Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) 2025 i 2026


Beth yw Cyllid Myfyrwyr Cymru?

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn wasanaeth a ddarparir gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Rydym yn darparu cymorth ariannol ar ran Llywodraeth Cymru i fyfyrwyr o Gymru sy'n cychwyn ar gwrs addysg uwch yn y Deyrnas Unedig.

Bydd y canllaw yma yn helpu os ydych chi’n ymgeisio am gymorth ychwanegol oherwydd bod gennych chi anabledd, yn cynnwys cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl, anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) neu anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia.

Rydym yn croesawu ceisiadau Cymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at oedi i anfon ymateb.

Am fwy o offerynnau ac arweiniad neu i wneud cais, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Gallwch weld diweddariadau rheolaidd ar Facebook, Twitter ac YouTube hefyd:

Canllaw am beth yw hwn?

Mae'r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth am Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl (DSA) ar gyfer myfyrwyr addysg uwch newydd a myfyrwyr addysg uwch sy'n parhau.

Fe'ch ystyrir yn anabl dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os oes gennych chi nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau dydd i ddydd arferol.

Mae DSA yn gymorth ychwanegol i dalu'r costau hanfodol a allai fod gennych o ganlyniad uniongyrchol i'ch anabledd, yn cynnwys cyflwr iechyd tymor hir, cyflwr iechyd meddwl, anhwylder sbectrwm awtistiaeth (ASD) neu anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia. Fel arfer nid oes rhaid i chi dalu hwn yn ôl.

Diben yr wybodaeth yn y llyfryn hwn yw cynnig arweiniad yn unig, ac nid yw'n ystyried pob sefyllfa.

Os nad ydych yn byw yng Nghymru fel arfer, gallwch gael rhagor o wybodaeth am beth sydd ar gael yn y man lle'r ydych yn byw o'r gwefannau canlynol:

A oes rhaid i mi ddweud wrth fy mhrifysgol neu goleg am fy anabledd?

Gallwch gael DSA heb ddweud wrth eich prifysgol neu goleg, ond mae o gymorth os byddant yn gwybod er mwyn i chi gael yr holl gymorth y mae angen i chi ei gael. Os nad ydych yn dymuno dweud wrth eich prifysgol neu goleg, dylech gynnwys llythyr sy'n nodi hyn gyda'ch cais.

Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n anghyfreithlon i brifysgolion a cholegau wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr anabl trwy eu trin mewn ffordd lai ffafriol wrth gynnig lleoedd a darparu gwasanaethau.

Dan y Ddeddf, rhaid i brifysgolion a cholegau wneud 'addasiadau rhesymol' fel nad yw myfyrwyr anabl dan anfantais arwyddocaol o'u cymharu â myfyrwyr eraill nad ydynt yn anabl.

A ydw i'n gymwys?

Gallwch gael DSA os oes gennych anabledd, gan gynnwys cyflwr iechyd hirdymor, cyflwr iechyd meddwl, anhwylder ar y sbectrwm Awtistiaeth (ASD) neu anhawster dysgu penodol sy'n effeithio ar eich gallu i astudio, a'ch bod ar gwrs amser llawn neu ran-amser cymwys:

  • cwrs israddedig (er enghraifft, gradd, neu gwrs lefel HND) gan gynnwys Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) a chyrsiau dysgu o bell
  • cwrs ôl-raddedig, gan gynnwys AGA a chyrsiau dysgu o bell

Ni fydd unrhyw astudio blaenorol yn effeithio ar eich cymhwystra i gael DSA, hyd yn oed os cawsoch gymorth ariannol. Fodd bynnag, os cawsoch DSA ar gyfer unrhyw offer arbenigol am gwrs blaenorol, ystyrir hyn.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau oedran ar gael DSA.

Ni allwch gael DSA os ydych:

  • yn cael cymorth sy'n cyfateb i DSA gan ddarparwr cyllid arall
  • yn gymwys ar gyfer cyllid ffioedd dysgu yn unig
  • yn cael bwrsariaeth gan y GIG
  • yn cael cyllid gan gyngor ymchwil
  • yn cael cyllid gan Gynghorau Ymchwil y Deyrnas Unedig
  • yn fyfyriwr ar gwrs rhyngosod sydd ar leoliad am 10 wythnos neu fwy

Efallai y gallech gael DSA o hyd os ydych yn cyflawni mathau penodol o brofiad gwaith di-dâl yn y sector cyhoeddus neu'r sector gwirfoddol. Os nad ydych yn gymwys i gael DSA yn ystod eich blwyddyn ar leoliad, efallai y byddwch yn gallu cael help gan gynllun Mynediad i Waith.

