Newyddion diweddaraf

 

  1. Ffilm taliad CMC ar gael nawr! 07-09-2017

    Mae’n bwysig bod myfyrwyr yn gwybod beth maent angen ei wneud i sicrhau eu bod yn derbyn eu cyllid myfyriwr mewn amser ar gyfer dechrau eu cwrs.

    Caiff yr holl fenthyciadau cynnal a grantiau eu talu’n uniongyrchol i gyfrif banc y myfyriwr, ond caiff hynny ond ei wneud wedi iddynt gofrestru yn eu prifysgol neu goleg. Caiff benthyciadau ffi dysgu a grantiau eu talu’n uniongyrchol i’w prifysgol neu goleg.

    Gwyliwch a rhannwch ein ffilm ‘Cael eich Talu’ sydd yn esbonio sut caiff myfyrwyr eu talu.

    Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau Gwe-rwydo

    Yn aml, mae twyllwyr yn targedu myfyrwyr o amgylch dyddiadau talu ar ddechrau’r tymor ac rydym am helpu myfyrwyr i edrych am e-byst sydd efallai’n dwyllodrus ac sydd yn hawlio eu bod o Gyllid Myfyrwyr Cymru. Dylai myfyrwyr wybod na fyddwn byth yn gofyn iddynt roi eu manylion banc neu wybodaeth mewngofnodi drwy e-bost.

    Rhannwch ein Ffilm Gwe-rwydo a chadwch ein myfyrwyr yn ddiogel!

  2. Helpwch gefnogi myfyrwyr sy’n mynd drwy Glirio 17-08-2017

    Os oes gennych chi fyfyrwyr sy’n mynd drwy Glirio, gallwch eu helpu hwy drwy esbonio beth sydd angen iddynt eu wneud i gael eu talu’n gywir a mor gynted ag sy’n bosib.

    Os maent eisoes wedi ceisio am gyllid myfyriwr

    Mae’n rhaid iddynt rhoi gwybod i ni mor gynted ag sy’n bosib os ydy unrhyw un o’r canlynol wedi newid:

      • Eu cwrs
      • Eu prifysgol neu goleg

    Gallant ddiweddaru eu manylion ar-lein. Annogwch hwy i fewngofnodi i’w cyfrif yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ ac ewch i Eich Cyfrif > Newid eich cais > Cwrs Prifysgol/Coleg

    Os and ydynt wedi ceisio am gyllid myfyriwr

    Dylai hwy wneud cais ar-lein nawr yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

    Efallai na fyddant yn cael eu holl cyllid myfyriwr mewn amser i’w cwrs ddechrau.

    Byddwn yn gwneud asesiad cychwynnol fel y gallant gael peth arian mor agos â phosibl i ddechrau eu cwrs.

    Adnoddau i’w rhannu gyda myfyrwyr

    Rydym wedi creu ffilm fer y gellir ei rhannu ar eich gwefan a sianelau cyfryngau cymdeithasol yn esbonio beth sydd angen i fyfyrwyr sy’n mynd drwy Glirio eu i drefnu eu cyllid myfyriwr.

  3. Gall myfyrwyr grant rhan-amser CMC geisio nawr! 10-07-2017

    Gall myfyrwyr grant rhan-amser CMC geisio nawr am eu cyllid myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017/18.

    Gall myfyrwyr sy’n parhau wnaeth ddechrau ar eu cwrs ar neu cyn 1 Medi 2012 wneud cais nawr. Gall myfyrwyr newydd neu’r rheiny sy’n parhau wnaeth ddechrau ar eu cwrs ar neu wedi 1 Medi 2012 hefyd wneud cais nawr.

    I’ch helpu chi i esbonio beth y gallant ei gael a sut mae gwneud cais, mae gennym ystod o adnoddau, yn cynnwys:

    Y ffordd gyflymaf a’r hawsaf i fyfyrwyr i geisio ydy www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

    Am y wybodaeth mwyaf diweddar, dylai myfyrwyr ddalen nodi ein gwefan: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

    Gallant hefyd ein dilyn ar Twitter a’n hoffi ar Facebook am rybuddion.

  4. Gall myfyrwyr Ol-raddedig geisio am Fenthyciad Ol-raddedig nawr! 12-06-2017

    Gall myfyrwyr sy’n dechrau ar gwrs Meistr ôl-raddedig o 1 Awst 2017 geisio am Fenthyciad Ol-raddedig nawr!

    Y ffordd gyflymaf a’r hawsaf o wneud cais ydy ar-lein yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

    Mae angen i chi eu hannog iddynt wneud cais mor gynted ag sy’n bosib i sicrhau eu bod yn derbyn eu harian mewn amser i’w cwrs ddechrau. Peidiwch â phoeni os nad oes ganddynt le wedi ei gadarnhau mewn prifysgol – gallant ddefnyddio eu lle dewis ac yn syml newid y manylion yn hwyrach os oes angen iddynt.

