Cwestiynau Cyffredin am LCA a GDC (AB)

group of students

Rydym wedi darparu rhai atebion i rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu cael ar LCA a GDC(AB).

LCA – Cwestiynau ac Atebion

  1. Pa dystiolaeth y mae arnaf angen ei darparu gyda’m cais? A oes angen i mi anfon dogfennau gwreiddiol?
    Ateb: Mae’r dystiolaeth y mae angen i chi ei hanfon atom yn dibynnu ar rai pethau. I gael rhestrau llawn o’r hyn y mae angen i chi ei anfon atom, edrychwch ar:
    · Tystiolaeth Ariannol ar gyfer LCA - 2009/10

    Derbyniwn ddogfennau gwreiddiol yn unig. Peidiwch ag anfon llungopïau.

  2. A fyddaf yn cael fy nhaliadau yn ystod gwyliau’r ysgol?
    Ateb: Na fyddwch, rhaid i chi fod yn mynychu’r ysgol neu’r coleg i gael eich taliadau LCA.

  3. Nid yw fy mhlentyn yn mynd i’r ysgol, a fydd yn parhau i gael LCA?
    Ateb: Er mwyn cael taliadau LCA, rhaid i’ch ysgol neu goleg gadarnhau presenoldeb eich plentyn. Mae hyn yn berthnasol i ddisgyblion nad ydynt yn mynd i’r ysgol yn sgil diarddeliad, gwaharddiad dros dro, salwch neu resymau eraill. Yr ysgol neu’r coleg sy’n gyfrifol am y penderfyniad hwn. Gallwch gysylltu â’r ysgol neu’r coleg gydag unrhyw gwestiynau am bresenoldeb.

  4. Rwyf ar gwrs ‘Llwybrau i Brentisiaeth’ a allaf gael LCA?
    Ateb: Gallwch, ond rhaid i chi fod ar gwrs Llwybrau at Brentisiaeth, gydag o leiaf 21 awr o astudiaeth dan arweiniad. Mae popeth arall fel LCA ar gyfer unrhyw gwrs arall.

  5. Pa mor hen y mae angen i mi fod i gael LCA?
    Ateb: Ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau o fis Medi 2009 ymlaen, mae angen i chi fod rhwng 16 a 18 oed ar 31 Awst 2009. Os ydych chi’n hŷn na 18 oed ar y dyddiad hwn, gallech gael GDC (AB). Gallwch ddefnyddio’n cyfrifiannell i weld pa un ddylech chi wneud cais amdano.

  6. Mae incwm fy nghartref yn rhy uchel i mi gael LCA, ond a allaf gael taliadau bonws o hyd?
    Ateb: Na allwch, mae taliadau bonws yn rhan o’r cynllun LCA. Rhaid bod gennych hawl i LCA er mwyn cael taliadau bonws.

  7. Pa fudd-daliadau a ystyrir wrth adio incwm fy nghartref?
    Ateb: Dylid cynnwys y Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol Trethadwy hyn yn unig:
    · Pensiwn Ymddeol
    · Lwfans Rhiant Gweddw
    · Lwfans Gofalwr
    · Budd-dal Marwolaeth Ddiwydiannol
    · Budd-dal Analluogrwydd (ar ôl 28 wythnos)
    · Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Seiliedig ar Gyfraniadau
    · Budd-dal Profedigaeth
    · Lwfans Ceiswyr Gwaith

  8. Sut ydw i’n cyfrifo incwm fy nghartref?
    Ateb:

    Os ydych chi’n fyfyriwr dibynnol:

    Gallwch gyfrifo incwm eich cartref trwy adio incwm eich rhiant/rhieni ac/neu eich gwarcheidwad/gwarcheidwaid o:
    · Gyflogau
    · Incwm hunangyflogaeth
    · Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol Trethadwy
    · Ffynonellau incwm eraill, fel incwm ymddiriedolaeth.

    Wedyn rydych yn tynnu unrhyw ddidyniadau a ganiateir i ffwrdd (Mwy am ddidyniadau a ganiateir)

    Peidiwch â chynnwys incwm i rieni neu lysrieni nad ydynt yn byw’n barhaol gyda chi.

    Os ydych chi’n fyfyriwr annibynnol, byddwch yn gwneud yr un fath â’r uchod, ond bydd angen i chi ddefnyddio’ch incwm chi ac incwm eich partner, os oes gennych un.

    Er enghraifft:
    £8000 yw incwm eich mam
    £12000 yw incwm eich tad

    Incwm y cartref: £20000

    Nid oes gan eich mam unrhyw ddidyniadau a ganiateir.
    Mae gan eich tad £1000 o gyfraniadau pensiwn preifat.
    Didyniadau a ganiateir: £1000

    Incwm y cartref £20000
    Tynnu didyniadau a ganiateir i ffwrdd £1000

    £19000 yw cyfanswm incwm eich cartref

  9. A ddylem gynnwys bonysau a goramser yn incwm fy nghartref?
    Ateb: Dylech, mae bonysau a goramser yn cyfrif fel incwm a enillwyd

  10. Beth sy’n digwydd os bydd rhywun yn ymuno â’m cartref?
    Ateb: Dylech gysylltu â Thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid LCA a rhoi gwybod iddynt am y newid hwn. Petai’ch Mam neu’ch Tad yn ailbriodi er enghraifft, gallai incwm eu gŵr neu wraig newydd effeithio ar eich LCA.

  11. Cefais LCA y llynedd ac rwy’n gwneud cais eto – a oes angen i mi anfon tystiolaeth eto?
    Ateb: Nid oes angen i chi anfon atom unrhyw dystiolaeth o’ch hunaniaeth, fel eich Tystysgrif Geni atom. Hwyrach y bydd angen tystiolaeth arnom o incwm eich cartref.

