Os ydych yn parhau ar gwrs llawn-amser Addysg Gychwynnol Athrawon i Raddedigion, a ddechreuodd cyn 1 Awst 2018, yn dibynnu ar incwm eich cartref gallech fod yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru gwerth hyd at £5,161 (gweler y wybodaeth am gostau byw)
Hwyrach eich bod chi’n gymwys hefyd i gael rhai cymhellion ITE (gofynnwch i’ch prifysgol am y rhain).
Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl ar gael os oes gennych anabledd, anhwylder sbectrwm awtistiaeth, anhwylder iechyd hirdymor, anhwylder iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol.