Os byddwch yn dechrau cwrs israddedig llawn-amser ym mlwyddyn academaidd 2020-21, mae’n siŵr y bydd gennych rai cwestiynau am gyllid myfyrwyr. Rydym yma i ateb y cwestiynau hynny fel eich bod yn deall beth y gallwch ei gael a sut mae gwneud cais.
A allaf gael cyllid myfyrwyr?
- Yn un o wladolion y DU ac wedi bod yn byw yn y DU am y 3 blynedd diwethaf
- Yn byw yng Nghymru fel rheol
- Yn astudio ar gyfer eich gradd gyntaf
Os ydych yn bodloni’r meini prawf hyn, gallech fod yn gymwys i gael y pecyn cymorth llawn tra byddwch yn astudio.
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn bodloni’r meini prawf hyn, oherwydd mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael cyllid myfyrwyr o hyd os ydych yn bodloni ein meini prawf eraill ar gyfer cymhwyso.
Faint y gallaf ei gael?
Gallwch wneud cais am Fenthyciad Ffïoedd Dysgu i dalu eich ffïoedd dysgu ac am Grant Cynhaliaeth i’ch helpu gyda’ch costau byw. Gallwch gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru hefyd, na fydd angen i chi ei ad-dalu.
Bydd swm y cyllid myfyrwyr y bydd gennych hawl iddo wedi’i seilio ar ble’r ydych yn byw ac yn astudio yn ystod y tymor. Mae hynny’n golygu na fydd y swm y gallwch ei gael wedi’i seilio ar incwm eich cartref.
Yn byw gyda’ch rhieni | Yn byw oddi cartref ac yn astudio y tu allan i Lundain | Yn byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain | |
---|---|---|---|
Uchafswm y cymorth y gallwch ei gael o ran cynhaliaeth | £8,335 | £9,810 | £12,260 |
Yr unig bryd y byddwn yn defnyddio incwm eich cartref fydd i gyfrifo faint o’r swm y mae gennych hawl iddo fydd yn Fenthyciad Cynhaliaeth a faint ohono fydd yn Grant Cynhaliaeth. Er enghraifft, os ydych yn byw gyda’ch rhieni yn ystod y flwyddyn academaidd ac os yw incwm eich cartref yn £25,000, bydd cyfanswm y swm y mae gennych hawl iddo yn £8,335. Bydd y swm hwnnw’n cynnwys Benthyciad Cynhaliaeth o £2,405 a Grant Cynhaliaeth o £5,930.
Benthyciad Ffïoedd Dysgu | Cymorth o ran Cynhaliaeth | Grant Cynhaliaeth |
---|---|---|
Hyd at £9,250 | Hyd at £12,260 Yn dibynnu ar ble’r ydych yn byw ac yn astudio |
O leiaf £1,000 - Hyd at £10,124 Yn dibynnu ar incwm eich cartref |
Cymorth ychwanegol
Gallwch gael cyllid myfyrwyr ychwanegol os oes gennych blant neu oedolion sy’n dibynnu arnoch yn ariannol. Nid oes angen i’r grantiau hyn gael eu had-dalu.
Lwfans Dysgu Rhieni | Grant Gofal Plant | Grant Oedolion Dibynnol |
---|---|---|
Hyd at £1,766 Yn dibynnu ar incwm eich cartref |
Hyd at £174.22 yr wythnos (ar gyfer un plentyn yn unig) Hyd at £298.69 yr wythnos (ar gyfer 2 neu fwy o blant) Yn dibynnu ar incwm eich cartref |
Hyd at £3,094 Yn dibynnu ar incwm eich cartref |
Mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd os oes gennych anabledd, sy’n cynnwys anhwylder iechyd hirdymor, anhwylder iechyd meddwl, anhwylder sbectrwm awtistiaeth neu anhawster dysgu penodol. Gallwch wneud cais am Lwfansau Myfyrwyr Anabl i helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol yr ydych yn eu hwynebu o ganlyniad uniongyrchol i’ch anabledd.
Pryd y gallaf wneud cais?
Mae’r cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau am gyllid myfyrwyr israddedig llawn-amser wedi agor.
Y ffordd hawsaf o wneud cais yw ar-lein – mewngofnodwch i’ch cyfrif yn awr!
Dilynwch ni ar Twitter a Facebook i fod ymhlith y cyntaf i gael gwybod pryd y bydd y cyfnod ar gyfer gwneud ceisiadau’n cael ei lansio.