Os yr ydych chi'n astudio cwrs rhan-amser newydd ar neu ar ôl 1 Awst 2018, gallech gael Benthyciad Ffi Dysgu, Grant Dysgu Llywodraeth Cynulliad Cymru a Benthyciad Cynnal
Mae gallu cael cyllid i fyfyrwyr yn dibynnu ar y canlynol:
Byddychchi'n gallu cael cyllid myfyrwyr os:
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os yr ydych yn cwrdd ag anghenion un o gategorïau preswylfa y DU sydd wedi eu rhestru yn y Rheoliad addas megis fel ffoadur yn byw yn y DU.
Os nad ydych chi’n cwrdd â’r tri amod, gallwch barhau i wneud cais am gefnogaeth os yr ydych yn cwrdd ag anghenion un o’r categorïau preswyl a restrwyd:
I fod yn gymwys i fod yn berson diwladwriaeth rhaid ei bod wedi byw yn y DU am o leiaf tair blynedd cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd eu cwrs.
Rhaid i’ch cwrs arwain at gymhwyster mewn un o’r canlynol:
Rhaid i'ch cwrs barhau am o leiaf blwyddyn ac mae'n rhaid i chi ei chwblhau mewn dim mwy na phedair gwaith hyd cyfwerth llawn-amser.
Os yr ydych wedi cael eich derbyn ar y rhaglen gyfnewid Erasmus, ni fyddwch yn gymwys cael Benthyciad Ffi Dysgu.
Rhaid i'r brifysgol neu goleg rydych chi’n bwriadu astudio ynddi/ynddo fod yn y Deyrnas Unedig a gall fod yn un wedi’i (h)ariannu’n gyhoeddus (y llywodraeth yn talu) neu wedi’i (h)ariannu’n breifat ond yn rhedeg cyrsiau unigol sy’n cael cyllid cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru.
Gall prifysgolion a cholegau osod lefel ffioedd dysgu eu hun ac nid oes cyfyngiad i'r swm y gallant godi. Rhaid i gwrs mewn prifysgol neu goleg preifat fod wedi ei ddynodi'n benodol gan Lywodraeth Cymru i chi fod yn gallu cael cyllid myfyriwr.
Nid oes terfyn oedran i fod yn gymwys ar gyfer Grant Dysgu Llywodraeth rhan-amser. Rhaid i chi fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn gyntaf eich cwrs i gael Benthyciad Cynnal rhan amser.
Nid ydych yn gymwys ar gyfer cefnogaeth rhan-amser:
I geisio am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Benthyciad Cynnal byddwn angen manylion eich incwm ac incwm eich partner os oes gennych un.
Dwyster cwrs yw pa mor hir mae’n ei gymryd i gwblhau eich cwrs rhan-amser o’i gymharu gyda chwrs cyfatebol llawn-amser.
Mae pob modiwl rydych chi'n ei astudio werth nifer o gredydau. Dylech gytuno faint o gredydau y byddwch chi'n eu hastudio gyda’ch prifysgol neu goleg.
Pan fyddwch yn ceisio, bydd angen i chi wybod faint o gredydau y byddwch chi'n eu hastudio am y flwyddyn. Byddwn yn defnyddio hyn i weithio allan eich dwyster ar gyfer pob blwyddyn academaidd.
I geisio am Fenthyciad Ffi Dysgu, Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a / neu Benthyciad Cynnal, bydd angen i chi gael dwyster cwrs o leiaf 25% yn y flwyddyn academaidd.
Gall unrhyw astudiaeth blaenorol, yn cynnwys y blynyddoedd wnaethoch ddechrau ond na wnaethoch eu cwblhau, eu cymryd i ystyriaeth wrth i ni ddatrys sawl blwyddyn o’ch cwrs newydd y gallwch gael cyllid myfyriwr.
Ni fyddwch fel arfer yn gallu cael cyllid myfyriwr os yr ydych eisoes yn dal gradd Anrhydedd y DU. Er hynny, os yr ydych yn fyfyriwr newydd yn dechrau cwrs gradd rhan-amser o 1 Medi 2017 yn un o’r ardaloedd pwnc canlynol, efallai bydd hawl gennych i gyllid myfyriwr:
Os nad ydych yn sicr a fyddwch chi’n gymwys, cysylltwch gyda ni i drafod hyn ymhellach.