Cael eich taliad cyllid myfyrwyr cyntaf

Yn disgwyl eich taliad cyllid myfyriwr cyntaf? Dyma’r hyn yr ydych angen ei wybod!

Os ydych chi'n cychwyn neu'n dychwelyd i gwrs yn fuan, byddwch yn edrych ymlaen at gael eich taliad cyllid i fyfyrwyr cyntaf. Gallwch wirio eich amserlen daliadau a’i statws trwy fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein.

Dilynwch y camau hawdd hyn i'ch helpu i gael eich talu ar amser:

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cyflwyno eich cais a rhoi unrhyw dystiolaeth sydd ei hangen arnom. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein a gwiriwch eich traciwr cais rhag ofn bod gennych unrhyw gamau i'w cwblhau.
  2. Gwiriwch fod eich manylion banc yn gywir yn eich cyfrif ar-lein. I wneud hyn, cliciwch ar 'Eich manylion personol' yn eich cyfrif. Os oes angen i chi eu diweddaru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud hyn o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn eich dyddiad talu.
  3. Cofrestru ar eich cwrs.* Efallai y gallwch wneud hyn ar-lein trwy wefan eich prifysgol neu goleg. Ni allwn wneud taliadau i chi nes bod eich prifysgol neu goleg yn cadarnhau eich bod wedi cofrestru. Byddwch yn cael eich gwahodd i wneud hyn gan eich prifysgol neu goleg yn nes at ddyddiad cychwyn eich cwrs.

*Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser neu ddysgu o bell a’ch bod yn cael Benthyciad Cynhaliaeth, bydd darparwr eich cwrs fel arfer yn cadarnhau eich cofrestriad 2 wythnos ar ôl i’ch cwrs ddechrau. Ni fydd eich amserlen dalu yn cael ei diweddaru hyd nes y byddwch wedi mynychu eich cwrs am 2 wythnos a’n bod wedi cael cadarnhad o’ch cofrestriad gan ddarparwr eich cwrs.

Cael eich talu

Gwyliwch ein ffilm i gael rhagor o wybodaeth am gael eich talu.

Cyn dechrau’r tymor bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd. Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy.

Beth mae eich statws talu yn ei olygu

Gallwch weld eich amserlen talu a statws yn eich cyfrif ar-lein.

Darganfyddwch beth mae eich statws talu yn ei olygu:

Statws taliad Beth y mae hynny’n ei olygu i chi

Gwirio manylion

Mae angen i ni wirio eich rhif Yswiriant Gwladol cyn y gallwn eich talu. Ewch i ‘Eich gweithredoedd’ i'w cwblhau i'w gofnodi.

Wedi Amserlennu

Rydyn ni wedi trefnu amserlen eich taliadau. Cyn y gallwn eich talu, bydd eich prifysgol neu goleg yn rhoi gwybod i ni eich bod wedi cofrestru gyda nhw. Byddant yn gwneud hyn pan fyddwch yn dechrau’ch cwrs.

Aros am gadarnhad

Mae angen i’ch prifysgol neu goleg roi gwybod i ni eich bod wedi cofrestru ar eich cwrs. Byddant yn gwneud hyn pan fyddwch yn dechrau’ch cwrs. Byddwn yn eich talu wedi i ni gael hyn.

Yn barod i dalu

Nid oes angen unrhyw beth arall gennych chi. Bydd eich taliad yn cael ei wneud ar y dyddiad a ddangosir.

Taliad ar y gweill

Mae eich taliad ar ei ffordd. Gall gymryd hyd at dri diwrnod gwaith iddo ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talwyd

Rydym wedi gwneud taliad i'ch cyfrif banc.

Wedi’i rwystro

Ni allwn eich talu. Dylech eisoes wybod am hyn. Os nad ydych, mae gennym ffyrdd gwahanol i chi gysylltu â ni.

