Os yw incwm eich cartref wedi gostwng


Fel rheol, byddwn yn defnyddio incwm y cartref yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol i gyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gall eich plentyn neu’ch partner ei gael. Er enghraifft, os yw’r myfyriwr yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025, byddem yn defnyddio incwm y cartref yn ystod blwyddyn dreth 2022 i 2023 i gyfrifo ei gyllid.

Os yw incwm eich cartref wedi gostwng 15% neu fwy ers hynny, gallwch ofyn i ni gyfrifo ei gyllid myfyrwyr ar sail amcangyfrif o incwm eich cartref yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth, byddwn yn gofyn am dystiolaeth o’ch incwm gwirioneddol er mwyn gwirio a oedd yr amcangyfrifon a gawsom gennych yn gywir. Os byddant yn wahanol, gallai eich plentyn neu’ch partner fod wedi cael gormod o gyllid myfyrwyr a bydd angen iddo ad-dalu rhywfaint ohono. Os bydd eich incwm yn is na'r disgwyl, efallai y bydd gan y myfyriwr hawl i fwy o gyllid i fyfyrwyr.

Gwirio a ydych yn gymwys

Byddwch yn gymwys i gael asesiad o incwm y flwyddyn gyfredol os ydych yn disgwyl i incwm eich cartref ostwng 15% neu fwy o’i gymharu ag incwm y flwyddyn y byddem yn ei defnyddio fel rheol.

Os yw cyfanswm incwm eich cartref cyn y gostyngiad o 15% yn is nag £18,370 y flwyddyn, ni fyddwch yn gallu cael asesiad oni bai bod ei angen ar y myfyriwr er mwyn cael:

  • bwrsariaeth neu ysgoloriaeth gan brifysgol neu goleg
  • cyllid myfyrwyr ychwanegol ar gyfer plant neu oedolion dibynnol

Fel arall, ni ddylech wneud cais am asesiad o incwm y flwyddyn gyfredol:

  • os yw cyfanswm incwm eich cartref cyn y gostyngiad o 15% yn is nag £18,370
  • os yw cyfanswm incwm eich cartref ar ôl y gostyngiad o 15% yn fwy na £59,200

Gwneud cais am asesiad

Ar ôl i chi ategu’r cais drwy roi i ni fanylion y flwyddyn dreth y byddem yn ei defnyddio fel rheol, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen:

Gallwch wneud cais unrhyw bryd tan ddiwrnod olaf blwyddyn academaidd eich plentyn neu’ch partner.

Diweddaru’r amcangyfrifon o’ch incwm

Pan fyddwch wedi gwneud cais a phan fyddwn wedi cynnal asesiad o incwm y flwyddyn gyfredol, bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni os bydd eich incwm yn newid unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Dylech wneud hynny drwy anfon ffurflen newydd atom ar gyfer asesu incwm y flwyddyn gyfredol.

Os na fyddwch yn diweddaru’r amcangyfrifon o’ch incwm, neu os byddwch yn rhoi amcangyfrif rhy isel o’ch incwm, gallai eich plentyn neu’ch partner gael gormod o gyllid myfyrwyr a bydd gofyn iddo ei ad-dalu.

Cadarnhau eich incwm ar ddiwedd y flwyddyn dreth

Ar ôl i’r flwyddyn dreth ddod i ben, byddwn yn gofyn i chi roi gwybod i ni beth oedd incwm gwirioneddol eich cartref ac yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth ohono. Fel rheol, byddwn yn gofyn i chi wneud hynny ar ddiwedd y flwyddyn dreth ym mis Ebrill.

Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd taliadau cyllid myfyrwyr eich plentyn neu’ch partner yn cael eu lleihau a bydd gofyn iddo ad-dalu rhywfaint o’i gyllid.

Ar ôl i chi gadarnhau eich incwm

Pan fyddwn yn gwybod beth oedd incwm gwirioneddol eich cartref, ar ddiwedd y flwyddyn dreth, byddwn yn gallu gwirio a oedd y swm a gafodd eich plentyn neu’ch partner gennym yn gywir.

Os cafodd ormod o fenthyciad neu grant, byddwn yn gofyn iddo ad-dalu rhywfaint ohono.