Gallwch geisio am Fenthyciad Ffi Dysgu i helpu i dalu costau'r ffioedd dysgu a godir gan eich prifysgol neu goleg.
Os yr ydych wedi eich derbyn ar y rhaglen gyfnewid Erasmus, ni fyddwch yn gymwys i gael Benthyciad Ffi Dysgu.
Rhaid i chi fod yn astudio ar ddwyster cwrs o leiaf 25% i gael Benthyciad Ffi Dysgu.
Eich lleoliad astudio | Benthyciad Ffi Dysgu ar gael yn 2020 i 2021 |
---|---|
Os yr ydych mewn prifysgol neu goleg Cymraeg neu’n astudio mewn Prifysgol Agored |
£2,625 |
Os yr ydych mewn prifysgol neu goleg DU tu allan i Gymru |
£6,935 |
Os yr ydych mewn prifysgol neu goleg wedi ei ariannu’n breifat tu allan i Gymru |
£4,625 |
Os ydy eich prifysgol neu goleg yn codi tâl yn fwy na'r Benthyciad Ffi Dysgu sydd ar gael, bydd yn rhaid i chi ariannu'r gwahaniaeth eich hun (gallai hyn fod yn wir am brifysgol neu goleg a ariennir yn breifat).
Gall prifysgolion a cholegau osod lefel ffioedd dysgu eu hun ac nid oes cyfyngiad i'r swm y gallant godi. Rhaid i gwrs mewn prifysgol neu goleg preifat fod wedi ei ddynodi'n benodol gan Lywodraeth Cymru i chi fod yn gallu cael cyllid myfyriwr.
Rydym yn talu Benthyciad Ffi Dysgu yn uniongyrchol i’ch prifysgol neu goleg mewn tri rhandaliad o fewn y flwyddyn academaidd. Rydym ninnau’n gwneud y taliadau wedi i ni dderbyn cadarnhad gan eich prifysgol neu goleg eich bod yn bresennol ar eich cwrs.
Rhaid i chi ad-dalu eich Benthyciad Ffi Dysgu gan gynnwys unrhyw log. Caiff llog ei ychwanegu i’ch balans benthyciad o’r dyddiad caiff y taliad benthyciad cyntaf ei wneud i’ch prifysgol neu goleg.
Gallwch ddarganfod pa log fydd yn cael ei godi arnoch drwy fynd i www.gov.uk/ad-dalu-eich-benthyciad-myfyrwyr.
Nid yw swm y Benthyciad Ffi Dysgu y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref.
Os byddwch chi'n tynnu'n ôl o'r brifysgol neu'r coleg ar ôl mynychu ar ddiwrnod cyntaf y tymor, efallai y byddwch yn atebol i dalu rhai o'ch ffioedd. Os oes angen i chi drafod hyn ymhellach, cysylltwch gyda’ch prifysgol neu goleg.
Darganfyddwch sut a phryd mae ceisio