Wedi'i ganslo

Rydym wedi canslo eich taliad. Dylech fod yn gwybod am hynny'n barod. Os nad ydych, mae gennym amryw ffyrdd y gallwch gysylltu â ni.

Wedi methu

Mae eich taliad wedi'i ddychwelyd atom. Ewch i ‘Eich manylion personol’ i wirio eich manylion banc.

Gwirio a ydym wedi cael cadarnhad o'ch cofrestriad

Nid oes angen i chi ein ffonio i wirio, y ffordd gyflymaf a hawsaf i ddarganfod a ydym wedi cael cadarnhad o'ch cofrestriad yw trwy wirio eich cais neu'ch statws talu.

Defnyddiwch y tabl isod i ddeall beth mae pob statws yn ei olygu:

Statws cais Statws Talu Beth mae hyn yn ei olygu

Wrthi'n cadarnhau'r holl fanylion

Aros am gadarnhad

Nid oes gennym gadarnhad o'ch cofrestriad

Derbyn taliadau

Yn barod i dalu

Rydym wedi cael cadarnhad o gofrestriad

Os yw eich prifysgol neu goleg wedi dweud wrthych eu bod wedi anfon cadarnhad o’ch cofrestriad atom, dylech ganiatáu hyd at 24 awr i’r statws yn eich cyfrif ar-lein gael ei ddiweddaru.

Os gwnaethoch gais hwyr

Os ydych yn gwneud cais nawr, dylech barhau i gael rhywfaint o arian yn agos at ddechrau’ch cwrs, cyn belled â'ch bod wedi darparu unrhyw dystiolaeth sydd ei hangen arnom a bod eich cais yn cael ei gymeradwyo.

Gan eich bod yn ymgeisio’n hwyr, efallai y cewch swm llai o grant i ddechrau.

Sicrhewch fod eich rhiant(rhieni) neu bartner wedi darparu manylion am incwm eich cartref er mwyn i ni allu gweithio allan faint fyddwch chi'n ei gael ac addasu eich cymhareb Benthyciad Cynhaliaeth a Grant.

Os ydych yn ystyried tynnu'n ôl neu ohirio'ch cwrs

Os ydych yn ystyried gadael eich cwrs, mae angen i chi sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i'ch prifysgol neu goleg cyn gynted â phosibl. Dylech hefyd gysylltu â ni, fel y gallwn atal eich taliad nesaf.

Ewch i'n tudalen am ragor o wybodaeth wrth adael neu ohirio eich cwrs.

Os yw'ch rhiant(rhieni) neu bartner yn cefnogi'ch cais

I wneud yn siŵr eich bod yn cael y swm llawn o grant y mae gennych hawl iddo, efallai y bydd angen i’ch rhiant(rhieni) neu bartner roi manylion am incwm eich cartref.

Dylent wneud hyn gan ddefnyddio eu cyfrif ar-lein eu hunain. Dylent wirio eu cyfrif yn rheolaidd rhag ofn y byddwn wedi gofyn iddynt am ragor o wybodaeth. Ni ddylent lanlwytho eu P60 oni bai ein bod yn gofyn amdani, gan y gallai hyn achosi oedi gyda'ch cais.

Os yw incwm eich rhiant(rhieni) neu bartner wedi gostwng

Byddwn yn gofyn i’ch rhiant(rhieni) neu bartner ddarparu manylion incwm o flwyddyn dreth 2021 i 2022 ar gyfer eich cais 2023 i 2024. Os yw eu hincwm wedi gostwng 15% neu fwy ers hynny, gallant wneud cais i gael defnyddio eu hincwm amcangyfrifiedig ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.

Dysgwch fwy am broses incwm y flwyddyn gyfredol.

Helpu eich ffrindiau i gael eu talu’n brydlon!

Yw eich ffrindiau hefyd yn disgwyl taliad cyntaf eu cyllid myfyrwyr?

Rhannwch y dudalen hon ar Facebook a Twitter i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael eu talu’n brydlon hefyd!