Myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs rhwng 1 Medi 2012 ac 1 Awst 2018
Gallech gael Benthyciad Ffïoedd Dysgu gwerth hyd at £9,250 os ydych yn astudio mewn prifysgol neu goleg cymwys yn y DU.
Nid oes cyfyngiadau ar y ffïoedd y gall prifysgolion neu golegau preifat yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, neu ddarparwyr cofrestredig cymeradwy yn Lloegr, eu codi.
Os nad ydych yn siŵr a yw cwrs yn gymwys ar gyfer cyllid myfyrwyr, gofynnwch i’r brifysgol neu’r coleg.
Gallwch ddewis cymryd y Grant Ffïoedd (os yw’n berthnasol) yn unig, ond bydd angen i chi dalu’r ffïoedd dysgu sy’n weddill eich hun.
Y cymorth sydd ar gael yn 2020/21
Uchafswm y Benthyciad Ffïoedd Dysgu sydd ar gael |
Uchafswm y Grant Ffïoedd sydd ar gael |
|
Yn astudio mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yng Nghymru |
£4,470 |
£4,530 |
Yn astudio mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon |
£4,720 |
£4,530 |
Yn astudio mewn prifysgol neu goleg preifat yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon |
£6,165 |
Dim Grant Ffïoedd ar gael |
Yn astudio gyda darparwr cofrestredig cymeradwy yn Lloegr |
£4,720 |
£4,530 |
Y cymorth sydd ar gael yn 2019/20
Uchafswm y Benthyciad Ffïoedd Dysgu sydd ar gael |
Uchafswm y Grant Ffïoedd sydd ar gael |
|
Yn astudio mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yng Nghymru |
£4,335 |
£4,665 |
Yn astudio mewn prifysgol neu goleg cyhoeddus yn yr Alban neu Ogledd Iwerddon |
£4,585 |
£4,665 |
Yn astudio mewn prifysgol neu goleg preifat yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon |
£6,165 |
Dim Grant Ffïoedd ar gael |
Yn astudio gyda darparwr cofrestredig cymeradwy yn Lloegr |
£4,585 |
£4,665 |
Astudio dramor, lleoliadau gwaith ac ERASMUS
Y cymorth sydd ar gael yn 2019/20 a 2020/21
Mae’r tabl canlynol yn dangos uchafswm y cymorth sydd ar gael.
Myfyrwyr sy’n astudio mewn prifysgol neu goleg: |
Ar ERASMUS ac:
|
Yn astudio dramor ac yn treulio llai na 10 wythnos yn eich prifysgol neu’ch coleg |
Ar flwyddyn lleoliad gwaith yn rhan o gwrs, ac yn treulio llai na 10 wythnos yn eich prifysgol neu’ch coleg |
Yng Nghymru |
£1,350 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £675 Grant Ffïoedd £675 |
£1,350 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £675 Grant Ffïoedd £675 |
£1,800 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £900 Grant Ffïoedd £900 |
Yn Lloegr |
£1,385 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £710 Grant Ffïoedd £675 |
£1,385 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £710 Grant Ffïoedd £675 |
£1,850 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £950 Grant Ffïoedd £900 |
Yn yr Alban |
£1,385 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £710 Grant Ffïoedd £675 |
£4,625 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £2,215 Grant Ffïoedd £2,410 |
£4,625 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £2,215 Grant Ffïoedd £2,410 |
Yng Ngogledd Iwerddon |
Amherthnasol |
£4,625 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £2,215 Grant Ffïoedd £2,410 |
£4,625 Benthyciad Ffïoedd Dysgu £2,215 Grant Ffïoedd £2,410 |
Ffurflen Gais Benthyciad Ffi Dysgu
Os yr ydych eisoes wedi ceisio am gyllid myfyriwr, y ffordd gyflymaf a’r hawsaf i newid swm y Benthyciad Ffi Dysgu yr ydych am ei fenthyg yw i fewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein ar yn ail, gallwch gwblhau a dychwelyd y ffurflen yma.
Llog ar eich Benthyciad Ffi Dysgu
Caiff llog ei godi ar eich Benthyciad Ffi Dysgu o’r diwrnod cyntaf bydd yr arian yn cael ei dalu i’ch prifysgol neu goleg hyd nes bod y benthyciad yn cael ei ad-dalu yn llawn neu ei ganslo.
Gallwch ddarganfod pa log fydd yn cael ei godi arnoch drwy fynd i GOV.UK.
Sut caiff ei dalu?
Caiff y Benthyciad Ffioedd Dysgu a'r Grant Ffioedd (os yn berthnasol) eu talu'n uniongyrchol i'ch prifysgol neu goleg.
Unrhyw beth arall y dylech ei wybod?
Nid yw’r Benthyciad Ffi Dysgu wedi ei asesu ar incwm, felly golyga nad yw eich hawl yn dibynnu ar incwm eich cartef. Os yr ydych yn tynnu'n ôl o’ch prifysgol neu goleg wedi i chi fynychu ar ddiwrnod cyntaf y tymor, efallai y byddwch yn atebol i dalu peth o'r ffioedd. Os oes angen i chi drafod hyn ymhellach, cysylltwch gyda’ch prifysgol neu goleg.