Cam 2: Gwneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Sut mae gwneud cais a phryd

Mae’r cyfnod i fyfyrwyr israddedig llawn-amser wneud cais am gyllid myfyrwyr ar gyfer 2024 i 2025 wedi agor erbyn hyn! Crëwch gyfrif neu mewngofnodwch i wneud cais! Gwnewch gais cyn gynted ag sy’n bosibl er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich arian mewn pryd ar gyfer dechrau eich cwrs. Os byddwch yn gwneud cais yn hwyr, gallai eich arian gyrraedd yn hwyr hefyd.

Sut mae gwneud cais

Dylech wneud cais ar-lein.

Os ydych yn gymwys i gael cyllid ffioedd dysgu yn unig, dylech wneud cais gan ddefnyddio’r ffurflen gais Benthyciad Ffioedd Dysgu. Ni allwch wneud cais ar-lein.

Os na allwch wneud cais ar-lein bydd angen i chi anfon ffurflen gais atom.

Os ydych chi'n ail-ymgeisio am gyllid myfyrwyr ar ôl tynnu'n ôl o gwrs neu ohirio'ch astudiaethau, darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud.

Pryd mae gwneud cais

Gallwch wneud cais yn awr ar gyfer:

  • 2024 i 2025
  • 2023 i 2024

Rhaid i chi wneud cais cyn pen 9 mis ar ôl dechrau eich blwyddyn academaidd. Nid oes angen bod lle wedi’i gadarnhau ar eich cyfer mewn prifysgol neu goleg cyn i chi wneud cais.