    Darganfod rhagor

    Rydym wedi creu ystod o adnoddau i chi a’ch myfyrwyr sy’n rhoi mwy o wybodaeth am yr hyn y gallant eu dderbyn, sut maent yn gwneud cais a pha dystiolaeth sydd ei angen i gwblhau eu cais. Mae’r rhain ar gael yn yr adran ‘Adnoddau’.

    Gallwch chi a’ch myfyrwyr hefyd ein hoffi ar Facebook, ein dilyn ar Twitter a gwylio ein ffilmiau ar YouTube

  5. Datganiad i'r wasg: Llywodraeth yn cadarnhau cyllid ar gyfer myfyrwyr yr UE ar gyfer 2018-2019 24-04-2017

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd myfyrwyr o'r UE sy'n astudio yng Nghymru yn gymwys i gael cymorth ariannol yn ystod y flwyddyn academaidd 2018/19. Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, 'yr wyf yn falch o gadarnhau y bydd cymorth yn parhau i fod ar gael ar gyfer myfyrwyr yr UE. Mae gan Gymru sector addysg uwch sy'n cael ei glodfori ar draws y byd, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddenu myfyrwyr disglair o bob cwr o'r byd i astudio a chynnal ymchwil yn ein prifysgolion'.

  6. Adnoddau Benthyciad Ol-raddedig SFW Newydd ar gael nawr! 13-03-2017

    Rydym wedi creu ystod o adnoddau i’ch helpu chi i esbonio’r Benthyciad Ol-raddedig newydd i fyfyrwyr yng Nghymru sy’n meddwl dechrau ar gwrs Meistr ol-raddedig o Awst 2017.

    Ar gyfer y myfyrwyr rydym wedi creu tair ffilm sy’n esbonio beth maent yn gallu derbyn, sut mae gwneud cais a beth, pryd a sut maent yn ad-dalu. Gall y rhain cael eu rhannu ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol neu wedi eu mewnosod ar eich gwefan. Maent ar gael mewn rhestr defnyddiol sef neu fel ffilmiau unigol.

    Dylai myfyrwyr ymweld â’n gwefan am fwy o wybodaeth.

    Ar eich cyfer chi rydym wedi creu tair daflen ffaith sy’n esbonio pwy sy’n gymwys am Fenthyciad Ol-raddedig, sut maent yn gwneud cais a sut a phryd maent yn ad-dalu eu benthyciad. Mae’r rhain ar gael yn yr adran o wefan yr ymarferydd sef adnoddau o wefan yr ymarferydd sef.

    Gallwch hefyd ddarganfod gwybodaeth am Fenthyciad Ol-raddedig yn yr adran gynnyrch o’r wefan yma sef.

    Ac yn olaf, cofiwch dalen nodi’r safle yma a gwiriwch yn ôl cyn hir gan y byddwn yn ychwanegu mwy o wybodaeth yn agosach at lansiad y cais.

  7. Cyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2017/18 – amser i fyfyrwyr ymgeisio 22-02-2017

    Dylai myfyrwyr sy'n ymgeisio am gyrsiau prifysgol neu goleg yn 2017/18 ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr nawr.

    Does dim angen lle wedi ei gadarnhau yn y brifysgol neu goleg arnynt – gallant ddefnyddio eu prif ddewis o gwrs a’i newid yn hwyrach.

    Anogwch eich myfyrwyr i ymgeisio nawr er mwyn sicrhau fod eu harian yn barod ar ddechrau eu cwrs. Y ffordd gyflymaf a hawsaf i ymgeisio yw ar-lein yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

    Cyngor arbenigol am gyllid i fyfyrwyr

    Mae gan wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru ardal ar gyfer ymarferwyr sy’n cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i roi cyngor arbenigol i fyfyrwyr ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael iddynt.

    Mae’r rhain yn cynnwys:

    • dalenni ffeithiau i roi gwybod popeth yr ydych angen ei wybod am gyllid i fyfyrwyr;
    • canllawiau cyflym y gallwch archebu fel copïau wedi eu hargraffu neu eu lawrlwytho i rannu gyda’ch myfyrwyr a’u rhieni;
    • canllawiau manwl sydd wedi eu cynllunio i helpu myfyrwyr ym mhob amgylchiad;
    • cyflwyniadaui'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu mewn digwyddiadau eraill;
    • cyfres o ffilmiau i’w rhannu ar eich gwefan neu ffrydiau cyfryngau cymdeithasol i esbonio pa gyllid i fyfyrwyr sydd ar gael a sut i ymgeisio ac ad-dalu.