Gweler Taflen Mynediad at Waith Busnes Cymru am ragor o wybodaeth: businesswales.gov.wales/skillsgateway/skills-and-training-programmes/recruitment-and-staffing/access-work.

Nid ydych yn gallu cael DSA ar gyfer mwy nag un cwrs yr un pryd.

Myfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr y Brifysgol Agored (OU)

I gael DSA, rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer cwrs rhan-amser (yn cynnwys y rhai a ddarperir gan y Brifysgol Agored) neu gwrs israddedig neu ôl-raddedig y Brifysgol Agored sy'n parhau am o leiaf un flwyddyn ac nad yw'n cymryd mwy na phedair gwaith yn fwy o amser i’w gwblhau na chwrs cyfatebol amser llawn.

Mae gwybodaeth bellach am beth allwch ei gael a sut i wneud cais ar gael ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

A ydw i'n gymwys?

Sut fyddaf yn dangos fy mod yn gymwys?

Mae'r tabl canlynol yn dangos pa dystiolaeth feddygol y bydd angen i chi ei hanfon atom. Cofiwch gadw copi i chi’ch hun o unrhyw beth fyddwch chi'n anfon atom.

Ar gyfer anableddau corfforol neu synhwyraidd, cyflyrau iechyd hirdymor a chyflyrau iechyd meddwl. Llythyr gan eich Meddyg Teulu neu Ffurflen Tystiolaeth Anabledd wedi'i llenwi a'i llofnodi gan feddyg neu arbenigwr cymwys arall.
Ar gyfer anawsterau dysgu penodol Adroddiad diagnostig llawn wedi ei lungopïo, wedi ei gynhyrchu gan:
  • Ymarferydd seicolegol, neu
  • athro arbenigol sy'n meddu ar Dystysgrif Arfer Asesu gyfredol.
Ar gyfer anhwylderau sbectrwm awtistiaeth Llungopi o un o’r canlynol:
  • datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) gan awdurdod lleol,
  • Cynllun Gofal Iechyd Addysgol, neu
  • datganiad ysgrifenedig neu lythyr gan feddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol cymwys i gadarnhau effeithiau hirdymor eich anhwylder ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau beunyddiol, yn cynnwys addysg.
  • Cynllun Datblygu Unigol

Beth allaf ei gael?

Uchafswm y DSA y gallwch ei gael yw hyd at £34,000 o gefnogaeth y flwyddyn ar gyfer 2025 i 2026. Mae hyn ar gael i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig newydd ac sy'n parhau.

Nid yw beth allwch chi ei gael yn ddibynnol ar incwm yr aelwyd, ond mae'n dibynnu ar eich asesiad anghenion.

Gallwch gael help gyda:

  • Offer arbenigol – er enghraifft, cyfrifiadur os ydych chi angen un oherwydd eich anabledd
  • Helpwyr anfeddygol – er enghraifft dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) neu arbenigwr i gymryd nodiadau
  • Cefnogaeth gyffredinol - er enghraifft, gorfod argraffu copïau ychwanegol o ddogfennau i'w prawfddarllen

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth ychwanegol i dalu am wariant rhesymol ar gostau teithio ychwanegol sy’n gysylltiedig ag astudio sydd gennych o ganlyniad i’ch cyflwr.

Sut mae’n cael ei dalu?

Yn y mwyafrif o achosion, bydd yn cael ei dalu'n uniongyrchol i’r darparwr ar gyfer y gwasanaeth, er enghraifft:

  • eich prifysgol / coleg - asiantaeth cefnogaeth - cwmni tacsi

Os ydych yn hawlio costau teithio gan ddefnyddio ‘ffurflen hawlio DSA, sydd ar gael gan www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk, bydd yr arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif banc. Cofiwch gadw unrhyw dderbynebau neu anfonebau fel tystiolaeth.

