
Sut a phryd i wneud cais
Ceisio ar-lein
Y ffyrdd cyflymaf a symlaf o ail-wneud cais yw ar-lein
Mae ond angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein ac ail-geisio. Hyd yn oed os nad ydych wedi ceisio ar-lein o’r blaen, nid oes angen i chi gofrestru gan y byddwch wedi derbyn cyfeirnod cwsmer a anfonwyd i chi yn y post.
Er yr ydym yn argymell i chi wneud cais ar –lein, mae dal gennym geisiadau papur os yr ydych yn dymuno derbyn un. Os yr ydych angen cais papur, cysylltwch gyda ni
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwdau yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi yn ein hymateb.
Dyddiadau cau
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am gyllid myfyriwr yn y flwyddyn academaidd 2020 i 2021 ydy 30 Mehefin 2020.
Os yr ydych yn gwneud cais wedi’r dyddiad cau nid ydych yn sicr i gael eich arian wedi ei dalu i’ch cyfrif banc ar gyfer dechrau’r tymor felly rydym yn argymell i chi wneud cais mor gynted â phosib os nad ydych eisoes wedi gwneud hyn.
Dyddiad cau olaf un ar gyfer ceisiadau
Gallwch wneud cais am hyd at 9 mis ar ôl dechrau’ch blwyddyn academaidd. Os byddwch yn gwneud cais ar ôl hyn, nid oes sicrwydd y byddwch yn cael unrhyw gyllid.