Pwy sy’n gymwys


Bydd eich cymhwysedd i gael cyllid myfyrwyr yn dibynnu ar:

  • eich cenedligrwydd a’ch statws preswylio
  • eich cwrs
  • eich prifysgol neu’ch coleg
  • eich oedran
  • eich astudiaethau blaenorol

Eich cenedligrwydd a’ch statws preswylio

Gallwch wneud cais os yw pob un o’r datganiadau canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn un o wladolion y DU neu’n ddinesydd Gwyddelig neu mae gennych statws preswylydd sefydlog
  • byddwch yn byw yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • rydych wedi bod yn byw yn y DU am 3 blynedd cyn dechrau eich cwrs.

Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gallu gwneud cais:

  • yn un o wladolion yr UE neu’n aelod o deulu un o wladolion yr UE a bod gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • os ydych yn aelod o deulu un o wladolion y DU
  • os ydych yn ffoadur
  • os ydych wedi cael gwarchodaeth ddyngarol
  • yn weithiwr mudol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir neu’n aelod o deulu gweithiwr mudol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir a bod gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE; nid oes angen i ddinasyddion Gwyddelig gael statws dan y cynllun
  • yn blentyn i un o wladolion y Swistir a bod gennych statws preswylydd sefydlog neu gyn-sefydlog dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE
  • os ydych yn blentyn i weithiwr o Dwrci
  • os ydych yn berson diwladwriaeth neu’n aelod o deulu person diwladwriaeth
  • os byddwch yn cael caniatâd i aros am resymau’n ymwneud â bywyd teuluol neu breifat, neu os ydych yn aelod o deulu rhywun sydd wedi cael caniatâd i aros am resymau’n ymwneud â bywyd teuluol neu breifat
  • os ydych wedi cael ‘caniatâd Calais’ i aros yn y DU, neu os ydych yn blentyn dibynnol i rywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
  • wedi cael caniatâd dan y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan neu’n aelod o deulu rhywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
  • os ydych wedi cael ‘caniatâd i aros’ yn y DU fel dioddefwr camdriniaeth neu drais domestig, neu os ydych yn blentyn dibynnol i rywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
  • os ydych wedi cael ‘caniatâd i aros’ yn y DU fel partner gweddw, neu os ydych yn blentyn dibynnol i rywun sydd wedi cael caniatâd o’r fath
  • os ydych wedi cael caniatâd i aros dan adran 67 Deddf Mewnfudo 2016
  • wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu aros yn y DU o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin, y Cynllun Noddi Cartrefi i Wcráin neu sy’n aelod o deulu rhywun sydd wedi

Rhaid hefyd eich bod yn byw yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs.

Os nad ydych yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf cenedligrwydd neu breswyliad uchod, gallech fod yn gymwys i gael cyllid Ffioedd Dysgu yn unig o hyd. Dylech wirio'r wybodaeth am genedligrwydd a phreswyliad ar gyfer Myfyrwyr sy'n ariannu ffioedd dysgu yn unig i weld a allech chi ei gael

Eich cwrs

Rhaid bod eich cwrs yn y DU a’i fod:

  • yn gwrs gradd gyntaf, er enghraifft gradd BA, BSc neu BEd
  • yn gwrs Gradd Sylfaen
  • yn gwrs Tystysgrif Addysg Uwch
  • yn gwrs Diploma Addysg Uwch
  • yn gwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch
  • yn gwrs Diploma Cenedlaethol Uwch
  • yn gwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion

yn gwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Eich prifysgol neu’ch coleg

Rhaid bod eich prifysgol neu’ch coleg:

  • yn un y mae’r llywodraeth yn talu amdani/amdano
  • yn un a ariennir yn breifat ond sy’n cynnal cyrsiau unigol sydd wedi’u cymeradwyo ar gyfer cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Gofynnwch i’ch prifysgol neu’ch coleg os nad ydych yn siŵr a yw’n gymwys.

Eich oedran

Nid oes unrhyw derfyn oedran ar gyfer bod yn gymwys i gael grantiau neu Fenthyciad Ffïoedd Dysgu.

Rhaid eich bod dan 60 oed i gael Benthyciad Cynhaliaeth.

Eich astudiaethau blaenorol

Dim ond ar gyfer eich cwrs addysg uwch cyntaf y gallwch gael cyllid myfyrwyr fel rheol, hyd yn oed os gwnaethoch ariannu eich cwrs blaenorol eich hun.