Oes rhaid i mi ei dalu nôl?

Na, oni bai eich bod yn gadael eich cwrs yna gynnar, ble gofynnir i chi dalu rhywfaint yn ôl.

Unrhyw beth arall?

Os gofynnir i chi fynychu Asesiad Anghenion Astudio, gellir defnyddio eich DSA i dalu am yr asesiad ac unrhyw gostau teithio i fynychu.

Os ydych chi angen rhagor o gymorth neu gyngor, gallwch siarad yn uniongyrchol a’r cynghorydd anabledd yn eich prifysgol neu goleg.

Beth yw Asesiad Anghenion Astudio?

Mae Asesiad Anghenion Astudio yn ein helpu i ddysgu sut gallwn gynorthwyo eich anghenion yn ystod eich cyfnod mewn prifysgol neu goleg.

Unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo, byddwn yn cadarnhau pa un o’n darparwyr fydd yn cynnal eich Asesiad Anghenion: Study Tech neu Capita. Dylai eich darparwr gynnig apwyntiad i chi o fewn 7 diwrnod gwaith o gysylltu â chi gyntaf. Byddwch yn gallu dewis apwyntiad ar ddyddiad gwahanol os yw’n gweddu’n well i’ch anghenion.

Nid prawf mo hwn – ond yn syml, eich cyfle i gael sgwrs anffurfiol ag aseswr anghenion am eich anabledd a’r effaith y mae’n ei gael ar eich astudiaethau.

Yn ystod eich Asesiad Anghenion Astudio, bydd eich cynghorydd yn gwerthuso pa fath o gymorth mae gofyn i chi ei gael er mwyn eich cynorthwyo yn ystod eich astudiaethau.

Mae hyn yn helpu i baratoi adroddiad sy'n argymell unrhyw offer arbenigol neu gymorth ychwanegol a allai helpu gyda'ch astudiaethau.

Dim ond am un asesiad o anghenion y byddwn yn talu oni bai bod eich cwrs neu anghenion yn newid yn sylweddol. Os ydych yn anhapus â’ch asesiad anghenion cychwynnol, dylech gysylltu â ni drwy e-bostio: SFW_DSA_Team@slc.co.uk

Budd-daliadau

Ni all y rhan fwyaf o fyfyrwyr amser llawn gael budd-daliadau seiliedig ar incwm megis y Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm neu Fudd-dal Tai. Fodd bynnag, efallai y bydd grwpiau penodol (gan gynnwys rhieni sengl, cyplau sy'n fyfyrwyr ac y mae ganddynt blant dibynnol a rhai myfyrwyr anabl) yn gallu cael budd-daliadau seiliedig ar incwm yn ystod y cyfnod pan fyddant yn astudio. Bydd Canolfan Byd Gwaith ac adran Budd-dal Tai eich awdurdod lleol yn ystyried unrhyw Fenthyciad Cynhaliaeth (a rhai grantiau myfyrwyr) y gallwch eu cael. Ni ystyrir DSA.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.gov.uk.

Sut a phryd ddylwn i wneud cais?

Cam 1

Myfyrwyr amser llawn newydd

Gallwch wneud cais am DSA ar-lein ar ôl i chi gyflwyno eich cais am gyllid i fyfyrwyr. I wneud cais, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser newydd

Gallwch wneud cais am DSA trwy lenwi ffurflen gais am DSA, y gallwch ei lawrlwytho o www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Cam 2

Ar ôl i chi wneud cais a bod eich cais wedi’i gymeradwyo, byddwn yn anfon llythyr atoch gyda manylion eich cyflenwr i drefnu eich asesiad o anghenion. Os byddwch yn rhoi caniatâd, byddwn yn trosglwyddo eich manylion yn uniongyrchol i’r cyflenwr a fydd mewn cysylltiad i drefnu hyn.

Cam 3

Byddwn yn cael copi o'r adroddiad asesiad anghenion a byddwn yn ei ddefnyddio i greu eich llythyr hawl DSA2. Bydd hwn yn dweud wrthych pa gymorth a ddyfarnwyd i chi, yn seiliedig ar argymhellion yr asesydd anghenion. Bydd hefyd yn dweud wrthych sut i gael gafael ar eich cymorth.

