Eglura'r dudalen yma am y grant a'r benthyciad i fyfyrwyr rhan-amser i helpu gyda chostau byw.
Os ydych chi’n gorfod astudio ar-lein o’r cartref yn 2020 i 2021 yn hytrach na mynychu’ch cwrs ar y campws yn eich prifysgol neu goleg, bydd dal gennych hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth ac unrhyw grantiau rydych chi’n cymhwyso amdanynt.
Bydd eich cyllid i fyfyrwyr yn cael ei dalu i chi yn ôl yr arfer, fel petaech yn astudio ar y safle yn eich prifysgol neu goleg.
Os ydy’ch amgylchiadau wedi newid ac y byddwch chi bellach yn byw adref gyda rhieni yn hytrach na’ch llety eich hun, bydd angen i chi ddiweddaru manylion eich lleoliad byw yn eich cyfrif ar-lein.
Bydd angen i chi hefyd ddiweddaru’ch cais os oeddech i fod astudio dramor eleni ond byddwch chi bellach yn aros yn y DU i astudio ar-lein gyda’ch darparwr tramor.
Mae angen i chi wneud yn siŵr bod gennym y wybodaeth gywir am ble byddwch chi’n byw bob tymor, neu gallai fod rhaid i chi ad-dalu unrhyw gyllid a ordalwyd i chi.
Gallwch ddiweddaru’r wybodaeth hon trwy lofnodi i mewn i’ch cyfrif ar-lein nawr.
Mae Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG) a Benthyciad Cynnal yn helpu gyda chostau byw, megis bwyd, llyfrau, rhent a threuliau eraill tra eich bod yn astudio. Mae'r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar ddwyster eich cwrs ac incwm cartref.
Byddwn ninnau’n cyfrifo faint o WGLG y gallwch ei gael yn gyntaf, a bydd gweddill eich cyllid myfyriwr yn cael ei wobrwyo fel Benthyciad Cynnal.
Mae’r tabl dilynol yn dangos yr uchafswm y gallwch ei gael ar gyfer 2020 i 2021 ar sail dwyster eich cwrs ac incwm eich cartref
Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwyster cwrs o leiaf 25% i gael WGLG a Benthyciad Cynnal.
Esiampl o ddwyster cwrs |
Incwm cartref |
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru |
Benthyciad cynnal |
Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
25% | £25,000 neu lai | £1,500 | £311.25 | £1811.25 |
£45,000 | £769.25 | £1,042 | ||
£59,200 neu fwy | £250 | £1,561.25 | ||
50% | £25,000 neu lai | £3,000 | £622.50 | £3,622.50 |
£45,000 | £1,538.50 | £2,084 | ||
£59,200 neu fwy | £500 | £3122.50 | ||
75% neu fwy | £25,000 neu lai | £4,500 | £933.75 | £5,433.75 |
£45,000 | £2,307.75 | £3,126 | ||
£59,200 neu fwy | £750 | £4683.75 |
Telir WGLG a Benthyciad Cynnal yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc ar ddechrau pob tymor. Dim ond wedi i chi gofrestru ar eich cwrs a bod eich presenoldeb wedi'i gadarnhau gan eich prifysgol neu goleg bob tymor fydd hyn yn digwydd.
Rhaid i chi ad-dalu'ch Benthyciad Cynnal gan gynnwys unrhyw log. Ychwanegir llog at eich balans benthyciad o'r diwrnod y gwneir y taliad benthyciad cyntaf i'ch prifysgol neu goleg.
Bydd disgwyl i chi ddechrau ad-dalu unrhyw Fenthyciad Cynnal y mis Ebrill pedair blynedd ar ôl dechrau eich cwrs neu fis Ebrill ar ôl i chi orffen neu adael eich cwrs, pa un bynnag sy'n dod gyntaf.
Gallwch ganfod rhagor o wybodaeth am ad-dalu benthyciadau myfyrwyr ar www.gov.uk/ad-dalu-eich-benthyciad-myfyrwyr.
Nid oes angen talu WGLG yn ôl oni bai eich bod chi'n gadael eich cwrs neu os oes newid yn eich amgylchiadau sy'n arwain at or-daliad
Darganfyddwch Darganfyddwch sut a phryd mae cais.