    Cofiwch gofnodi ein gwefan i weld yr wybodaeth ac adnoddau diweddaraf.

    www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ymarferwyr

    Hoffwch ni ar Facebook a'n dilyn ar Twitter i dderbyn diweddariadau rheolaidd. Gwyliwch ein ffilmiau ar YouTube

  8. Adnoddau SFW (CMC) newydd 2017/18 ar gael nawr! 11-01-2017

    Chwilio am wybodaeth cyllid myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2017/18? Mae ein hystod o adnoddau diweddar ar gael ar-lein nawr!

    I’ch helpu chi i gael y wybodaeth mwyaf cywir a diweddar am gyllid myfyriwr, mae gennym:

    • daflenni ffaith yn cynnwys y pwyntiau allweddol y byddwch am eu rhannu gyda’ch myfyrwyr, o wneud cais i’r broses ad-dalu,
    • cyflwyniadau wedi eu paratoi’n barod ar eich cyfer i chi i’w defnyddio pan fyddwch yn siarad gyda’ch myfyrwyr a’u rhieni,
    • canllawiau cyflym yn amlygu gwybodaeth hanfodol i’w llwytho i lawr a’u dosbarthu,
    • ffilmiau sy’n gallu cael eu rhannu ar eich gwefan neu sianeli cyfryngau cymdeithasol.

    Byddwch yn darganfod y cyfan yma yn yr adran adnoddau ar ein gwefan.
    Byddwn yn ychwanegu mwy o adnoddau cyn hir, felly gwnewch yn sicr eich bod yn dalen nodi ein gwefan a chadwch gwirio yn ôl.

  9. Oriau agor Gwyliau’r Nadolig 22-12-2016

    Oriau agor ein ganolfan gyswllt dros wyliau’r Nadolig fydd:

    Gwener 23 Rhagfyr 08:00 – 13:00
    Sadwrn 24 Rhagfyr Ar Gau
    Sul 25 Rhagfyr Ar Gau
    Llun 26 Rhagfyr Ar Gau
    Mawrth 27 Rhagfyr Ar Gau
    Mercher 28 Rhagfyr 08:00 – 18:00
    Iau 29 Rhagfyr 08:00 – 18:00
    Gwener 30 Rhagfyr 08:00 – 13:00
    Sadwrn 31 Rhagfyr Ar Gau
    Sul 1 Ionawr Ar Gau
    Llun 2 Ionawr Ar Gau
    Mawrth 3 Ionawr ymlaen@ dychwelyd i oriau arferol'

  10. CMC 2017/18 – Mae ein canllawiau cyflym argraffedig poblogaidd rhad ac am ddim ar gael i’w harchebu o flaen llaw nawr! 16-11-2016

    Helpwch eich myfyrwyr i fod yn barod ar gyfer y FA 2017/18 gyda’n canllawiau cyflym argraffedig rhac ac am ddim.

    Yn cynnwys pob dim o’r broses gwneud cais i wybodaeth ar sut a phryd mae myfyrwyr yn ad-dalu, mae ein canllawiau cyflym defnyddiol yn darparu gwybodaeth lefel uchel ar y pecyn cyllid myfyriwr 2017/18, gan eu gwneud yn ddelfrydol am rannu gyda darpar myfyrwyr a’u rhieni yn eich diwrnod agored ac unrhyw ddigwyddiad arall sydd wedi ei drefnu. Gallwch nawr archebu y canllawiau cyflym yma o flaen llaw:

         
    • Cyllid myfyriwr –ffeithiau allweddol a ffigyrauyn rhoi gwybodaeth am y swm o gyllid myfyriwr sydd ar gael i fyfyrwyr yn y FA 2017/18.
    •    
    • Sut i wneud cais ac ad-dalu – pecyn dwbl defnyddiol yn esbonio sut mae gwneud cais am gyllid myfyriwr a sut a phryd mae ad-dalu.
    •    
    • Cyllid myfyriwr yn cael ei esbonio ar gyfer rhieni – yn esbonio beth mae myfyrwyr yn gallu ei gael a sut maent yn gwneud cais ac yn ad-dalu.
    •    
    • Lwfansau Myfyrwyr Anabl – yn esbonio’r cyllid ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr gydag anabledd, yn cynnwys cyflwr iechyd hir-dymor, cyflwr iechyd-meddwl neu anhawster dysgu penodol, fel dyslecsia neu dyspraxia.
    •    
    • Grantiau Dibynyddion – yn esbonio y cymorth ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr sydd â  phlant neu oedolyn sydd yn ddibynnol arnynt.

