Cyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig
Os ydych yn dechrau cwrs Gradd Meistr Ôl-raddedig (a addysgir neu sy’n seiliedig ar ymchwil) o 1 Awst 2019 ymlaen, gallwch wneud cais am gyfuniad o fenthyciad a grant i helpu gyda chost eich cwrs a’ch costau byw.
Gall myfyrwyr y mae eu cwrs yn dechrau yn ystod blwyddyn academaidd:
- 2020/21 gael uchafswm o £17,489 sy’n cynnwys benthyciad a grant
- 2019/20 gael uchafswm o £17,000 sy’n cynnwys benthyciad a grant
Gellir defnyddio’r arian fel cyfraniad at gost eich cwrs a’ch costau byw.
Caiff llog ei godi ar Fenthyciadau Gradd Meistr Ôl-raddedig o’r diwrnod cyntaf y caiff yr arian ei dalu i chi. Byddwch yn dod yn gymwys i ddechrau ad-dalu’r benthyciad yn y mis Ebrill ar ôl i chi orffen neu adael y cwrs.
I gael gwybod mwy am ad-dalu, ewch i www.gov.uk/ad-dalu-eich-benthyciad-myfyrwyr
Os ydy'ch cwrs yn dechrau cyn 1 Awst 2019, bydd angen i chi wneud cais am Fenthyciad Gradd Meistr Ôl-raddedig
Cael gwybod am y cyllid sydd ar gael o 1 Awst 2020 ymlaen:
- Pwy all gael y cyllid hwn ?
- Faint o gyllid y galla’ i ei gael ?
- Sut a phryd mae gwneud cais
- Rhieni a phartneriaid
Ydych chi’n ystyried dechrau cwrs Gradd Meistr Ôl-raddedig eleni? Gwyliwch ein ffilmiau’n awr i gael gwybod faint o gyllid y gallwch ei gael.
Esboniad o gyllid Gradd Meistr Ôl-raddedig
Ydych chi'n cychwyn cwrs Gradd Meistr ôl-raddedig ac yn ystyried pa fath o gefnogaeth allwch chi ei gael gan Gyllid Myfyrwyr Cymru? Rydym yma i’ch helpu gyda’r ffilm fer hon.