Lwfans Myfyrwyr Anabl


Mae Lwfans Myfyrwyr Anabl yn gymorth ychwanegol ar ben eich cyllid myfyrwyr arall, a gellir ei ddefnyddio i dalu am gostau’n ymwneud ag astudio, er enghraifft cost offer, cost help nad yw’n help meddygol, costau teithio a chostau llungopïo ac argraffu.

Gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl i dalu rhai o’r costau ychwanegol sydd gennych oherwydd problem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall.

Gallwch gael help gyda chostau:

  • offer arbenigol, er enghraifft gliniadur os oes angen un arnoch oherwydd eich anabledd
  • cynorthwywyr nad ydynt yn staff meddygol, er enghraifft dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain neu gymerwr nodiadau arbenigol
  • costau teithio ychwanegol oherwydd eich anabledd, er mwyn mynychu eich cwrs neu’ch lleoliad
  • costau astudio eraill sy’n gysylltiedig â’ch anabledd, er enghraifft cost gorfod argraffu copïau ychwanegol o ddogfennau er mwyn eu prawf-ddarllen.

Beth sydd ar gael

Bydd y cymorth y gallwch ei gael a beth y gallwch wario’r arian arno yn dibynnu ar eich anghenion unigol yn hytrach nag incwm eich cartref.

Nid oes angen i chi ad-dalu Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Gall myfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig llawn-amser neu ran-amser gael hyd at £33,146 o gymorth y flwyddyn. Gellir defnyddio’r arian i dalu costau offer arbenigol, cynorthwy-ydd nad yw’n weithiwr meddygol, ac unrhyw gostau mwy cyffredinol a allai fod gennych.

Mae lwfans teithio ar gael hefyd i dalu am unrhyw gostau teithio cysylltiedig ag astudio a allai fod gennych oherwydd eich anabledd.

Blwyddyn academaidd 2022 i 2023

Gall myfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig llawn-amser neu ran-amser gael hyd at £32,546 o gymorth y flwyddyn. Gellir defnyddio’r arian i dalu costau offer arbenigol, cynorthwy-ydd nad yw’n weithiwr meddygol, ac unrhyw gostau mwy cyffredinol a allai fod gennych.

Mae lwfans teithio ar gael hefyd i dalu am unrhyw gostau teithio cysylltiedig ag astudio a allai fod gennych oherwydd eich anabledd.

Pwy sy’n gymwys

Gallwch wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl os oes gennych anabledd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n effeithio ar eich gallu i astudio, megis:

  • anhawster dysgu penodol, er enghraifft dyslecsia neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD)
  • anhwylder iechyd meddwl, er enghraifft gorbryder neu iselder
  • anabledd corfforol, er enghraifft os oes yn rhaid i chi ddefnyddio ffyn baglau, cadair olwyn neu fysellfwrdd arbennig
  • anabledd synhwyraidd, er enghraifft os oes gennych nam ar eich golwg neu’ch clyw neu os ydych yn fyddar
  • anhwylder iechyd hirdymor, er enghraifft canser, clefyd cronig y galon neu HIV.

Rhaid hefyd eich bod yn bodloni’r gofynion safonol ar gyfer bod yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr (er enghraifft, y gofynion preswylio a’r categorïau myfyrwyr cymwys) er mwyn gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl. Gallwch hefyd gysylltu â chynghorwyr cyllid myfyrwyr eich prifysgol neu’ch coleg i drafod a yw eich cwrs yn gymwys ar gyfer Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Sut mae gwneud cais

Bydd y modd y byddwch yn gwneud cais yn dibynnu ar ba fath o gwrs yr ydych yn ei astudio a ph’un a ydych yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr arall neu beidio.

Gwneud cais ar-lein

Os ydych yn fyfyriwr israddedig llawn-amser, gallwch wneud cais ar-lein ar ôl i chi wneud cais am eich cyllid myfyrwyr arall. Ni fydd raid i chi ailymgeisio am DSA pob blwyddyn.

Gwneud cais drwy’r post

Os yr ydych wedi cwblhau, neu ynghanol cwblhau eich cais am gyllid myfyriwr ac rydych hefyd am wneud cais ar gyfer Lwfans Myfyrwyr Anabl, dylech gwblhau’r fersiwn cwteuedig o’r Ffurflen DSA1.

Os nad ydych yn gwneud cais am unrhyw gyllid myfyrwyr arall neu os nad oes gennych gyfrif ar-lein, bydd angen i chi anfon ffurflen gais atom.

Bydd angen hefyd i chi anfon ffurflen gais atom os ydych yn fyfyriwr israddedig rhan-amser neu’n fyfyriwr ôl-raddedig.

Mae canllaw ar gael i’ch helpu i lenwi’r ffurflen ac sy’n esbonio pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon:

Os nad ydych yn gwneud cais am unrhyw gyllid myfyriwr arall, neu os ydych yn fyfyriwr israddedig rhan-amser neu’n fyfyriwr ôl-raddedig, bydd angen i chi ailymgeisio am DSA bob blwyddyn. Fel arfer ni fydd angen i chi anfon mwy o dystiolaeth atom oni bai bod eich anghenion wedi newid.

Profi eich anabledd

Edrychwch yn eich cyfrif ar-lein neu ar y ffurflen gais i weld pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei hanfon atom. Gallwch hefyd gyflwyno ffurflen tystiolaeth o anabledd:

Trefnu asesiad o anghenion

Ar ôl i chi wneud cais, byddwn yn gofyn i chi fynychu asesiad anghenion i weld pa gymorth y bydd ei angen arnoch.

Peidiwch â threfnu’r asesiad hwn nes y byddwch wedi cael cyfarwyddyd i wneud hynny. Gall eich Lwfans Myfyrwyr Anabl dalu cost yr asesiad.

Ar ôl yr asesiad, byddwch yn cael gwybod pa offer a chymorth arall y gallwch eu cael ar gyfer eich cwrs.

Cael eich talu

Byddwn naill ai’n talu eich arian i’ch cyfrif banc neu’n ei dalu yn uniongyrchol i’r cwmni sy’n darparu’r gwasanaeth neu’r offer.

Defnyddiwch y ffurflen hon os oes angen i chi hawlio ar gyfer costau yr ydych eisoes wedi’u talu: