Profi incwm eich cartref


Os ydych yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr sy’n dibynnu ar incwm eich cartref, byddwn yn defnyddio incwm eich cartref i gyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gallwch ei gael.

Incwm eich cartref yw:

  • incwm eich rhieni, os ydych dan 25 oed
  • incwm un o’ch rhieni a phartner y rhiant hwnnw, os ydych dan 25 oed
  • incwm eich partner, os ydych yn annibynnol ac yn byw gyda’ch partner. (Os gwnaethoch ddechrau eich cwrs cyn 1 Awst 2018, ni fydd angen gwybodaeth arnom am incwm eich partner oni bai eich bod yn 25 oed neu’n hŷn)
  • incwm eich priod, os ydych yn briod
  • yr incwm yr ydych yn ei gael o’ch cynilion, eich buddsoddiadau neu’ch eiddo eich hun, er enghraifft difidendau neu rent.

Byddwn yn gofyn iddynt roi manylion i ni er mwyn i ni allu cyfrifo incwm eich cartref. Nid oes angen unrhyw dystiolaeth arnom gan y byddwn yn gwirio eu hincwm gyda CThEF.

Dim ond os oes ganddynt incwm tramor neu os ydynt wedi amcangyfrif eu hincwm ar gyfer asesiad Incwm y Flwyddyn Gyfredol (CYI) y dylid anfon tystiolaeth. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen tystiolaeth bellach arnom.

Os ydych dan 25 oed ac wedi eich cynnal eich hun yn ariannol am o leiaf 3 blynedd ac nad ydych wedi cael unrhyw gysylltiad â’ch rhieni ers dros flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais fel myfyriwr annibynnol.