Canllaw 'sut i'

Bydd y canllaw hwn yn rhoi atebion i chi i'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae myfyrwyr israddedig a’r rhai sy'n cefnogi cais yn eu gofyn ar hyn o bryd.

Sut i wirio cynnydd eich cais

Pan fyddwch wedi gwneud cais, byddwch am gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais a beth sy'n digwydd nesaf.

Mae yna nifer o wahanol fathau o statws. Rydym wedi rhestru pob statws a beth mae'n ei olygu yn y tabl canlynol:

Statws Beth mae hyn yn ei olygu

Prosesu cais

Rydym yn prosesu eich cais. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy e-bost ac yn eich cyfrif ar-lein. Arferai'r statws hwn fod yn 'cais wedi ei gyflwyno'.

Wrthi'n cadarnhau'r holl fanylion

Mae eich cais wedi'i gymeradwyo ac rydym yn aros am gadarnhad o gofrestriad gan eich prifysgol/coleg. Pan fyddwn wedi cadarnhau popeth, byddwch yn barod i dderbyn eich taliadau. Arferai'r statws hwn fod yn 'wedi ei gymeradwyo'.

Derbyn taliadau

Rydym wedi derbyn cadarnhad o gofrestriad gan eich prifysgol neu goleg. Arferai'r statws hwn fod yn 'taliadau wedi'u hamserlennu'.

I weld eich traciwr cais:

  1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein
  2. Dewiswch 'Ceisiadau cyllid myfyriwr israddedig’
  3. Dewiswch y cais yr hoffech ei weld
  4. Dewiswch 'Eich statws' lle gallwch weld y traciwr

Sut i weld a deall eich statws talu

Er mwyn eich helpu i gyllidebu a pharatoi ar gyfer eich taliad nesaf, bydd yn helpu i wybod faint a phryd y cewch eich talu. Unwaith y bydd eich statws cais yn symud i 'cadarnhau'r holl fanylion', byddwch yn gallu gweld eich dyddiadau talu.

I weld eich amserlen taliadau, dilynwch y camau hyn:

  1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein
  2. Dewiswch 'Ceisiadau cyllid myfyriwr israddedig’
  3. Dewiswch y cais yr hoffech ei weld
  4. Sgroliwch i lawr i 'Amserlen Eich Taliadau' lle byddwch yn gweld eich taliadau Benthyciad Cynhaliaeth. Gallwch hefyd glicio ar y ddolen 'Gweld eich taliadau' os ydych am weld dadansoddiad manylach o'ch holl gyllid, gan gynnwys Benthyciad Cynhaliaeth, Benthyciad Ffioedd Dysgu ac unrhyw Grantiau y mae gennych hawl iddynt.

Mae yna nifer o wahanol fathau o statws. Rydym wedi rhestru pob statws a beth mae'n ei olygu yn y tabl canlynol:

Statws Beth mae hyn yn ei olygu

Wrthi'n gwirio manylion

Mae angen i ni wirio eich rhif Yswiriant Gwladol cyn y gallwn eich talu. Ewch i'r adran ‘Eich camau gweithredu sydd i'w cwblhau’ i'w nodi.

Wedi'i drefnu

Rydyn ni wedi trefnu amserlen eich taliadau. Cyn y gallwn eich talu, bydd eich prifysgol neu goleg yn rhoi gwybod i ni eich bod wedi cofrestru gyda nhw. Byddant yn gwneud hyn pan fyddwch yn dechrau’ch cwrs.

Yn aros am gadarnhad

Mae angen i’ch prifysgol neu goleg gadarnhau i ni eich bod wedi cofrestru ar eich cwrs. Byddant yn gwneud hyn pan fyddwch yn dechrau’ch cwrs. Byddwn yn eich talu wedi i ni gael hyn.

Taliad ar y gweill

Mae eich taliad ar y ffordd. Gall gymryd hyd at dri diwrnod gwaith iddo ymddangos yn eich cyfrif banc.

Yn barod i'w dalu

Nid oes arnom angen unrhyw beth arall gennych. Bydd eich taliad yn cael ei wneud ar y dyddiad a ddangosir.

Wedi'i dalu

Rydym wedi gwneud taliad i'ch cyfrif banc.

