Cymhwystra


Cyn i chi wneud eich cais, mae yna rai pethau y dylech eu gwirio er mwyn sicrhau bod modd i chi gael LCA.

Oedran

Rhaid eich bod rhwng 16 ac 18 oed ar 31 Awst 2024.

Cenedligrwydd a statws preswylio

Gallwch ymgeisio os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn wladolyn y DU, Dinesydd Gwyddelig neu gyda statws preswylydd sefydlog
  • byddwch yn byw yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eich cwrs
  • rydych wedi bod yn byw yn y DU a’i Hynysoedd am 3 blynedd cyn dechrau eich cwrs

Os nad yw’r rhain yn berthnasol i chi, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i wneud cais am LCA os ydych yn byw yng Nghymru. Edrychwch ar ein canllaw Cenedligrwydd a Manylion Preswylio am ragor o wybodaeth.

Cwrs

Er nad oes yn rhaid i chi astudio yng Nghymru i gael LCA, rhaid eich bod yn astudio mewn ysgol neu goleg sy’n cymryd rhan yn y cynllun LCA.

Dylai eich cwrs fod yn gwrs academaidd neu alwedigaethol hyd at a chan gynnwys Lefel 3. Dyma enghreifftiau o gyrsiau o’r fath:

  • Cyrsiau TGAU
  • Cyrsiau Safon UG neu Safon Uwch
  • Cyrsiau BTEC, GNVQ, NVQ
  • Cyrsiau sgiliau sylfaenol
  • Cyrsiau Sgiliau Byw’n Annibynnol neu, os ydych yn astudio yn Lloegr, cyrsiau Paratoi ar gyfer bod yn Oedolyn

Gall eich ysgol neu goleg ddweud wrthych a yw'r cwrs yr ydych am ei wneud yn gymwys.

Ni fyddwch yn gymwys i gael LCA os ydych yn cael lwfans neu rywbeth tebyg, neu’n cael eich talu am raglen dysgu seiliedig ar waith a ariennir yn gyhoeddus (fel prentisiaeth) yn y DU.

Os ydych yn astudio mewn ysgol

Rhaid bod eich cwrs yn gwrs llawn-amser.

Os ydych yn astudio mewn coleg

  • Rhaid eich bod yn astudio dan arweiniad am o leiaf 12 awr yr wythnos; a
  • Rhaid i’ch cwrs bara o leiaf 10 wythnos.

Incwm eich cartref

Rhaid bod incwm eich cartref islaw lefel benodol i chi gael LCA. Mae yna ddwy lefel wahanol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau teuluol:

  • Rhaid bod incwm eich cartref yn £20,817 neu lai os chi yw’r unig berson ifanc sydd yn y cartref.
  • Rhaid bod incwm eich cartref yn £23,077 neu lai os oes mwy nag un person ifanc yn y cartref (gan eich cynnwys chi).

Gall ein cyfrifiannell addysg bellach eich helpu i gyfrifo a allech gael LCA ar sail incwm eich cartref neu beidio.

Mae gwybodaeth fanylach am incwm y cartref, gan gynnwys beth y dylech ei wneud os ydych yn berson sy’n gadael gofal, i’w chael yn yr adran am incwm y cartref.