Cam 1: Cyn i chi wneud cais
Myfyrwyr israddedig llawn-amser Cymreig

Bwrsariaethau sydd ar gael i fyfyrwyr meddygaeth a gwaith cymdeithasol

Bwrsariaeth gan y GIG

Os ydych ar gwrs sy’n arwain at gymhwyster mewn meddygaeth, deintyddiaeth neu ofal iechyd, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael bwrsariaeth gan y GIG.

Pan fyddwch wedi cael cynnig lle hyfforddiant a gomisiynwyd gan y GIG, bydd yr adran Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr yn cysylltu â chi i ddweud wrthych sut mae gwneud cais.

Mae’r adran Gwasanaethau Dyfarniadau Myfyrwyr yn darparu bwrsariaethau’r GIG i fyfyrwyr yng Nghymru. Ewch i’w gwefan i gael rhagor o wybodaeth.

GIG Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau

Bwrsariaeth gwaith cymdeithasol

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn rheoli’r cynllun bwrsariaethau gwaith cymdeithasol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau cymeradwy sy’n arwain at radd israddedig neu radd Meistr mewn gwaith cymdeithasol. At hynny, gall myfyrwyr sy’n astudio cwrs cymeradwy sy’n arwain at radd Meistr mewn gwaith cymdeithasol gael bwrsariaeth ychwanegol a asesir ar sail incwm.

Gofal Cymdeithasol Cymru