Wedi'i atal

Ni allwn eich talu. Dylech fod yn gwybod am hynny'n barod. Os nad ydych, mae gennym amryw ffyrdd y gallwch gysylltu â ni.

Wedi'i ganslo

Rydym wedi canslo eich taliad. Dylech fod yn gwybod am hynny'n barod. Os nad ydych, mae gennym amryw ffyrdd y gallwch gysylltu â ni.

Wedi methu

Mae eich taliad wedi'i ddychwelyd atom. Ewch i'r adran ‘Eich manylion personol’ i wirio eich manylion banc.

Wedi'i atal dros dro

Ni fyddwn yn gwneud rhagor o daliadau i chi ar hyn o bryd. Y rheswm am hynny yw eich bod wedi rhoi'r gorau dros dro i'ch cwrs.

Wedi'i dynnu yn ôl

Rydych wedi tynnu'n ôl o'ch cwrs. Mae hynny'n golygu na fyddwn yn gwneud rhagor o daliadau i chi.

Sut i wneud newidiadau i'ch cais

Efallai y bydd angen i chi ddiweddaru manylion eich prifysgol, coleg neu gwrs. Er enghraifft, os byddwch yn newid eich meddwl am ble neu beth rydych am ei astudio, neu os bydd eich amgylchiadau'n newid ar ôl y system glirio. I wneud newid, dilynwch y camau hyn:

  1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein
  2. Dewiswch 'Ceisiadau cyllid myfyriwr israddedig’
  3. Dewiswch y cais rydych chi'n ei ddymuno ei newid
  4. O dan y pennawd 'Rheoli eich cyllid myfyriwr', dewiswch 'Gweld a rheoli eich ceisiadau’
  5. Dewiswch 'Newid eich cais' ac yna dewiswch 'Newid eich cais' eto ar y dudalen nesaf
  6. Dewiswch 'Prifysgol/coleg a chwrs’
  7. Dewiswch 'Cyflwyno' unwaith i chi nodi a chadarnhau eich newidiadau

Mae'n bwysig gwneud unrhyw newidiadau cyn gynted ag y gallwch. Gall gymryd hyd at 6 wythnos i gymeradwyo unrhyw newidiadau. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod yr amser hwn, i sicrhau y gallwn brosesu eich newidiadau cyn gynted â phosibl.

Sut i lanlwytho tystiolaeth fel myfyriwr

Dim ond os ydym wedi gofyn i chi wneud hynny y dylech lanlwytho tystiolaeth i’ch cyfrif ar-lein, a dim on unwaith y dylech lanlwytho’ch dogfennau. Os byddwch yn lanlwytho tystiolaeth nad ydym wedi gofyn amdani neu os byddwn yn cael mwy nag un copi o’r un peth, gallai achosi oedi gyda’ch cais.

Os oes angen i chi anfon mwy nag un ddogfen atom, gall fod o gymorth i lanlwytho'r rhain gyda'ch gilydd. Mae hyn yn golygu y gallwn adolygu eich holl dystiolaeth ar yr un pryd a phrosesu eich cais yn gyflymach.

  1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein
  2. Dewiswch 'Ceisiadau cyllid myfyriwr israddedig’’
  3. Dewiswch y cais yr hoffech lanlwytho tystiolaeth ar ei gyferd
  4. O dan y pennawd ‘Rheoli eich cyllid myfyriwr’, dewiswch ‘Lanlwytho tystiolaeth ategol’
  5. Dilynwch y cyfarwyddiadau i lanlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur neu ffôn symudol, ni all y ffeil fod yn fwy na 16MB

Os ydych chi wedi lanlwytho tystiolaeth ac nad yw ‘eich gweithredoedd i’w cwblhau’ yn diweddaru, nid yw’n golygu nad yw eich dogfennau gennym ni. Unwaith y byddwn wedi gwirio’r hyn rydych wedi’i anfon, byddwn yn diweddaru eich rhestr o gamau gweithredu.

Nid oes angen i chi gysylltu â ni i wirio bod gennym eich dogfennau, ac os bydd angen unrhyw beth arall, byddwn mewn cysylltiad.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n tudalen dystiolaeth.

