Cymorth gyda chostau byw
Mae grantiau a benthyciadau ar gael ar gyfer myfyrwyr rhan-amser i’w helpu gyda chostau byw.
Diweddariad COVID-19
Bydd dal gan fyfyrwyr sy’n gorfod astudio ar-lein o gartref yn 2020 i 2021 yn hytrach na mynychu eu cwrs ar y campws yn eu prifysgol neu goleg hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth ac unrhyw grantiau y maen nhw’n cymhwyso amdanynt.
Bydd eu cyllid i fyfyrwyr yn cael ei dalu iddynt yn ôl yr arfer, fel petaen nhw’n astudio ar y safle yn eu prifysgol neu goleg.
Os ydy eu hamgylchiadau wedi newid a byddant bellach yn byw adref gyda rhieni yn hytrach na’u llety eu hunain, bydd angen iddynt ddiweddaru manylion eu lleoliad byw yn eu cyfrif ar-lein.
Bydd angen iddynt hefyd ddiweddaru eu cais os oedden nhw i fod astudio dramor eleni ond byddan nhw bellach yn aros yn y DU i astudio ar-lein gyda’u darparwr tramor.
Mae angen i fyfyrwyr wneud yn siŵr bod gennym y wybodaeth gywir ynghylch ble byddan nhw’n byw bob tymor, neu bydd rhaid iddynt ad-dalu unrhyw gyllid a ordalwyd iddynt.
Gallant ddiweddaru’r wybodaeth hon trwy fewngofnodi i’w cyfrif ar-lein nawr.
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Benthyciad Cynnal
Gall myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n parhau, sy’n dechrau cwrs ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny, wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru i helpu gyda’u costau byw. Nid oes yn rhaid ad-dalu’r grant hwn.
Gall myfyrwyr hefyd geisio am Fenthyciad Cynnal. Mae’r swm y gallant eu derbyn yn dibynnu ar ddwyster eu cwrs ac incwm eu cartref. I gael Benthyciad Cynnal, mae angen i fyfyrwyr fod o dan 60 ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn gyntaf academaidd eu cwrs. Rhaid talu’r Benthyciad Cynnal yn ôl.
Caiff Grant Dysgu’r Llywodraeth ei ddatrys yn gyntaf; caiff y gweddill ei wobrwyo fel Benthyciad Cynnal.
Gallai myfyrwyr cael cyfanswm Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Benthyciad Cynnal fyny hyd at £5,433.75
Mae’r tabl hwn yn dangos cyfanswm y cymorth sydd ar gael ar gyfer 2020 i 2021 yn seiliedig ar enghreifftiau o ddwyster y cwrs ac incwm y cartref.
Enghreifftiau o ddwyster cyrsiau | Enghreifftiau o incwm y cartref | Grant Dysgu Llywodraeth Cymru | Benthyciad Cynhaliaeth | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
75% or more |
£25,000 neu lai |
£4,500 |
£933.75 |
£5,433.75 |
£45,000 |
£2,307.75 |
£3,126 |
||
£59,200 neu ragor |
£750.00 |
£4,683.75 |
||
50% |
£25,000 neu lai |
£3,000 |
£622.50 |
£3,622.50 |
£45,000 |
£1,538.50 |
£2,084 |
||
£59,200 neu ragor |
£500 |
£3,122.50 |
||
25% |
£25,000 neu lai |
£1500 |
£311.25 |
£1,811.25 |
£45,000 |
£769.25 |
£1,042 |
||
£59,200 neu ragor |
£250 |
£1,561.25 |
Mae’r tabl hwn yn dangos cyfanswm y cymorth sydd ar gael ar gyfer 2019 i 2020 yn seiliedig ar enghreifftiau o ddwyster y cwrs ac incwm y cartref
Enghreifftiau o ddwyster cyrsiau | Enghreifftiau o incwm y cartref | Grant Dysgu Llywodraeth Cymru | Benthyciad Cynhaliaeth | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
75% neu'n fwy |
£25,000 neu lai |
£4,500 |
£611.25 |
£5,111.25 |
£45,000 |
£2,307.75 |
£2,803.50 |
||
£59,200 neu ragor |
£750 |
£4,361.25 |
||
50% |
£25,000 neu lai |
£3,000 |
£407.50 |
£3,407.50 |
£45,000 |
£1,538.50 |
£1,869 |
||
£59,200 neu ragor |
£500 |
£2,907.50 |
||
25% |
£25,000 neu lai |
£1,500 |
£203.75 |
£1,703.75 |
£45,000 |
£769.25 |
£934.50 |
||
£59,200 neu ragor |
£250 |
£1,453.75 |