Asesiadau i derfynu incwm blwyddyn bresennol


Gan fod y flwyddyn dreth wedi dod i ben, rydym bellach yn cwblhau’r broses derfynol ar incwm y flwyddyn gyfredol ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024. Mae'r dudalen hon ar gyfer rhieni a phartneriaid nad ydynt yn gallu darparu'r dystiolaeth rydym wedi gofyn amdani. Neu heb dderbyn ein cais e-bost.

Os nad oes gennych eich P60 eto neu os na allwch ddod o hyd iddi

Rydym yn deall efallai nad oes gennych eich tystiolaeth ariannol ar gyfer blwyddyn dreth 2023-24 eto neu efallai y byddwch yn ei chael yn anodd rhoi’r dystiolaeth rydym wedi gofyn amdani.

Peidiwch â phoeni os na allwch roi eich P60 i ni, gallwn dderbyn copi o’ch slip cyflog Mawrth 2024 cyn belled â’i fod yn dangos cyfanswm ffigurau’r flwyddyn hyd yma.

Os nad oes gennych e-bost ynglŷn â chwblhau asesiad incwm y flwyddyn gyfredol a/neu os ydych yn ansicr sut i wneud hyn

Rydym wedi anfon e-bost at rieni a phartneriaid myfyrwyr i ofyn iddynt gadarnhau eu gwybodaeth ariannol.

Os na chawsoch yr e-bost hwn, dilynwch y camau isod i gwblhau'r asesiad.

  • Lawrlwytho a chadw’r Ffurflen Cadarnhad Gwybodaeth Ariannol (PDF, 285KB). Cwblhewch y ffurflen ac yna ei lanlwytho i’ch cyfrif ar-lein drwy fynd i’r cais a gefnogwyd gennych ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 a dewis ‘lanlwytho tystiolaeth ategol’
  • Lanlwythwch eich tystiolaeth ariannol blwyddyn dreth 2023-24. Mae’r ffurflen yn esbonio pa ddogfennau allwch chi ddarparu.
  • Does dim angen i chi lofnodi'r ffurflen os ydych chi'n ei lanlwytho i’ch cyfrif ar-lein. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis lanlwytho’r ffurflen trwy gyfrif rhywun arall, dylai'r ffurflen fod wedi ei llofnodi a dyddio yn defnyddio inc neu ni fyddwn yn gallu ei derbyn.

Os na allwch lanlwytho’ch ffurflen, dylech ei dychwelyd gyda llungopïau clir o’ch tystiolaeth i:

Cyllid Myfyrwyr Cymru
Blwch Post 211
Cyffordd Llandudno
LL30 9FU

Gall gymryd 4 i 6 wythnos i’w brosesu, ond byddwn yn cysylltu â’r myfyriwr drwy e-bost neu’r post cyn gynted ag y byddwn wedi diweddaru’r cais. Gallant hefyd wirio eu cyfrif am ddiweddariadau.

Os ydych yn hunan-asesu neu’n hunangyflogedig ac yn methu â darparu tystiolaeth eto

Os nad ydych wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2023-24 ac na allwch ei wneud tan yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gallwch ohirio’r cwblhau.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen rydym wedi’i hanfon atoch o hyd a chadarnhau eich amcangyfrifon cyfredol. Ticiwch y blwch yn adran 5 i roi gwybod i ni nad ydych wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth eto. Byddwn yn cysylltu â chi ym mis Chwefror 2025 i’ch atgoffa i anfon eich tystiolaeth.

Os nad oes gennych incwm i'w ddatgan

Mae dal angen i chi ddychwelyd y Ffurflen Cadarnhad Gwybodaeth Ariannol (PDF, 285KB) a chynnwys nodyn i roi gwybod i ni nad oes gennych unrhyw incwm i'w ddatgan.

Unwaith y byddwn yn cael eich ffurflen, efallai y byddwn yn cysylltu â chi eto i gael rhagor o wybodaeth am sut y gwnaethoch gefnogi eich hun.

Os bydd noddwr yn marw ar ôl i asesiad incwm y flwyddyn gyfredol gael ei ddyfarnu

Os bydd noddwr yn marw ar ôl dyfarnu asesiad incwm y flwyddyn gyfredol i’r myfyriwr, bydd angen i ni weld tystysgrif marwolaeth y noddwr ymadawedig a thystiolaeth ariannol i gwblhau’r cais.

Anfonwch lythyr eglurhaol yn egluro bod y noddwr wedi marw, copi o’r dystysgrif marwolaeth ac unrhyw dystiolaeth ariannol sydd gennych ar gyfer blwyddyn dreth 2023-24. Unwaith y byddwn wedi cael hwn, byddwn yn cyfrifo’r incwm pro-rata o ddechrau’r flwyddyn academaidd i’r adeg y buont farw.

Os yw’r myfyriwr yn dychwelyd i'w astudiaethau yn ystod blwyddyn Academaidd 2024 i 2025 a bod eich incwm wedi gostwng o 15% neu fwy

Gallwch gwblhau ffurflen asesiad Incwm Blwyddyn Bresennol arall ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025. Bydd y broses yr un fath ag o'r blaen. Bydd angen i chi ddweud wrthym beth fydd eich incwm amcangyfrifedig ar gyfer blwyddyn dreth 2024-25.

Gallwch lawrlwytho a chwblhau ffurflen asesiad Incwm y Flwyddyn Gyfredol a'i lanlwytho i'ch cyfrif ar-lein.

Lawrlwythwch CYI - Ffurflen asesiad incwm blwyddyn dreth gyfredol 2024 i 2025 (PFD, 183KB).