Sut i ddiweddaru eich manylion personol neu fanc

Mae'n bwysig eich bod yn cadw eich manylion cyswllt fel eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn symudol yn gyfredol rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â gwybodaeth bwysig am eich cyfrif. Dylech hefyd sicrhau bod eich manylion banc yn gyfredol er mwyn bod yn siŵr eich bod yn derbyn eich taliadau. Mae'n gyflym ac yn hawdd diweddaru'r rhain yn eich cyfrif, dilynwch y camau hyn:

  1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein
  2. Dewiswch 'Eich manylion personol' o'r ddewislen ar frig y dudalen
  3. Dewiswch 'Newid' wrth ymyl pa fanylion bynnag yr hoffech eu diweddaru
  4. Rhowch eich manylion newydd a dewiswch 'Parhau' i gadarnhau

Sut i wirio'ch gweithredoedd i'w cwblhau

Os ydych yn gwneud cais am gyllid myfyriwr neu’n cefnogi cais, efallai y bydd yn rhaid i chi gwblhau'r camau gweithredu sy'n weddill i sicrhau bod y cais yn cael ei gymeradwyo. I weld eich gweithredoedd heb eu cwblhau, dilynwch y camau hyn:

  1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein
  2. Dewiswch 'Ceisiadau cyllid myfyriwr israddedig’
  3. Dewiswch y cais yr hoffech ei weld
  4. Ewch i “Eich gweithredoedd i'w cwblhau”

Sut i gefnogi cais gyda manylion incwm eich cartref

Os ydych yn rhiant neu’n bartner i fyfyriwr, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi eich Rhif Yswiriant Gwladol (NINO) i ni er mwyn i ni allu defnyddio incwm eich cartref i gyfrifo faint o fenthyciad y gallant ei gael.

Os na allwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol, gallwch ei weld yn yr ap CThEF.

Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd eich plentyn neu bartner yn gwneud cais, dilynwch y cyfarwyddiadau i gefnogi eu cais.

Os na chewch e-bost, neu os ydych yn cefnogi mwy nag un myfyriwr, dilynwch y camau hyn i roi eich manylion i ni:

  1. Mewngofnodi neu greu cyfrif ar-lein.
  2. Dewiswch 'Ceisiadau cyllid myfyriwr israddedig’.
  3. Dewiswch y flwyddyn academaidd yr ydych yn rhoi eich manylion i ni ar ei chyfer.
  4. O dan y pennawd ‘Cychwyn rhywbeth arall’, dewiswch ‘Cefnogi cais myfyriwr am gyllid myfyriwr.
  5. Sgroliwch i lawr a dewis ‘Cefnogi cais am gyllid i fyfyrwyr’.
  6. Teipiwch fanylion eich plentyn neu bartner fel y gallwn eich cysylltu â’r cais.

Sut i lanlwytho tystiolaeth fel rhiant neu bartner

Ar ôl i chi roi manylion am incwm eich cartref, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am dystiolaeth. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch lanlwytho’r dystiolaeth i ni drwy eich cyfrif ar-lein. Dilynwch y camau hyn os byddwn yn gofyn am dystiolaeth gennych:

  1. Mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein
  2. O dan y pennawd ‘Rheoli eich cyllid myfyriwr’, dewiswch ‘Lanlwytho tystiolaeth ategol’
  3. Dewiswch ‘Lanlwytho tystiolaeth’
  4. Dilynwch y cyfarwyddiadau i lanlwytho ffeil o'ch cyfrifiadur neu ffôn symudol, ni all y ffeil fod yn fwy na 16MB

Cofiwch, dim ond os ydym wedi gofyn i chi wneud hynny y dylech anfon tystiolaeth, neu fe allai oedi cais y myfyriwr!

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen tystiolaeth i rieni a phartneriaid.

Sut i ailosod eich manylion mewngofnodi

Os yw cryn dipyn o amser wedi mynd heibio ers i chi fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein, efallai eich bod wedi anghofio rhai manylion. Peidiwch â phoeni, gallwch ailosod neu adennill y manylion hyn yn gyflym ac yn hawdd ar-lein:

  1. Ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
  2. Dewiswch y botwm 'Mewngofnodi’
  3. Dewiswch ‘Wedi anghofio’ch cyfeiriad e-bost neu CRN?’ neu ‘Wedi anghofio’ch cyfrinair?’
  4. Yna dilynwch y cyfarwyddiadau i adennill neu ailosod eich manylion