Mae Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSAs) yn helpu i dalu unrhyw gostau ychwanegol y gallech eu cael o ganlyniad uniongyrchol i anabledd, gan gynnwys cyflwr iechyd hir dymor, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, megis dyslecsia neu ddyspracsia. Mae DSAs yn gyllid ychwanegol ar gael i fyfyrwyr nad ydynt fel arall wedi gallu mynychu cwrs addysg uwch. Rhaid i chi fodloni'r diffiniad o anabledd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Gallwch gael DSA os:
Nid yw swm yr DSAs a gewch yn seiliedig ar incwm eich cartref. Mae'n seiliedig ar eich anghenion unigol a'ch dwyster cwrs.
Mae'r tabl canlynol yn dangos y mathau o gymorth sydd ar gael a'r uchafsymiau sydd ar gael.
Lwfans: | Uchafswm ar gael: |
---|---|
Cynorthwy-ydd anfeddygol | £15,885 y flwyddyn |
Cyfarpar arbenigol | £5,332 am y cwrs cyfan |
Lwfans cyffredinol | £1,388 y flwyddyn |
Teithio yn ymwneud ag anabledd | Gwariant rhesymol ar gostau teithio ychwanegol sydd wedi eu hachosi o ganlyniad i gyflwr y myfyriwr. |
Caiff DSA eu talu naill ai yn uniongyrchol i chi neu i unrhyw gyflenwr cyfarpar neu wasanaeth.
Rhaid chi fod yn astudio ar ddwyster cwrs o leiaf 25% i fod yn gymwys ar gyfer DSAs.
Gall gymryd tua 14 wythnos i brosesu cais am DSAs felly gwnewch gais cyn gynted ag y medrwch.
Nid oes unrhyw derfyn oed ar gael DSAs.
Darganfyddwch Sut a phryd mae ceisio