Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSAs) ar gael os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl, anhwylderau sbectrwm awtistiaeth (ASD) neu anhawster dysgu penodol. Mae DSAs yn grantiau i helpu i dalu'r costau ychwanegol hanfodol sydd gennych o ganlyniad uniongyrchol i'ch anabledd. Rhaid i chi fodloni'r diffiniad o anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Parhau i ddarllen am fwy o wybodaeth neu ewch yn syth i sut mae gwneud cais.
Gallwch gael Lwfansau Myfyrwyr Anabl os yw eich anhwylder yn effeithio ar eich gallu i astudio ac os ydych:
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’ch anhwylder.
Nid yw swm yr DSAs a gewch yn seiliedig ar incwm eich cartref. Mae'n seiliedig ar eich anghenion unigol a'ch dwyster cwrs.
Mae'r tabl canlynol yn dangos y mathau o gymorth sydd ar gael a'r uchafsymiau sydd ar gael.
Lwfans | Uchafswm ar gael |
---|---|
Cynorthwy-ydd anfeddygol |
£17,443 y flwyddyn |
Cyfarpar arbenigol |
£5,849 ar gyfer y cwrs cyfan |
Lwfans cyffrediol |
£1,465 y flwyddyn |
Teithio yn ymwneud ag anabledd |
Gwariant rhesymol ar gostau teithio ychwanegol a achoswyd o ganlyniad i gyflwr y myfyriwr. |
Caiff DSA’s naill ai eu talu yn uniongyrchol i chi neu i unrhyw ddarparwr cyfarpar neu wasanaeth.
Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwyster cwrs o leiaf 25% i fod yn gymwys ar gyfer DSAs.
Gall gymryd tua 14 wythnos i brosesu cais am DSAs felly gwnewch gais cyn gynted ag y medrwch.
Nid oes unrhyw derfyn oed ar gael DSAs.
Os yr ydych am hawlio am dreuliau yr ydych eisoes wedi eu talu, ymwelwch â’n darganfyddwr ffurflennii wytho i lawr 'Ffurflen Hawlio am Ad-daliad o gostau drwy Lwfansau Myfyrwyr Anabl.’
Am ragor o wybodaeth, llwythwch i lawr canllaw Lwfansau Myfyrwyr Anabl: