Cam 2: Gwneud cais
Myfyrwyr israddedig rhan-amser Cymreig

Myfyrwyr annibynnol a myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio

Myfyrwyr annibynnol

Os ydych yn fyfyriwr annibynnol, ni fyddwn yn ystyried incwm eich rhieni pan fyddwn yn cyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael. Os ydych yn briod neu’n byw gyda phartner, mae’n bosibl y byddwn yn ystyried incwm eich priod neu’ch partner yn lle hynny, yn dibynnu ar eich oedran a phryd y dechreuodd eich cwrs.

Pwy sy’n gymwys

Byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol:

  • os ydych yn 25 oed neu’n hŷn
  • os ydych wedi bod yn briod neu wedi bod mewn partneriaeth sifil
  • os ydych yn gofalu am blentyn dan 18 oed
  • os ydych wedi eich cynnal eich hun yn ariannol am o leiaf 3 blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • os nad yw’r un o’ch rhieni yn fyw
  • os na ellir olrhain eich rhieni neu nad yw’n bosibl cysylltu â nhw
  • os ydych wedi ymddieithrio’n barhaol oddi wrth eich rhieni
  • os ydych yn ‘berson sy’n gadael gofal’ oedd yng ngofal eich awdurdod lleol pan oeddech rhwng 14 ac 16 oed, yn dibynnu ar yr adeg y gwnaethoch ddechrau eich cwrs.

Myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio

Os nad ydych wedi cael unrhyw gysylltiad â’r un o’ch rhieni ers dros flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio. Caiff pob cais ei ystyried yn unigol.

Ni fyddwch yn gallu gwneud cais fel myfyriwr sydd wedi ymddieithrio, am un o’r rhesymau canlynol yn unig:

  • nid yw eich rhieni’n eich cynnal yn ariannol
  • nid ydych yn cyd-dynnu’n dda â’ch rhieni
  • nid ydych yn byw gyda’ch rhieni.

Pobl sy’n gadael gofal

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs ar 1 Awst 2018 neu wedi hynny, rhaid:

  • eich bod yng ngofal eich awdurdod lleol neu’ch bod wedi cael llety gan eich awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos rhwng yr adeg pan oeddech yn 14 oed a dechrau eich cwrs.

Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs cyn 1 Awst 2018, rhaid:

  • eich bod yng ngofal eich awdurdod lleol neu’ch bod wedi cael llety gan eich awdurdod lleol am o leiaf 13 wythnos cyn eich bod yn 16 oed
  • nad ydych wedi cymodi â’ch rhieni ers i chi adael gofal.

Cyflwyno tystiolaeth

Os ydych yn 25 oed neu’n hŷn

Nid oes angen i chi gyflwyno tystiolaeth, oherwydd byddwch eisoes yn cael eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol.

Os ydych wedi bod yn briod neu wedi bod mewn partneriaeth sifil

Dylech gyflwyno copi o’ch tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil, neu archddyfarniad nisi/absoliwt os ydych wedi ysgaru neu wahanu.

Os ydych yn gofalu am blentyn dan 18 oed

Dylech gyflwyno copi gwreiddiol ei dystysgrif geni ynghyd â thystiolaeth i ddangos eich bod yn gofalu am y plentyn, er enghraifft llythyr ynghylch Budd-dal Plant neu Gredyd Treth Plant.

Os ydych wedi eich cynnal eich hun yn ariannol am o leiaf 3 blynedd

Dylech gyflwyno copïau o’ch slipiau cyflog, eich ffurflenni P60 neu lythyrau ynghylch budd-daliadau, sy’n dangos bod gennych ddigon o arian ar y pryd i’ch cynnal eich hun yn rhesymol.

Os nad yw’r un o’ch rhieni yn fyw

Dylech gyflwyno copïau o dystysgrifau marwolaeth eich dau riant.

Os na ellir olrhain eich rhieni neu nad yw’n bosibl cysylltu â nhw

Dylech gyflwyno llythyr wedi’i lofnodi a’i ddyddio gan berson annibynnol (er enghraifft meddyg neu weithiwr cymdeithasol) sy’n esbonio eich sefyllfa.

Os ydych wedi ymddieithrio’n barhaol oddi wrth eich rhieni

Gallwch lawrlwytho ‘ffurflen cadarnhau ymddieithrio’ yn eich cyfrif ar-lein.

Gallwch hefyd gyflwyno llythyr wedi’i lofnodi a’i ddyddio gan berson annibynnol (er enghraifft meddyg neu weithiwr cymdeithasol) sy’n esbonio eich sefyllfa.

Os ydych yn berson sy’n gadael gofal

Dylech gyflwyno llythyr gan yr awdurdod lleol, sy’n cadarnhau:

  • i chi fod yng ngofal yr awdurdod
  • eich bod yn awr wedi gadael gofal yr awdurdod
  • eich bod yn berson sy’n gadael gofal, dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Stand Alone - yn cefnogi myfyrwyr sydd wedi dieithrio wrth eu rhieni

I gael rhagor o wybodaeth am ymddieithrio, gallwch ddarllen y canllaw i fyfyrwyr gan Stand Alone