyriwr yn astudio ar gwrs dysgu o bell, ni fydd yn gymwys i gael unrhyw un o'r grantiau hyn.
Fodd bynnag, pe bai'r cwrs fel arfer yn cael ei fynychu'n bersonol ond na all y myfyriwr wneud hynny o ganlyniad i anabledd neu gyflwr iechyd tymor hir, gallant wneud cais am y grantiau hyn.