Ailasesu eich hawl


Os ydych yn dioddef caledi ariannol oherwydd bod eich hawl i gyllid myfyrwyr wedi’i hailasesu, darllenwch ein canllawiau ynghylch Caledi Ariannol.

Beth yw ailasesiad?

Ailasesiad yw pan fyddwn yn ailgyfrifo eich hawl i gyllid myfyrwyr (faint y gallwch ei gael). Bydd ailasesiad yn digwydd fel rheol pan fyddwn wedi cael:

  • gwybodaeth am newid i’ch amgylchiadau
  • gwybodaeth sydd wedi’i diweddaru amdanoch chi neu’ch cwrs
  • amcangyfrifon newydd neu gadarnhad o wybodaeth a amcangyfrifwyd yn flaenorol

Byddwn yn ystyried sut y mae’r wybodaeth newydd yn effeithio ar eich hawl bresennol i gyllid myfyrwyr ac yn rhoi gwybod i chi:

  • beth sydd wedi newid
  • sut y mae hynny’n effeithio ar eich cyllid

unrhyw gamau gweithredu y mae angen i chi eu cymryd o ganlyniad

Beth fydd yn digwydd ar ôl ailasesiad?

Byddwn bob amser yn anfon llythyr Hysbysiad o Hawl a ddiweddarwyd atoch er mwyn cadarnhau’r hyn y mae gennych hawl iddo erbyn hyn a dweud wrthych a oes angen i chi wneud unrhyw beth.

Sut gall ailasesiad effeithio ar eich cyllid myfyriwr?

Os caiff yr hyn y mae gennych hawl iddo ei ailasesu, gallai olygu:

  • bod mwy o gyllid yn ddyledus i chi ac y gallai eich taliadau yn y dyfodol fod yn fwy
  • bod llai o gyllid yn ddyledus i chi ac y gallai eich taliadau yn y dyfodol fod yn llai
  • bod llai o gyllid yn ddyledus i chi oherwydd bod gormod o arian wedi’i dalu i chi, a bod angen yn awr i chi ad-dalu’r swm sy’n ormod a dalwyd i chi
  • nad yw’r hyn y mae gennych hawl iddo wedi newid – byddwn yn dal i ysgrifennu atoch i gadarnhau hynny.

Beth yw gordaliad grant neu fenthyciad?

Gordaliad yw pan fyddwch yn cael mwy o gyllid i fyfyrwyr nag y mae gennych hawl iddo. Gall hyn ddigwydd os:

  • nad ydych yn rhoi gwybod i ni eich bod wedi gadael neu wedi cymryd seibiant o’ch cwrs
  • nad ydych wedi darparu digon o dystiolaeth mewn pryd i brofi eich sefyllfa ariannol
  • mae eich amgylchiadau wedi newid

Gallwn adennill gordaliad drwy ddidynnu arian o unrhyw daliadau yn y dyfodol. Os ydych wedi gorffen neu adael eich cwrs, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni i drafod eich opsiynau ad-dalu. Mae angen ad-dalu gordaliad hyd yn oed os ydych yn ennill o dan y trothwy ad-dalu.

Yn bwriadu cymryd seibiant neu adael eich cwrs yn barhaol?

Rydym yn deall bod amgylchiadau’n newid ac y gallai fod angen i chi:

  • gymryd seibiant o’ch astudiaethau (rhoi’r gorau dros dro iddynt)
  • gadael eich cwrs yn barhaol (tynnu’n ôl ohono).

Os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl o’ch astudiaethau neu roi’r gorau dros dro iddynt, mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod ar unwaith i ni a’ch prifysgol neu’ch coleg.

Gall tynnu’n ôl o’ch cwrs neu roi’r gorau dros dro i’ch astudiaethau effeithio ar y cyllid myfyrwyr y gallech ei gael yn y dyfodol.

Dychwelyd i astudio ar ôl tynnu allan o neu ohirio eich cwrs?

Os ydych yn ail-ymgeisio am gyllid myfyrwyr ac wedi tynnu’n ôl o gwrs yn flaenorol, bydd angen i chi:

Os ydych chi'n dychwelyd i gwrs rydych chi wedi'i ohirio o'r blaen, yna mae'r hyn sydd angen i chi ei wneud yn dibynnu ar ba mor hir rydych chi wedi bod allan o astudio. Os ydych yn:

  • ailddechrau astudio o fewn yr un flwyddyn academaidd, gall eich prifysgol roi gwybod i ni eich bod wedi dychwelyd – nid oes angen i chi wneud unrhyw beth.
  • ailddechrau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf, mae angen i chi ailymgeisio am gyllid i fyfyrwyr fel myfyriwr sy'n parhau, a rhaid i'ch prifysgol ein hysbysu o'ch dyddiad dychwelyd.
  • cymryd seibiant yn eich astudiaethau am ddwy flynedd neu fwy, bydd angen i chi ailymgeisio fel myfyriwr newydd pan fyddwch yn dychwelyd i'ch cwrs.

Gall eich grantiau a'ch benthyciadau fod yn wahanol i'ch cymorth blaenorol.

Yn dal i astudio ac yn ansicr ynghylch pam yr ydych wedi cael llythyr am ordaliad?

Mae’n bosibl y bydd eich hawl i gyllid myfyriwr yn cael ei ailasesu tra byddwch yn astudio a allai arwain at ordaliad. Gallai hyn fod oherwydd newid rydych wedi’i wneud ar eich cais. Os cewch ordaliad, byddwn yn anfon llythyr atoch i roi gwybod i chi.

Byddwch hefyd yn cael llythyr Hysbysiad o Hawl newydd a fydd yn nodi’r swm diwygiedig o gyllid myfyrwyr y byddwch yn ei gael ar gyfer y flwyddyn academaidd.