Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig rhan-amser Cymreig

Grant Oedolion Dibynnol

Gallwch wneud cais am Grant Oedolion Dibynnol er mwyn talu rhai o’r costau ychwanegol a allai fod gennych os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd ag oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol.

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Nid oes yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Beth sydd ar gael

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref, incwm eich dibynyddion a ph’un a oes gennych bartner neu beidio. Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, bydd eich Grant Oedolion Dibynnol yn cael ei gyfrifo ar sail dwyster eich cwrs.

Blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Gallwch gael hyd at £3,322 y flwyddyn.

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Gallwch gael hyd at £3,262 y flwyddyn.

Pwy sy’n gymwys

Gallwch wneud cais am Grant Oedolion Dibynnol:

  • os oes gennych oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol
  • yn mynychu cwrs amser llawn neu ran-amser (gan gynnwys cwrs dysgu o bell) ac yn cael cyllid myfyriwr israddedig sy'n dibynnu ar incwm eich cartreff
  • os ydych dros 25 oed neu’n cael eich ystyried yn unigolyn annibynnol
  • os gwnaethoch ddechrau cwrs ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny, os ydych dan 25 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs, os ydych yn cael eich ystyried yn unigolyn annibynnol ac os ydych yn byw gyda phartner sy’n dibynnu arnoch yn ariannol

Ni allwch wneud cais:

  • os ydych yn gwneud cais ar gyfer plentyn
  • os ydych yn gwneud cais ar gyfer eich plentyn eich hun sy’n oedolyn
  • os ydych yn gwneud cais ar gyfer rhywun sydd eisoes yn cael cyllid myfyrwyr

Ni fyddwch yn gymwys os oes gan yr oedolyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol incwm o dros £3,923 y flwyddyn, oni bai mai eich gŵr, eich gwraig neu’ch partner yw’r oedolyn hwnnw.

Sut mae gwneud cais

Gallwch roi gwybod i ni yn eich cais am eich prif gyllid myfyrwyr a ydych am wneud cais am Grant Oedolion Dibynnol. Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, byddwn yn anfon y ffurflen atoch er mwyn i chi wneud cais am y Grant yn eich cyfrif ar-lein.

Os ydych eisoes wedi anfon eich cais am gyllid myfyrwyr atom heb lenwi’r adran ar gyfer grantiau dibynyddion, bydd angen i chi anfon ffurflen gais yn lle hynny:

Anfon tystiolaeth atom

Bydd angen i chi anfon tystiolaeth o’ch oedolyn dibynnol. Dylech anfon copi o’r canlynol:

  • llythyr sy’n esbonio pam y mae’r oedolyn yn dibynnu arnoch
  • ffurflen P60 sy’n dangos incwm yr oedolyn
  • eich tystysgrif priodas, os ydych dan 25 oed ac yn hawlio ar gyfer eich gŵr neu’ch gwraig

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn ag anfon tystiolaeth atom, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am dystiolaeth.

Cael eich talu

Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn ar ddechrau pob tymor fel rheol.

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chael eich talu, ewch i’n tudalen bwrpasol sy’n rhoi canllawiau am daliadau.