       

    Gall gymryd hyd at ddwy wythnos i’ch canllawiau cyflym cael eu dosbarthu i’ch ysgolion, prifysgolion a cholegau. Roedd y rhain mor boblogaidd y llynedd fe wnaethant orffen yn gynnar felly rhaid i chi gymryd mantais ac archebu eich canllawiau cyflym o flaen llaw heddiw! Mae hefyd fersiynau ar-lein ar gael i’w llwytho i lawr:

    Bydd adran adnoddau gwefan ymarferydd yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth newydd ac adnoddau, felly gwiriwch yma yn rheolaidd.

  11. Gwladolion yr UE a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru 11/10/2016 11-10-2016

    Mae'r datganiad canlynol yn gymwys i wladolion yr Undeb Ewropeaidd (UE) sydd ar hyn o bryd yn derbyn benthyciadau i fyfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru (CMC), ac i’r gwladolion hynny sy’n perthyn i’r UE sy'n bwriadu dechrau astudio yn y flwyddyn academaidd 2017/18. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr)(Cymru) 2017 yn cael eu drafftio ar hyn o bryd ac, o’u pasio, byddant yn rhoi cymorth i fyfyrwyr sy’n gymwys. Bydd y rheoliadau’n gymwys i gymorth i fyfyrwyr, gan gynnwys gwladolion yr UE neu aelodau o’u teulu, mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar 1 Medi 2017 neu ar ôl hynny (‘Blwyddyn Academaidd 2017/18’). Nid oes unrhyw newid i’r rheoliadau sy’n berthnasol i wladolion yr UE, neu aelodau o’u teulu, sy’n gwneud cais am le mewn prifysgol o 1 Medi 2017 i astudio cwrs sy’n denu cymorth i fyfyrwyr fel y nodir yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr)(Cymru) 2015 .

    Bydd gwladolion yr UE neu aelodau o'u teulu, sydd ar hyn o bryd mewn addysg uwch, ac sy'n cael eu hasesu yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, yn parhau i dderbyn grantiau a'r benthyciadau hyn nes eu bod yn gorffen eu cwrs. Mae hyn yn berthnasol i holl gyllid myfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru y mae gwladolion yr UE yn gymwys ar ei gyfer. Mae hyn yn cynnwys grantiau a benthyciadau i dalu am ffioedd dysgu, benthyciadau a grantiau cynnal , a rhai grantiau a lwfansau eraill os yw unigolyn yn parhau i fodloni’r gofynion o ran bod yn gymwys ar gyfer pob elfen o’r cymorth sydd ar gael.

    Unwaith y bydd y cylch ceisiadau arferol yn dechrau yn 2017 bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn asesu'r ceisiadau hyn yn erbyn y meini prawf a bydd yn darparu benthyciadau a/neu grantiau yn y ffordd arferol. Bydd gwladolion yr UE, neu aelodau o'u teulu, sy'n cael eu hasesu yn gymwys i gael grantiau a benthyciadau gan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn derbyn cymorth drwy gydol eu hastudiaethau ar y cwrs hwnnw os byddant yn parhau i fodloni’r gofynion o ran bod yn gymwys.

    Dylai myfyrwyr ymgynghori â Swyddfa Cyllid myfyrwyr eu prifysgol, neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru, am wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.

  12. Cefnogaeth ol-raddedig yn y flwyddyn academaidd (BA) 2016/17 16-09-2016

    Ym Mai 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar gynigion i weithredu cynllun benthyciad ôl-raddedig ar gyfer myfyrwyr Cymru.

    Tra nad oedd hi’n bosib i weithredu cynllun yng Nghymru ar gyfer BA 2016/17, y bwriad yw y dylai cefnogaeth ôl-raddedig fod ar gael i fyfyrwyr Cymru o Fedi 2017. Mae hyn yn unol â’r rheoliadau priodol yn cael eu dwyn ymlaen.

    Mae rhai prifysgolion yn cynnig bwrsari ôl-raddedig yn dibynnu ar yr ardal pwnc. Mae hefyd ymddiriedolaethau addysgiadol ac elusennau a fyddai efallai yn barod i gynorthwyo drwy ffyrdd o rantiau bychain neu fenythyciadau. Mae rhestrau safonol yn y mwyafrif o lyfrgelloedd cyfeirnod cyhoeddus yn cynnwys Geiriadur Grantiau Addysgiadol.

    Gallai myfyrwyr hefyd ystyried opsiwn rhan-amser yn 2016/17 a fydd efallai gyda ffioedd gostyngedig.

    Os nad oes ariannu pellach ar gael, ac yn unol â chymhwysedd, gall Benthyciad Datblygu Gyrfa Proffesiynol (PDGP) eich helpu chi i dalu am ffioedd cwrs ac unrhyw gostau perthnasol eraill. Rhaid i’r darparwr cwrs a’r cwrs fod wedi eu rhestru ar gofrestr PDGP. Gellir cael rhagor o wybodaeth drwy ymweld â: https://www.gov.uk/career-development-loans/overview neu drwy gysylltu â chynghorydd gyrfa ar 0800 100 900.

