Lwfans Dysgu Rhieni


Gallwch wneud cais am Lwfans Dysgu i Rieni er mwyn talu rhai o’r costau ychwanegol a allai fod gennych os ydych yn fyfyriwr israddedig sydd â phlant.

Beth sydd ar gael

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref, incwm eich dibynyddion a ph’un a oes gennych bartner neu beidio. Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser, bydd eich Lwfans Dysgu i Rieni yn cael ei gyfrifo ar sail dwyster eich cwrs.

Nid oes rhaid talu eich grant yn ôl.

Blwyddyn academaidd 2024 i 2025

Gallwch gael rhwng £52 a £1,914 y flwyddyn.

Blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Gallwch gael rhwng £52 a £1,896 y flwyddyn.

Pwy sy’n gymwys

Gallwch wneud cais am Lwfans Dysgu i Rieni:

  • os oes gennych o leiaf un plentyn sy’n dibynnu arnoch yn ariannol
  • yn mynychu cwrs amser llawn neu ran-amser (gan gynnwys cwrs dysgu o bell) ac yn cael cyllid myfyriwr israddedig sy'n dibynnu ar incwm eich cartref.

Nid oes angen i chi fod yn talu am ofal plant i fod yn gymwys.

Sut mae gwneud cais

Gallwch roi gwybod i ni yn eich cais am eich prif gyllid myfyrwyr a ydych am wneud cais am Lwfans Dysgu Rhieni. Pan fyddwch wedi cyflwyno eich cais, byddwn yn anfon y ffurflen atoch er mwyn i chi wneud cais am y Lwfans yn eich cyfrif ar-lein.

Os ydych eisoes wedi anfon eich cais am gyllid myfyrwyr atom heb lenwi’r adran ar gyfer grantiau dibynyddion, bydd angen i chi anfon ffurflen gais yn lle hynny:

Anfon tystiolaeth

Dim ond ym mlwyddyn gyntaf eich cwrs y mae angen i chi roi tystiolaeth o'ch plant i ni. Dylech lanlwytho copi o un o'r canlynol:

  • tystysgrif geni ar gyfer pob plentyn
  • tystysgrif brodori ar gyfer pob plentyn
  • dogfen gan y Swyddfa Gartref sy’n cadarnhau enw a dyddiad geni pob plentyn.

Mae angen i chi hefyd brofi bod eich plant yn ddibynnol arnoch chi. Mae angen ichi gyflwyno copi o un o’r canlynol:

  • holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credydau Treth diweddaraf yn eich enwi chi a’ch holl blant
  • holl dudalennau eich Hysbysiad o Ddyfarniad Credyd Cynhwysol diweddaraf yn eich enwi chi a nifer y plant ar eich cais
  • holl dudalennau eich llythyr Budd-dal Plant diweddaraf yn enwi eich holl blant (gall hyn fod yn eich enw chi neu eich partner)

Gallwn dderbyn lawrlwythiadau neu sgrinluniau o’ch datganiad Credyd Cynhwysol neu lythyr Budd-dal Plant o’ch cyfrif ar-lein os nad oes gennych gopi papur. Rhaid i bob tudalen fod yn glir ac yn bresennol.

Dylech lanlwytho'ch holl ddogfennau ar yr un pryd er mwyn osgoi unrhyw oedi gyda'ch cais.

I gael rhagor o wybodaeth am anfon tystiolaeth atom, edrychwch ar ein tudalen canllaw tystiolaeth.

Cael eich talu

Byddwn yn talu eich arian i’ch cyfrif banc, 3 gwaith y flwyddyn ar ddechrau pob tymor fel rheol. 

I gael rhagor o wybodaeth am gael eich talu, edrychwch ar ein tudalen canllaw talu.