Os gwnaethoch newid cwrs neu os ydych yn ailadrodd blwyddyn

Gallwch gyfrifo’r swm a gewch drwy gymryd nifer y blynyddoedd y mae’r cwrs yr ydych yn gwneud cais ar ei gyfer yn para, ychwanegu blwyddyn, ac yna tynnu nifer y blynyddoedd y gwnaethoch eu treulio’n astudio.

Er enghraifft, os ydych yn gwneud cais ar gyfer cwrs 4 blynedd ond eich bod wedi astudio am 2 flynedd yn flaenorol, byddwch yn cael 3 blynedd o gyllid.

Os nad oes gennych ddigon o flynyddoedd o gyllid i dalu am eich cwrs, bydd angen i chi dalu am y blynyddoedd ychwanegol eich hun cyn y gallwch gael unrhyw gyllid myfyrwyr.

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael blwyddyn ychwanegol o gyllid os oedd yn rhaid i chi adael eich cwrs blaenorol am resymau personol anorfod, megis salwch neu brofedigaeth. Bydd angen i chi anfon tystiolaeth o hynny atom.

Os oes gennych radd yn barod

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr ar gyfer gradd israddedig arall. Er enghraifft, os ydych chi am astudio un o'r cyrsiau eithredig canlynol:

  • meddygaeth
  • deintyddiaeth
  • milfeddygaeth
  • pensaernïaeth
  • gwaith cymdeithasol
  • gofal iechyd

Os nad ydych yn astudio un o’r cyrsiau eithriedig hyn, ni fyddwch yn gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu nac unrhyw Fenthyciadau neu Grantiau Cynhaliaeth. Gallech ddal i wneud cais am Grant Gofal Plant, Lwfans Dysgu i Rieni, Grant Oedolion Dibynnol a Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Cyllid ar gyfer cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon

Os byddwch yn astudio ar gwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon, fel TAR, efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am gyllid myfyriwr llawn, gan gynnwys Benthyciad Ffioedd Dysgu, Benthyciad Cynhaliaeth a Grant Cynhaliaeth. Darganfod mwy am gyllid ar gyfer cyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon.

Cyllid ar gyfer meddygaeth, deintyddiaeth neu gyrsiau gofal iechyd

Os ydych chi’n astudio cwrs carlam mynediad graddedig pedair blynedd mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth, edrychwch ar y tabl i weld beth allech chi ei gael ym mhob blwyddyn o’ch cwrs:

Blwyddyn eich cwrs

Cyllid Ffioedd Dysgu

Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth

Hawl i Fwrsariaeth GIG

Blwyddyn 1

Benthyciad Ffioedd Dysgu Cyfradd Is

Benthyciad Cynhaliaeth cyfradd lawn

Dim bwrsari

Blynyddoedd 2 - 4

Benthyciad Ffioedd Dysgu Cyfradd Is

Benthyciad Cynhaliaeth Cyfradd Ostyngedig

Bwrsariaeth y GIG

Os ydych chi’n astudio cwrs pum mlynedd mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth fel gradd israddedig bellach, edrychwch ar y tabl i weld beth allech chi ei gael ym mhob blwyddyn o’ch cwrs:

Blwyddyn eich cwrs

Cyllid Ffioedd Dysgu

Hawl i Fenthyciad Cynhaliaeth

Hawl i Fwrsariaeth

Blynyddoedd 1 - 4

Dim Benthyciad Ffioedd Dysgu

Benthyciad Cynhaliaeth cyfradd lawn

Dim bwrsari

Blwyddyn 5

Dim Benthyciad Ffioedd Dysgu

Benthyciad Cynhaliaeth Cyfradd Ostyngedig

Bwrsariaeth y GIG

Bydd Bwrsariaeth y GIG yn helpu gyda'ch ffioedd dysgu a'ch costau byw. Os oes gennych chi radd eisoes ac wedi tynnu’n ôl o Fwrsariaeth y GIG neu’n astudio cwrs gofal iechyd y tu allan i Gymru, dim ond am Grantiau ar gyfer Dibynyddion a Lwfans Myfyrwyr Anabl y byddwch yn gallu gwneud cais.

Yn ystod blwyddyn Bwrsariaeth y GIG bydd angen i chi wneud cais i’r GIG i gael grantiau tebyg i Grantiau i Ddibynyddion a Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Cyllid ar gyfer llawfeddygon milfeddygol, gwaith cymdeithasol, neu gyrsiau pensaernïaeth

Gallwch wneud cais am Fenthyciad Cynhaliaeth, Grantiau i Ddibynyddion a Lwfans Myfyrwyr Anabl. Ni fyddwch yn gymwys i gael Benthyciad Ffioedd Dysgu na Grant Cynhaliaeth.

Os hoffech drafod eich cymhwyster am gyllid ar gyfer gradd arall, cysylltwch â ni.