  13. Clirio: Ffilm a rhestr chwarae ar gyfer myfyrwyr 10-08-2016

    Rydym wedi creu ffilm newydd a rhestr chwarae newydd yn cynnwys negeseuon allweddol ar gyfer myfyrwyr yn ceisio am brifysgol neu goleg drwy Glirio ac angen datrys eu cyllid myfyriwr.

    Mae ein ffilm Glirio yn esbonio beth sydd angen i fyfyrwyr ei wneud pa un ai a ydynt wedi gwneud cais am gyllid myfyriwr yn barod neu beidio. Rydym hefyd wedi creu rhestr chwarae Mynd drwy Glirio? i helpu ateb unrhyw gwestiwn arall sydd efallai gan eich myfyrwyr am gyllid myfyriwr.

    Defnyddiwch y cod i fewnosod y ffilm ar eich gwefan.

    <iframe width="560" height="315" src="https://www.youtube.com/watch?v=flnR2-3xj9E&list=PLbRuPgpyODof1UPGf6EAQGhAIRfrPchjs" frameborder="0" allowfullscreen></iframe>

    Mae ein holl ffilmiau ar gael ar ein sianel Adnoddau 2016/17 neu ar ein sianel YouTube,youtube.com/sfwfilm.

  14. Gall myfyrwyr benthyciad rhan-amser CMC geisio nawr! 16-05-2016

    Gall myfyrwyr benthyciad rhan-amser CMC geisio nawr am eu cyllid myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd 2016/17.

    Gall myfyrwyr newydd a’r rheiny sy’n parhau wnaeth ddechrau are u cwrs ar neu wedi 1 Medi 2012 wneud cais nawr. Gall myfyrwyr sy’n parhau wnaeth ddechrau ar eu cwrs cyn 1 Medi 2012 wneud cais o’n gynnar yng Ngorffennaf.

    I’ch helpu chi i esbonio beth maent yn gallu cael a sut mae gwneud cais, mae gennym ystod o adnoddau, yn cynnwys:

    Y ffordd cyflymaf a’r hawsaf i fyfyrwyr i wneud cais ar lein yw yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

    Am y wybodaeth ddiweddaraf, dylai myfyrwyr rhoi nod tudalen ar ein gwefan: www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

    Gallant hefyd ein dilyn ar Trydar a’n hoffi ar Facebook am rybudd newyddion.

    Facebook

    Twitter

    YouTube

  15. Cyllid i fyfyrwyr ar gyfer 2016/17 – amser i fyfyrwyr ymgeisio 29-02-2016

    Dylai myfyrwyr sy'n ymgeisio am gyrsiau prifysgol neu goleg yn 2016/17 ymgeisio am gyllid i fyfyrwyr nawr.

    Does dim angen lle wedi ei gadarnhau yn y brifysgol neu goleg arnynt – gallant ddefnyddio eu prif ddewis o gwrs a’i newid yn hwyrach.

    Anogwch eich myfyrwyr i ymgeisio nawr er mwyn sicrhau fod eu harian ar gael ar ddechrau eu cwrs. Y ffordd gyflymaf a hawsaf i ymgeisio yw ar-lein yn www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

    Cyngor arbenigol am gyllid i fyfyrwyr

    Mae gan wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru ardal ar gyfer ymarferwyr sy’n cynnig amrywiaeth o adnoddau i chi i’ch helpu i roi cyngor arbenigol i fyfyrwyr ynglŷn â’r opsiynau sydd ar gael iddynt.

    Mae’r rhain yn cynnwys:

    • dalenni ffeithiau i roi gwybod popeth yr ydych angen ei wybod am gyllid i fyfyrwyr;
    • canllawiau cyflym y gallwch archebu fel copïau wedi eu hargraffu neu eu lawrlwytho i rannu gyda’ch myfyrwyr a’u rhieni;
    • canllawiau manwl sydd wedi eu cynllunio i helpu myfyrwyr ym mhob amgylchiad;
    • cyflwyniadau i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu mewn digwyddiadau eraill;
    • Cyfres o ffilmiau defnyddiol i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth neu ar eich gwefan i esbonio pa gyllid i fyfyrwyr sydd ar gael a sut i ymgeisio.

    Gwyliwch ein ffilm i weld beth arall sydd gan ein gwefan ymarferwyr i'w gynnig.

    Cofiwch gofnodi ein gwefan i weld yr wybodaeth ac adnoddau diweddaraf.

    www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ymarferwyr

    Hoffwch ni ar Facebook a'n dilyn ar Twitter i dderbyn diweddariadau rheolaidd.

    Gwyliwch ein ffilmiau ar YouTube.

