Cefnogi cais am gyllid myfyrwyr
Cyllid Israddedig

Gwybodaeth i rieni a phartneriaid

Mae’n bosibl y gofynnir i chi roi gwybodaeth i ni i’n galluogi i ddefnyddio’ch incwm os yw’ch plentyn neu bartner wedi gwneud cais am gyllid i fyfyrwyr. Byddwn yn defnyddio hwn i gyfrifo faint o gyllid myfyrwyr y gallant ei gael.


Rhoi eich manylion i ni

Unwaith y bydd eich plentyn neu bartner wedi gwneud cais am gyllid myfyriwr, byddwch yn cael e-bost gyda dolen i roi eich manylion i ni.

Bydd gofyn i chi roi eich rhif Yswiriant Gwladol i ni i gefnogi cais, fel y gallwn gael manylion eich incwm gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).

I ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol os na allwch ddod o hyd iddo, lawrlwythwch yr ap CThEF.

Byddwn yn defnyddio incwm eich cartref ar gyfer y flwyddyn dreth:

  • 2022-23 os ydych yn cefnogi cais myfyriwr ar gyfer 2024 i 2025
  • 2021-22 os ydych yn cefnogi cais myfyriwr ar gyfer 2023 i 2024

Rydym yn defnyddio’r flwyddyn dreth hon gan mai hon yw’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gan CThEF i bawb.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni os:

  • ydych chi wedi talu i mewn i bensiynau preifat
  • ydych chi wedi gwneud cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol
  • oes gennych chi blant (ac eithrio'r myfyriwr) sy'n dibynnu arnoch chi'n ariannol

Os nad oes gennych rhif Yswiriant Gwladol, yna bydd angen i chi lenwi ffurflen bapur a darparu dogfennau ategol i ddangos faint rydych wedi’i ennill

Os na chawsoch e-bost i gefnogi cais eich plentyn neu bartner, dilynwch y camau ar ein canllaw ‘sut i’ er mwyn cefnogi cais gyda manylion incwm eich cartref.

Mae gennym hefyd ragor o wybodaeth am gefnogi cais cyllid myfyrwyr eich plentyn neu bartner.

Os ydych yn cefnogi cais eich plentyn

Incwm eich cartref yw cyfanswm:

  • eich incwm chi
  • incwm eich partner, os ydych yn byw gyda’ch partner (hyd yn oed os nad oeddech yn byw gydag ef/hi yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol)

unrhyw incwm nas enillwyd sydd gan y myfyriwr, er enghraifft o gynilion, buddsoddiadau neu eiddo.

Os ydych yn cefnogi cais eich partner

Incwm eich cartref yw cyfanswm:

  • eich incwm chi

incwm y myfyriwr, os ydych yn byw gyda’r myfyriwr (hyd yn oed os nad oeddech yn byw gydag ef/hi yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol).

Os yw eich incwm wedi gostwng

Gallwch roi eich manylion ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol os ydych yn credu y bydd incwm eich cartref yn gostwng 15% neu fwy o’i gymharu â’r flwyddyn dreth y gofynnwyd i chi ddarparu manylion ar ei chyfer.

Cyflwyno tystiolaeth

Peidiwch ag anfon eich ffurflen P60 neu’ch Ffurflen Dreth atom. Os byddwch yn gwneud hynny, gallai arafu cais y myfyriwr.

Ni fydd angen fel rheol i chi anfon tystiolaeth o incwm eich cartref atom, oherwydd byddwn yn gwirio eich manylion gyda Chyllid a Thollau EM. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am dystiolaeth o’r canlynol:

  • eich statws priodasol, os ydych wedi gwahanu neu wedi ysgaru
  • taliadau a wneir i bensiynau preifat neu gyfraniadau gwirfoddol ychwanegol

Byddwn yn dweud wrthych pa dystiolaeth y bydd angen i chi ei chyflwyno.

Newid eich manylion

Rhaid i chi ddweud wrthym:

  • os gwnaethoch gamgymeriad
  • os bydd eich amgylchiadau’n newid, er enghraifft eich statws priodasol neu os byddwch yn cael plentyn arall.

Gallwch wneud hynny drwy gyflwyno ffurflen:

Cysylltu â ni

Os byddwch yn cysylltu â ni, ni fyddwn yn gallu trafod unrhyw beth am eich plentyn neu’ch partner heb gael caniatâd ganddo/ganddi. Cael gwybod sut y gall eich plentyn neu’ch partner roi caniatâd i ni.