Tystiolaeth

Bydd angen i chi anfon tystiolaeth atom pan fyddwch yn gwneud cais ac yn ystod eich cwrs fel y gallwn wirio a ydych yn gymwys i gael LCA.

Blwyddyn academaidd 2024 i 2025

Os cawsoch lythyr gennym yn gofyn am dystiolaeth, gallwch ddefnyddio’r canllawiau hyn i’ch helpu i benderfynu beth y dylech ei anfon.

Os gwnaethoch chi neu’ch rhiant/rhieni, eich gwarcheidwad/gwarcheidwaid neu’ch partner gwblhau ffurflen dreth bapur ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023, efallai y gwelwch chi fod y canllaw hwn yn ddefnyddiol.

Efallai y gofynnwyd i chi neu’ch rhiant/rhieni, eich gwarcheidwad/gwarcheidwaid neu’ch partner anfon tystiolaeth ariannol i gefnogi eich cais. Neu efallai y gofynnwyd i chi lenwi Ffurflen Manylion Ariannol. Gallwch lawrlwytho’r ffurflen a’r nodiadau yma.

Blwyddyn academaidd 2023 i 2024

Os ydych wedi gwneud cais ar-lein, byddwch yn gallu cyflwyno tystiolaeth i ni drwy eich cyfrif ar-lein oni bai ein bod wedi gofyn yn benodol i chi eu dychwelyd drwy’r post.

Os cawsoch lythyr gennym yn gofyn am dystiolaeth, gallwch ddefnyddio’r canllawiau hyn i’ch helpu i benderfynu beth y dylech ei anfon.

Os gwnaethoch chi neu’ch rhiant/rhieni, eich gwarcheidwad/gwarcheidwaid neu’ch partner gwblhau ffurflen dreth bapur ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022, efallai y gwelwch chi fod y canllaw hwn yn ddefnyddiol.