  16. SFW 2016/17 canllawiau cyflym wedi eu hargraffu ar gael i’w harchebu nawr! 24-11-2015

    Mae ein canllawiau cyflym rhad ac am ddim sydd wedi eu hargraffu yn ôl ac ar gael i chi eu harchebu nawr! Yn cynnwys popeth o’r broses gwneud cais i wybodaeth am ad-dalu, maent yn wych ar gyfer rhannu gyda darpar myfyrwyr a’u rheini pan rydych yn trafod cyllid myfyriwr.

    Mae gennym:

    • Becyn dwbl defnyddiol yn esbonio sut mae gwneud cais am gyllid myfyriwr a beth, sut a phryd mae ad-dalu
    • Cyllid myfyriwr wedi ei esbonio
    • Cyllid myfyriwr wedi ei esbonio i rieni
    • Lwfansau Myfyrwyr Anabl - i esbonio'r cymorth ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr gydag anabledd - yn cynnwys cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, megis dyslecsia neu ddyspracsia
    • Grantiau Dibynyddion - i esbonio'r cymorth ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr sydd â phlant neu oedolyn sydd yn dibynnu arnynt.

    Maent ar gael i’w harchebu’n Saesneg a Chymraeg nawr a chaiff hwy eu trosglwyddo i’ch ysgol, prifysgol neu goleg yn gynnar ym mis Rhagfyr. Archebwch yn gyflym cyn iddynt oll fynd!

    Yr adran adnoddau ar gyfer gwefan ymarferydd -

    Caiff www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ymarferwyr - ei diweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth newydd ac adnodau felly dewch 'nôl yma’n aml!

  17. Pecynnau cais ar gyfer myfyrwyr rhan-amser 2015/16 ar gael i’w archebu nawr. 08-06-2015

    Mae’n amser i’n myfyrwyr rhan-amser i geisio am gyllid myfyriwr, felly sicrhewch eich bod yn archebu ein pecynnau cais parod heddiw.

    Gall myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n parhau wnaeth ddechrau ar eu cwrs ar neu wedi Medi’r 1af 2014 geisio am Fenthyciad Ffi a Chwrs Grant i’w helpu hwy dalu am eu ffioedd dysgu a chostau byw. Gallant nawr lawr lwytho ffurflen gais oddi ar www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu gysylltu gyda’u prifysgol neu goleg i ofyn am becyn cais.

    Pecynnau’n cynnwys ffurflen gais a gwybodaeth ar sut mae ceisio ac ad-dalu. Gallwch archebu hwy nawr

    Rydym hefyd wedi cynhyrchu cyfres o adnoddau i chi eu defnyddio ar gyfer myfyrwyr rhan-amser, sydd ar gael i’w lawr lwytho oddi ar wefan yr ymarferydd. Byddwch yn darganfod canllaw cyflym a thaflen ffaith yn esbonio pa fenthyciadau a grantiau sydd ar gael ar gyfer astudio’n rhan amser a phrif ganllaw mwy manwl.

    A, chofiwch rannu ein ffilm am Fenthyciadau ar gyfer astudio’n rhan-amser gyda’ch myfyrwyr, sydd ar gael ar ein sianel YouTube.

  18. Hysbysiadau Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru 2016/17 25-03-2015

    Mae Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl yn rhan o'r pecyn cymorth statudol i fyfyrwyr y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu drwy Cyllid Myfyrwyr Cymru. Yn sgil y cyhoeddiad y bydd newidiadau i'r trefniadau cymorth yn Lloegr, rydym yn adolygu'r polisi ar gyfer Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl yng Nghymru er mwyn sicrhau bod cyllid y Lwfansau'n cael ei dargedu'n effeithiol. Gwahoddir eich sylwadau ar y newidiadau arfaethedig i Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl a weithredir o flwyddyn academaidd 2016/17, fel y'u nodir yn Hysbysiad Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru (SFWIN 01/2015). Gweld manylion

  19. Cyllid myfyriwr ar gyfer 2015/16 - mae nawr yn amser i fyfyrwyr newydd i wneud cais 23-02-2015

    Gall myfyrwyr sydd yn gwneud cais ar gyfer cyrsiau prifysgol neu goleg yn 2015/16 wneud cais ar gyfer cyllid myfyriwr nawr.

    Nid oes angen iddynt gadarnhau lle mewn prifysgol neu goleg - gallant ddefnyddio eu man dewisol lle maent am wneud eu cwrs a’i newid yn hwyrach.

