
Sut a phryd i wneud cais
Ceisio ar-lein
Mae 3 cam syml i wneud cais ar-lein:
- Cofrestru gyda ni
- Mewngofnodi i’ch cyfrif cyllid myfyriwr a chyflwyno eich cais
- darparu gydag unrhyw dystiolaeth berthnasol
Er yr ydym yn argymell i chi wneud cais ar –lein, mae dal gennym geisiadau papur os yr ydych yn dymuno derbyn un. Os yr ydych angen cais papur, cysylltwch gyda ni.
Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwdau yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi yn ein hymateb.
Tystiolaeth hunaniaeth
Gallwch gadarnhau eich hunaniaeth drwy ddarparu rhif eich pasbort ar eich cais. Os nad ydych wedi cynnwys manylion eich pasbort yn eich cais bydd rhaid i chi anfon Ffurflen Manylion Pasport DU.
Peidiwch ag anfon eich pasbort atom ni.
- Ffurflen Manylion Pasbort y DU 2021 i 2022 - i ddod yn fuan!
- Ffurflen Manylion Pasbort y DU 2020 i 2021
Os nad oes gennych basport dilys y DU, bydd angen i chi anfon atom eich Tystysgrif Geni neu Fabwysiadu'r DU wreiddiol neu basport o’r tu allan i’r DU yn lle hynny.
Dyddiadau Cwblhau
Os yr ydych yn gwneud cais wedi’r dyddiad cau nid ydych yn sicr i gael eich arian wedi ei dalu i’ch cyfrif banc ar gyfer dechrau’r tymor felly rydym yn argymell i chi wneud cais mor gynted â phosib os nad ydych eisoes wedi gwneud hyn.
Dyddiad terfynol ar gyfer gwneud ceisiadau
Gallwch wneud cais am hyd at 9 mis ar ôl dechrau’ch blwyddyn academaidd. Os wnewch gais wedi hyn, does dim sicrwydd y byddwch yn derbyn unrhyw gyllid.