Incwm y cartref


Bydd eich cymhwystra i gael LCA yn dibynnu ar incwm eich cartref a’ch amgylchiadau teuluol.

I gyfrifo incwm eich cartref, bydd angen i ni wybod gyda phwy yr ydych yn byw.

Myfyrwyr dibynnol

Os ydych yn byw gyda’ch rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad/gwarcheidwaid, ac os ydych yn dibynnu arnynt yn ariannol, byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr dibynnol. Byddwn yn defnyddio manylion incwm eich rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad/gwarcheidwaid i gyfrifo incwm eich cartref. Os ydych yn gweithio’n rhan-amser neu’n byw gyda’ch brawd/brodyr neu’ch chwaer/chwiorydd, ni fydd unrhyw incwm yr ydych chi neu y maen nhw’n ei ennill yn cael ei ddefnyddio.

Mae rhagor o wybodaeth am incwm y cartref i’w chael yn yr adran rhieni, gwarcheidwaid a phartneriaid.

Myfyrwyr annibynnol

Byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr annibynnol os nad ydych yn byw gyda’ch rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad/gwarcheidwaid. Byddwn yn defnyddio eich enillion chi i gyfrifo incwm eich cartref. Os ydych yn byw gyda phartner, bydd enillion eich partner hefyd yn cael eu hystyried yn rhan o incwm eich cartref.

At hynny, byddwch yn cael eich ystyried yn annibynnol:

  • os ydych yn berson sy’n gadael gofal
  • os ydych yn byw yng ngofal awdurdod lleol neu gyda rhieni maeth
  • os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, neu Gredyd Cynhwysol
  • os ydych yn gyfrifol am blentyn
  • os ydych yn berson ifanc mewn dalfa
  • os ydych wedi ymddieithrio oddi wrth eich rhieni

Os ydych yn un o’r uchod, ni fydd angen i chi roi unrhyw wybodaeth ariannol i ni pan fyddwch yn cwblhau eich cais ond bydd angen i chi anfon tystiolaeth o’ch statws.

Ewch i'n canllaw myfyrwyr annibynnol i gael rhagor o wybodaeth.

Trothwyau ar gyfer incwm y cartref

Ceir dau drothwy gwahanol ar gyfer incwm y cartref. Eich amgylchiadau teuluol fydd yn penderfynu pa drothwy sy’n berthnasol i chi.

Incwm y cartref Nifer y plant dibynnol (gan gynnwys y myfyriwr) Dyfarniad
£0 - £20,817 1 £40
£20,818 + 1 £0
£0 - £23,077 2+ £40
£23,078 + 1+ £0