    Anogwch eich myfyrwyr i wneud cais nawr er mwyn sicrhau bod eu harian ar gael ar gychwyn eu cyrsiau. Y ffordd gyflymaf a’r hawsaf o wneud cais yw ar -lein www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

    Cyngor Arbenigol ar gyllid myfyriwr

    • dalen ffeithiau i ddweud popeth oddi wrthych yr ydych angen ei wybod am gyllid myfyrwyr;
    • canllawiau cyflym y gallwch eu lawr lwytho ac archebu copïau wedi eu hargraffu i rannu gyda’ch myfyrwyr a’u rhieni;
    • canllawiau manwl wedi eu cynllunio i helpu myfyrwyr ym mhob amgylchiad;
    • Cyfres o ffilmiau defnyddiol ar gyfer y dosbarth neu ar eich gwefan i esbonio pa gyllid myfyriwr sydd ar gael a sut mae gwneud cais.

    Cofiwch lyfrnodi ein gwefan i gael mynediad i’r wybodaeth a’r adnoddau mwyaf diweddar.

  20. Cyflwyniadau Cyllid Myfyrwyr - newydd ar gyfer 2015/16 25-11-2014

    Rydym wedi cyhoeddi cyfres o gyflwyniadau, wedi'u hanelu at wahanol gynulleidfaoedd, i'ch helpu chi i esbonio'r cyllid myfyrwyr sydd ar gael i fyfyrwyr newydd sy'n dechrau yn 2015/16.

    Rydym wedi cynnwys cyflwyniad yn esbonio'r broses ymgeisio ac mae hyd yn oed templed o gyflwyniad y gellir ei ddefnyddio i wneud eich cyflwyniadau cyllid myfyrwyr pwrpasol eich hun.

    Edrychwch ar ein cyflwyniadau newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16.

  21. Adnoddau ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16 – ar gael yn awr! 19-11-2014

    Mae'n bryd dechrau paratoi ar gyfer blwyddyn academaidd newydd. Rydym wedi creu ystod o offer ac adnoddau defnyddiol i'ch helpu chi i esbonio wrth eich myfyrwyr pa gyllid myfyrwyr sydd ar gael trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru.

    Mae taflenni ffeithiau ar gael i esbonio popeth y mae angen i chi ei wybod ynglŷn ag ystod eang o bynciau, er enghraifft, ymgeisio am gyllid myfyrwyr, cymorth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr gydag anableddau neu blant dibynnol a threfniadau ad-dalu. Mae adran wedi'i chynllunio hefyd i'ch helpu chi i ateb cwestiynau gan rieni.
    Yn ychwanegol rydym wedi datblygu animeiddiadau a ffilmiau y gallwch eu rhannu gyda'ch myfyrwyr i helpu i esbonio cyllid myfyrwyr a'r broses ymgeisio.

    Mae ystod o ganllawiau cyflym defnyddiol i'w dosbarthu i fyfyrwyr, i roi gwybodaeth iddynt am ba gymorth sydd ar gael iddynt; ac mae gwybodaeth ar gymorth ychwanegol ar gyfer myfyrwyr gydag anabledd, gan gynnwys cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol neu fyfyrwyr sydd â phlant neu oedolion dibynnol. Mae canllaw cyflym hefyd yn benodol i rieni.
    Gallwch archebu copïau print o'r rhain i'w dosbarthu i'ch myfyrwyr a'u teuluoedd.

    Fe welwch ddetholiad o gyflwyniadau PowerPoint, ynghyd â'r nodiadau y bydd eu hangen arnoch chi i gyflwyno'r rhain i'ch myfyrwyr a'u teuluoedd.

    Mae gennym hefyd dudalennau Facebook, Twitter ac YouTube ble y gall eich myfyrwyr gael mynediad at wybodaeth a chymorth diweddar wrth iddynt ymgeisio am gyllid myfyrwyr.

  22. Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer 2015/16 24-10-2014

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymarfer ymgysylltu â rhanddeiliaid ar nifer o newidiadau technegol arfaethedig i'w cynnwys yn y Rheoliadau Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer 2015/16 ac maen nhw eisiau eich adborth. Dylid dychwelyd yr ymatebion at yr Isadran Addysg Uwch yn ddim hwyrach na 3 Rhagfyr 2014.

    Mae'r ffurflen rheoliadau ac ymateb yma.

  23. Gwirio incwm y cartref 27-08-2014

    Os bydd noddwyr yn darparu eu rhif Yswiriant Gwladol, gallwn wirio manylion eu hincwm gyda Chyllid a Thollau EM. Mae hyn yn golygu na fydd rhaid iddynt anfon unrhyw dystiolaeth o’u hincwm, sy’n ei gwneud hi’n haws cadarnhau manylion eu hincwm.

    Mewn rhai achosion, ni fydd Cyllid a Thollau EM yn gallu gwirio manylion eu hincwm; os dyna yw’r achos, byddwn yn ysgrifennu at y noddwyr ac yn gofyn iddynt anfon tystiolaeth o’u hincwm atom.