Fel arfer, ni fyddwn yn mynnu bod myfyrwyr yn ailymgeisio am DSA bob blwyddyn.

Bydd angen i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig rhan-amser, neu'r rhai sy'n gwneud cais am DSA yn unig, lenwi ffurflen DSA1 bob blwyddyn. Fodd bynnag, ni fydd angen i chi ailgyflwyno tystiolaeth oni bai bod eich anghenion wedi newid.

Fel arfer, ni fyddwn yn mynnu bod myfyrwyr yn ailymgeisio am DSA bob blwyddyn. Pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr, dylech roi tic yn y blwch sy'n nodi eich bod yn dymuno gwneud cais am DSA am bob blwyddyn o'ch cwrs.

Gallwch ymgeisio am Lwfans Myfyrwyr Anabl yn Gymraeg neu Saesneg.

Sut a phryd ddylwn i wneud cais?

Myfyrwyr GIG

Os ydych yn cael cyllid gan y GIG, gallwch droi at y wefan sef pcgc.gig.cymru/ein-gwasanaethau/gwasanaethau-dyfarniadau-myfyrwyr/

Os ydych yn cael bwrsariaeth gwaith cymdeithasol israddedig, dylech wneud cais i ni.

Secondeion GIG

Os ydych yn cael eich cyflogi gan y GIG ac os byddwch yn cael eich secondio (trosglwyddo dros dro) i gwrs gofal iechyd, ni fyddwch yn gymwys i gael bwrsariaethau neu DSA gan GIG fel arfer. Fodd bynnag, gallwch gael DSA gennym ni os byddwch yn bodloni'r amodau cymhwysedd.

Cynghorau Ymchwil

Os ydych yn cael cyllid gan gynghorau ymchwil, gallwch droi at y wefan sef www.ukri.org am ragor o wybodaeth ynghylch sut i wneud cais am DSA.

Gwybodaeth a chysylltiadau

Cyllid Myfyrwyr Cymru

Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

Gallwch ein ffonio hefyd ar 0300 200 4050 (ffôn testun: 0300 100 1693) rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Disability Rights UK

Mae Disability Rights UK yn cynnal llinell gymorth am ddim sy'n darparu gwybodaeth a chyngor i fyfyrwyr anabl, ac mae'n cyhoeddi ‘Into Higher Education’, canllaw blynyddol i fyfyrwyr anabl sy'n ystyried dilyn cwrs addysg uwch. Ewch i wefan Disability Rights UK sef www.disabilityrightsuk.org.

Ffôn: 0330 995 0414 (11am tan 1pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau.)

E-bost: students@disabilityrightsuk.org

Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS)

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan yr NUS sef www.nus.org.uk/nus-wales.

Gwybodaeth a chysylltiadau

Cymdeithas Genedlaethol Cynghorwyr Ariannol Myfyrwyr (NASMA)

Mae NASMA yn elusen sy'n gweithio i helpu myfyrwyr trwy ddarparu cyngor, gwybodaeth a hyfforddiant. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar www.nasma.org.uk.

Gwasanaeth Cynghori a Chymorth ynghylch Cydraddoldeb (EASS)

Gall llinell gymorth EASS roi gwybodaeth ac arweiniad am faterion sy'n ymwneud â chydraddoldeb, gwahaniaethu a hawliau dynol.

Ffôn: 0808 800 0082 Ffôn testun: 0808 800 0084

Mae'r llinellau ar agor rhwng 9am a 7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 10am a 2pm ar ddydd Sadwrn.

Ewch i wefan EASS sef www.equalityadvisoryservice.com.

Gallwch lawrlwytho rhagor o gopïau o'r canllaw hwn ar-lein ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk. Gallwch hefyd archebu ffurflenni a chanllawiau mewn Braille, print mawr neu sain trwy anfon e-bost yn cynnwys eich manylion ac yn nodi pa ffurflen a fformat rydych ei hangen at brailleandlargefonts@slc.co.uk neu gallwch ein ffonio ar 0141 243 3686. Sylwer, dim ond ceisiadau am fformatau amgen o’n ffurflenni a chanllawiau y bydd y cyfeiriad e-bost a’r rhif ffôn uchod yn ymdrin â nhw.