Hygyrchedd


Caiff y wefan hon ei rhedeg gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (“Student Loans Company Limited”) ar ran Gwasanaethau Digidol Llywodraeth y DU. Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ymrwymo’n llawn i ddarparu gwefan sy’n hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf posibl, waeth pa dechnoleg y mae’r gynulleidfa honno’n ei defnyddio na beth yw gallu’r gynulleidfa. Rydym yn gweithio’n ddiwyd i wneud ein gwefan yn fwy hygyrch ac yn haws i’w defnyddio, ac wrth wneud hynny rydym yn glynu wrth lawer o’r safonau a’r canllawiau sydd ar gael. Rydym am i gynifer o bobl ag sy’n bosibl allu defnyddio’r wefan hon. Mae hynny’n golygu y dylai fod modd, er enghraifft, i chi:

  • chwyddo maint y testun i 300% heb fod y testun yn mynd o’r golwg ar y sgrîn
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym wedi sicrhau bod testun y wefan mor hawdd i’w ddeall ag sy’n bosibl. Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Beth y dylech ei wneud os na allwch gyrchu rhannau o’r wefan hon

Os oes arnoch angen unrhyw rai o’n llythyrau, ein ffurflenni neu’n canllawiau mewn Braille neu brint bras, anfonwch e-bost i brailleandlargefonts@slc.co.uk gan nodi:

  • eich cyfeiriad
  • eich Cyfeirnod Cwsmer
  • beth y mae arnoch ei angen mewn Braille neu brint bras
  • • ar gyfer print bras, pa faint ffont a pha fath o ffont y mae arnoch eu hangen.

If there are any other parts of our website which you cannot access, please let us know by contacting us at accessibility@slc.co.uk

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol

Rydym yn darparu gwasanaeth trosglwyddo testun ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu clywed neu siarad ar y ffôn. Mae dolenni sain yn ein swyddfeydd ar gyfer y sawl sy’n cael anhawster clywed ac sy’n ymweld â’n swyddfeydd yn bersonol. Neu, os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad, gallwn drefnu bod dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain ar gael. Gallwch gael gwybod sut mae cysylltu â ni trwy fynd i: www.gov.uk/government/organisations/student-loans-company

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefannau’n hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (“y Rheoliadau Hygyrchedd”). Rydym yn ymdrechu i gydymffurfio’n llawn â safonau AA fersiwn 2.1 y Canllawiau ynghylch Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (“Canllawiau Hygyrchedd 2.1”). Rydym yn cydnabod mai cydymffurfio’n rhannol yn unig â’r safonau hynny y mae’r wefan hon ar hyn o bryd. Rydym wedi darparu manylion isod ynghylch y meysydd nad ydynt yn cydymffurfio â’r safonau ar hyn o bryd, a manylion ynghylch pryd yr ydym yn disgwyl y bydd y meysydd hynny’n cydymffurfio â nhw.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Meysydd nad ydynt yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Hygyrchedd

Cynnwys nad yw’r Rheoliadau Hygyrchedd yn berthnasol iddo

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw’r Rheoliadau Hygyrchedd  Rheoliadau Hygyrchedd (yn agor mewn tab newydd) yn mynnu ein bod yn unioni dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau. Nid yw llawer o’n dogfennau PDF a’n dogfennau Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd AA – er enghraifft, mae’n bosibl nad yw eu strwythur yn ei gwneud yn bosibl i rywun ddefnyddio darllenydd sgrîn. Nid yw hynny’n bodloni maen prawf llwyddiant rhif 4.1.2 Canllawiau Hygyrchedd 2.1 (enw, rôl, gwerth). Mae rhai o’n dogfennau PDF a’n dogfennau Word yn hanfodol i’r gwaith o ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall defnyddwyr gael mynediad i’n gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddwyd ar ffurf dogfennau Word. Erbyn mis Mai 2021, rydym yn bwriadu unioni’r rhain neu’u disodli â thudalennau HTML hygyrch. Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word y byddwn yn eu cyhoeddi o fis Medi 2019 ymlaen yn bodloni’r safonau hygyrchedd.

Sut y gwnaethom brofi’r wefan hon

Cafodd y prawf diwethaf ar y wefan hon ei gynnal ym mis Mai 2021.

Adrodd ynghylch problemau hygyrchedd ar y wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wneud y wefan hon yn fwy hygyrch. Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni’r gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â accessibility@slc.co.uk

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd. Os byddwch yn anfodlon â’r modd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (“EASS”) i gael cyngor a chymorth.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac os byddwch yn anfodlon â’r modd y byddwn yn ymateb i’ch cwyn, gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldebau Gogledd Iwerddon yn hytrach na’r EASS a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 20 Mai 2021 a’i gyhoeddi ar 01 Mehefin 2021.