Meistr ôl-raddedig - Myfyrwyr newydd
Canllawiau
Rydym wedi cynhyrchu canllaw sy’n esbonio’r cyfan am eich telerau ac amodau’r ad-daliad. Mae’n bwysig iawn eich bod yn darllen y canllaw yma’n ofalus cyn ceisio am gyllid myfyriwr.
Cyrsiau sy'n dechrau ar 1 Awst 2022 neu wedi hynny
Cyrsiau a ddechreuodd rhwng 1 Awst 2021 a 31 Gorffennaf 2022
Ffurflenni cais
Os na fedrwch geisio ar-lein, dylech anfon cais ar bapur.
Ffurflenni ar gyfer 2022 i 2023
Ffurflenni a nodiadau
Ffurflenni ar gyfer 2021 i 2022
Ffurflenni a nodiadau
Newid eich cais fel ei fod yn seiliedig yn awr ar incwm eich cartref
Os yw incwm eich cartref wedi gostwng
gallwch ofyn i ni gyfrifo eich gyllid myfyrwyr ar sail amcangyfrif o incwm eich cartref yn ystod y flwyddyn dreth gyfredol yn lle hynny.
- Ffurflen Asesu Incwm yn ystod y Flwyddyn Bresennol – Blwyddyn Academaidd 2022 i 2023
- Ffurflen Asesu Incwm yn ystod y Flwyddyn Bresennol – Blwyddyn Academaidd 2021 i 2022
Tystiolaeth o Hunaniaeth
Medrwch gadarnhau eich hunanaieth drwy ddarparu rhif pasbort dilys ar eich cais. Os nad ydych wedi cynnwys eich manylion pasbort yn eich cais bydd angen i chi anfon ‘Ffurflen Manylion Pasbort DU’. Peidiwch ag anfon eich pasbort i ni.
Os nad oes gennych basport dilys y DU, bydd angen i chi anfon atom eich Tystysgrif Geni neu Fabwysiadu wreiddiol neu basport o’r tu allan i’r DU yn lle hynny.
Os yr ydych yn genedlaethol o’r UE, anfonwch eich pasbort neu gerdyn hunaniaeth cenedlaethol i ni.
Gwybodaeth cefnogol
Dylech ddefnyddio ‘ffurflen ddychwelyd Dogfen Ôl-raddedig’ pan rydych yn darparu gwybodaeth ychwanegol i gefnogi eich cais.
- Efallai bydd gofyn i chi gwblhau ‘Ffurflen statws cyflog 2022 i 2023
- Ffurflen Statws Cyflogaeth DU 2022 i 2023
- Efallai bydd gofyn i chi gwblhau ‘Ffurflen statws cyflog 2021 i 2022
- Ffurflen Statws Cyflogaeth DU 2021 i 2022
Newid cais
Defnyddiwch eich cyfrif ar-lein i newid eich manylion personol, er enghraifft eich manylion cyswllt.
Newid y swm y gofynnwyd amdano
Defnyddiwch ‘ffurflen gais am Fenthyciad Ôl-raddedig’ i newid y swm yr ydych wedi ceisio amdano – ni fedrwch wneud hyn ar-lein.
Cyrsiau sy'n dechrau ar 1 Awst 2022 neu wedi hynny
Cyrsiau a ddechreuodd rhwng 1 Awst 2021 a 31 Gorffennaf 2022
Newidiadau eraill
Defnyddiwch ‘Ffurflen newid amgylchiadau Ôl-raddedig’ os yr ydych angen newid unrhyw fanylion arall, er enghraifft eich prifysgol neu goleg, neu eich cwrs. Ni fedrwch wneud hyn ar-lein.