    Argymhellwn fod rhieni a phartneriaid yn sicrhau bod eu rhif Yswiriant Gwladol wrth law pan fyddwn yn cofnodi eu gwybodaeth ariannol.

    Bydd angen i rieni a phartneriaid myfyrwyr newydd (sy’n dechrau ym mlwyddyn academaidd 2013/14) barhau i ddarparu tystiolaeth o incwm eu cartref.

  24. Cadarnhau hunaniaeth trwy Swyddfa Basbort Ei Mawrhydi 27-08-2014

    O'r flwyddyn academaidd 2014/15 gall myfyrwyr llawn amser gadarnhau eu hunaniaeth trwy nodi eu rhif pasbort ar eu cais. Os na fyddant yn cynnwys manylion pasbort ar eu cais bydd angen iddynt anfon Ffurflen Manylion Pasbort y DU atom. Dylid cynghori myfyrwyr i beidio ag anfon eu pasbort atom ni.

    Os nad oes ganddynt basbort dilys, bydd angen iddynt anfon eu Tystysgrif Geni neu Fabwysiadu yn lle hynny ynghyd â ffurflen Dystysgrif Geni/Mabwysiadu.
    Gellir lawrlwytho Ffurflen Manylion Pasbort y DU a ffurflen Tystysgrif Geni/Mabwysiadu o www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.

  25. Clirio: fideos Cyngor Cadarn newydd i fyfyrwyr 15-08-2014

    Rydym wedi creu fideoes newydd yn ymdrin â negeseuon allweddol i fyfyrwyr sy'n ymgeisio am brifysgol neu goleg trwy glirio ac sydd angen cyllid i fyfyrwyr.

    Mae ein system Glirio, yn esbonio beth mae'r broses yn ei golygu a sut i wneud yn siŵr y bydd unrhyw gais am gyllid myfyrwyr yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl. Mae'r fideo Taliad yn pwysleisio beth i'w wneud i wneud yn siŵr bod yr arian yn cael ei dalu ar amser.

    Mae hefyd yn eich atgoffa o beryglon sgamiau Gwe-rwydo. Mae'r fideo yn esbonio pa ragofalon i'w cymryd a sut i gadw'n ddiogel ar-lein.

    Ac i'w gwneud yn haws i chi rannu'ch fideos newydd gyda'ch myfyrwyr rydym wedi'u dwyn ynghyd, gyda rhai o'n fideos perthnasol eraill, o fewn rhestr chwarae Mynd trwy Clirio?.

    Mae ein holl fidoes ar gael ar-lein yn Adnoddau 2014/15 neu ar ein sianel YouTube, youtube.com/sfwfilm.

  26. Mae pecynnau gwybodaeth myfyrwyr rhan amser newydd bellach ar gael 26-06-2014

    Mae pecynnau gwybodaeth cyn-lansio Cyllid Myfyrwyr Cymru ar gyfer myfyrwyr rhan amser newydd bellach ar gael i Sefydliadau Addysg Uwch eu harchebu.

    Mae'r pecynnau yn cynnwys dwy o ganllawiau cyflym defnyddiol sy'n rhoi arweiniad fesul cam ar sut i ymgeisio ac ad-dalu. Maen nhw ar gael i'w harchebu yma.

    Anogir Sefydliadau Addysg Uwch i ddosbarthu pecynnau i ddarpar fyfyrwyr rhan amser. Dewch yn ôl yma ar ddiwedd mis Gorffennaf pan fydd pecynnau ymgeisio ar gael i'w harchebu.

    Yn y cyfamser, ewch amdani, archebwch eich pecyn gwybodaeth heddiw!

  27. Ceisiadau ar gyfer 2014/15 ar gael yn awr! 03-04-2014

    Mae ceisiadau ar gyfer cyllid myfyrwyr, i gyrsiau sy'n dechrau ar ôl 1 Medi 2014, bellach ar gael.

    Rydym yn annog pob myfyriwr i beidio ag oedi a sicrhau bod eu harian yn barod ar gyfer dechrau eu cwrs trwy ymgeisio ar-lein yn awr.

  28. Gwefan newydd addysgwyr Cyllid Myfyrwyr Cymru 29-03-2014

    Mae’n bleser gennym gyhoeddi lansiad ein gwefan Cyllid Myfyrwyr Cymru newydd i ymarferwyr. Mae’r wefan hon yn ymroddedig i gefnogi ymarferwyr ledled Cymru.

    Rydym wedi creu cyfres o adnoddau y gallwch eu defnyddio wrth roi cyngor ar gyllid i fyfyrwyr. Mae’r safle hefyd yn cynnal cyfoeth o wybodaeth am bolisïau cyllid i fyfyrwyr mewn un lle.

    Gobeithio y bydd y safle o gymorth i chi, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn llawn gwybodaeth.

^ Nôl i’r brig