Eich Hysbysiad o Hawl
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn anfon Hysbysiad o Hawl atoch. Mae hwn yn esbonio pa fath o gyllid i fyfyrwyr rydych chi'n ei gael, faint fyddwch chi'n ei gael a phryd i ddisgwyl i'ch taliadau gael eu gwneud.
Gwirio bod y wybodaeth sydd yn y hysbysiad yn gywir
Pan fyddwch yn cael eich Hysbysiad o Hawl – gwiriwch y wybodaeth ganlynol:
- faint y byddwch yn ei gael
- pryd y byddwn yn eich talu
- eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu
- a oes angen i chi anfon rhywbeth atom
Dweud wrthym os yw’r wybodaeth yn anghywir neu’n hen
Rhowch wybod i ni ar unwaith. Gallwch ddiweddaru rhywfaint neu’r cyfan o’r wybodaeth hon yn eich cyfrif cyllid myfyrwyr.
Anfon unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth goll atom
Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth neu dystiolaeth. Os byddwn yn gwneud hynny, dylech ei hanfon atom cyn gynted ag sy’n bosibl.
Mae’r pethau mwyaf cyffredin y byddwn yn gofyn amdanynt yn cynnwys eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu neu’ch rhif Yswiriant Gwladol. Ni allwn eich talu heb yr holl fanylion y mae arnom eu hangen.
Ni fydd unrhyw Lwfans Myfyrwyr Anabl i’w weld yn y llythyr hwn
Os ydych hefyd yn gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl, byddwch yn cael llythyr ar wahân i gadarnhau hynny, sef Hysbysiad o Hawl i Lwfans Myfyrwyr Anabl.
Os byddwch yn cael llythyr Hysbysiad o Hawl arall
Y rheswm tebygol am hynny yw ein bod wedi ailasesu’r hyn y mae gennych hawl iddo. Bydd y hysbysiad sydd â’r dyddiad diweddaraf bob amser yn disodli unrhyw yr ydych wedi’i gael yn barod.
Dylech ddarllen unrhyw lythyrau newydd yr ydych wedi’u cael, er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod a oes unrhyw beth wedi newid. Os talwyd gormod o arian i chi, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi ei ad-dalu’n gynharach nag y byddech yn ei wneud fel arfer.