Cam 2: Gwneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn amser, ffioedd dysgu a chostau byw

Tystiolaeth y bydd arnoch ei hangen

Profi pwy ydych chi

Os oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU

Gallwch gadarnhau pwy ydych chi drwy nodi manylion eich pasbort dilys ar gyfer y DU pan fyddwch yn gwneud cais. Nid oes angen i chi anfon eich pasbort gwreiddiol atom.

Gallwch hefyd anfon ffurflen manylion pasbort ar gyfer y DU:

Os nad oes gennych basbort dilys ar gyfer y DU

Os nad oes gennych basport ar gyfer y DU (neu os yw wedi dod i ben) gallwch naill ai:

  • lanlwytho copi o’ch tystysgrif geni neu fabwysiadu i’ch cyfrif cyllid myfyrwyr neu
  • anfon copi o’ch tystysgrif geni neu fabwysiadu drwy’r post i Cyllid Myfyrwyr Cymru

Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Os ydych wedi cael statws dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, bydd angen i chi roi cod rhannu i ni i brofi eich statws o ran mewnfudo a phrofi pwy ydych chi. Nid oes angen i chi anfon pasbort atom.

Os nad ydych wedi cael statws dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, dylech anfon eich pasbort neu’ch cerdyn adnabod gwreiddiol atom, nad yw’n basbort neu’n gerdyn adnabod ar gyfer y DU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn anfon llythyr eglurhaol hefyd sy’n cynnwys eich enw llawn, eich cyfeiriad a’ch Cyfeirnod Cwsmer os oes gennych un.

Bydd unrhyw ddogfennau adnabod gwreiddiol y byddwch yn eu hanfon yn cael eu dychwelyd atoch cyn pen hyd at 8 wythnos ar ôl i ni eu cael.

Dylech ganiatáu 8 wythnos i ni ddychwelyd eich dogfennau, pan fyddwch yn trefnu unrhyw deithiau yn ystod y cyfnod hwnnw. Ni allwn warantu y bydd y dogfennau’n cael eu dychwelyd yn gynt. Os ydych wedi trefnu teithiau ac os byddwch yn teithio yn ystod y cyfnod dan sylw, peidiwch ag anfon eich pasbort na’ch cerdyn adnabod atom. Anfonwch eich dogfennau ar ôl i chi ddychwelyd.