Myfyrwyr israddedig
Ydych chi’n astudio’n llawn-amser, yn astudio’n rhan-amser neu’n cefnogi cais?
Dyma gyfle i chi gael gwybod pa gyllid y gallwch ei gael a sut mae gwneud cais, neu beth y mae angen i chi ei wneud i gefnogi cais.
Mae ceisiadau cyllid myfyrwyr israddedig amser llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024 i 2025 nawr ar agor! Mewngofnodwch neu crëwch gyfrif i wneud cais.
Disgwylir i geisiadau israddedig rhan-amser agor erbyn diwedd mis Mai 2024.
Disgwylir i geisiadau ôl-raddedig agor erbyn diwedd mis Mehefin 2024.
Llawn-amser
Ar gyfer myfyrwyr a fydd yn astudio’n llawn-amser ar gyfer Gradd, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).
Rhan-amser
Ar gyfer myfyrwyr a fydd yn astudio’n rhan-amser ar gyfer Gradd, Diploma Cenedlaethol Uwch (HND) neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).
Mae hynny hefyd yn cynnwys dysgwyr o bell yn y lluoedd arfog sy’n astudio’n llawn-amser neu’n rhan-amser.
Rwy’n rhiant neu’n bartner myfyriwr
Dyma gyfle i chi gael gwybod mwy am gyllid myfyrwyr a chael gwybod beth y dylech ei wneud os gofynnwyd i chi gefnogi cais myfyriwr.