Cwynion ac apeliadau


Rydym yn ystyried cwyn i fod lle nad ydych yn fodlon â'n cynnyrch neu ein gwasanaethau, ac rydych chi am i ni ddatrys y broblem. Ystyrir bod apêl yn gais i ailarfarnu penderfyniad a wneir am eich hawl i gael cymorth ariannol.

Gwneud cwyn

Lle bynnag yr oeddech chi'n byw pan wnaethoch gais am gyllid myfyriwr, caiff cwynion eu trin gan Gwmni Benthyciadau Myfyrwyr, sy'n darparu'r gwasanaeth cyllid myfyriwr ar ran Llywodraeth y DU a Gweinyddiaethau Datganoledig.

Apeliadau

Mae apêl yn gais ffurfiol i adolygu ein penderfyniad ar ba un a oes gennych yr hawl i gymorth ariannol ai peidio. Dylai apêl berthyn i benderfyniadau neu gamau ar sail sut yr ydym yn dehongli'r gyfraith neu reoliadau (er enghraifft, ar ba un a oes gennych yr hawl i gymorth ariannol neu faint o gyllid y mae gennych yr hawl iddo).

Ym mhob achos arall, dylech ddilyn y broses gwyno.