  12. A allwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Swyddfeydd Treth i gadarnhau fy incwm?
    Ateb: Na allwn. Nid oes hawl ganddynt roi’r wybodaeth hon i ni yn sgil deddfau Diogelu Data. Bydd angen i chi gysylltu â nhw os oes angen unrhyw dystiolaeth ychwanegol o’ch incwm.

  13. A ddylem wneud cais i LCA Cymru neu EMA England?
    Ateb: Mae hyn yn dibynnu ar ble rydych chi’n mynd i’r ysgol neu’r coleg. Os yw’ch ysgol neu goleg yng Nghymru, gallwch wneud cais i LCA Cymru, hyd yn oed os ydych chi’n byw yn Lloegr. Os yw’ch ysgol neu goleg yn Lloegr, gallwch wneud cais i EMA England www.direct.gov.uk/EMA.

    Os ydych chi’n astudio yn yr Alban, dylech wneud cais am EMA Scotland- www.emascotland.com

    Os ydych chi’n astudio yng Ngogledd Iwerddon, dylech wneud cais am EMA NI- www.delni.gov.uk

  14. I ble ddylem anfon fy ffurflen gais?
    Ateb: Dylech anfon eich ffurflen at Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid LCA. Eich cyfrifoldeb chi yw’r cais, felly rhaid i chi wneud yn siŵr y caiff ei anfon.

  15. Pryd ydw i'n dechrau cael taliadau?
    Ateb: Gallwch ddechrau cael taliadau'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg cyn gynted ag y byddwch yn dechrau eich cwrs, cyhyd â'ch bod yn:
  • ymgeisio ar amser;
  • cytuno ac yn llofnodi Cytundeb Dysgu gyda’ch ysgol neu’ch coleg; a
  • ac yn bodloni eich gofynion presenoldeb.

Ar ôl i ni gymeradwyo eich cais bydd angen i'ch ysgol neu’ch coleg gadarnhau eich bod wedi mynychu. Yna bydd taliadau yn cael eu gwneud i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu bob pythefnos.

16. Beth ddylwn i ei wneud os bydd incwm fy nghartref yn newid yn ystod fy nghwrs?

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am LCA a bod incwm eich cartref wedi disgyn, gallwch wneud cais am ailasesiad. Bydd angen i chi gysylltu â Thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid LCA i

GDC (AB) – Cwestiynau ac Atebion

  1. Pa dystiolaeth y mae arnaf angen ei darparu gyda’m cais? A oes angen i mi anfon dogfennau gwreiddiol?
    Ateb: Mae’r dystiolaeth y mae angen i chi ei hanfon atom yn dibynnu ar rai pethau. I gael rhestrau llawn o’r hyn y mae angen i chi ei anfon atom, edrychwch ar:
    · Tystiolaeth Ariannol ar gyfer GDC (AB)- 2009/10

    Derbyniwn ddogfennau gwreiddiol yn unig. Peidiwch ag anfon llungopïau.

  2. Pa dystiolaeth y mae angen i mi ei hanfon i brofi gwahaniad?
    Ateb: Os ydych chi wedi gwahanu wrth ŵr/gwraig neu bartner, mae angen i chi anfon tystiolaeth atom.

    Os ydych chi wedi ysgaru, mae arnom angen:
    · eich archddyfarniad absoliwt;
    · gorchymyn diddymu; neu
    · lythyr gan eich cyfreithiwr yn cadarnhau’ch statws.

    Os ydych chi wedi gwahanu mae arnom angen:
    · llythyr gan eich cyfreithiwr yn cadarnhau’ch statws.

    Os ydy’ch Partneriaeth Sifil wedi diddymu:
    · eich gorchymyn diddymu; neu
    · lythyr gan eich cyfreithiwr yn cadarnhau’ch statws.

  3. Pa statws Swyddfa Gartref y mae arnaf ei angen i wneud cais am GDC (AB)?
    Ateb: Mae nifer o statysau a fyddai’n golygu y gallwch wneud cais am GDC (AB). Gallwch gael manylion o’r nodiadau arweiniad sy’n mynd gyda’r ffurflen gais. Efallai y bydd angen i chi anfon tystiolaeth briodol i gadarnhau’ch statws Swyddfa Gartref.

  4. Nid wyf wedi cael fy nhaliadau eto, a allwch chi ddweud pam?
    Ateb: Ni allwn wneud taliadau i chi hyd nes i ni gael cadarnhad o’ch presenoldeb gan eich coleg. Bydd angen i chi siarad â’ch coleg am gadarnhau’ch presenoldeb.

  5. Nid wyf yn dod o’r Deyrnas Unedig, ydw i’n gymwys am GDC (AB)?
    Ateb: Gallwch wneud cais am GDC (AB) os ydych chi wedi byw yn y Deyrnas Unedig am 3 blynedd cyn dechrau’ch cwrs. Ceir rhai achosion eraill, lle allech fod yn gymwys ond nad ydych wedi byw yn y Deyrnas Unedig ers 3 blynedd. Gallwch wirio’r nodiadau arweiniad sy’n mynd gyda’r ffurflen gais i gael mwy o wybodaeth.

  6. Rwy’n cael LCA ar hyn o bryd; ydy hyn yn golygu na allaf wneud cais am GDC (AB)?
    Ateb: Ni allwch gael LCA a GDC (AB) ar yr un pryd. Ond gallwch barhau i wneud cais am GDC (AB) y flwyddyn nesaf, os ydych chi’n cael LCA ar hyn o bryd.

  7. Rwyf o dan 25 oed, ond rwyf wedi cefnogi fy hun ers 3 blynedd – beth mae angen i mi ei wneud?
    Ateb: Mae angen i chi wneud cais fel myfyriwr annibynnol, a darparu tystiolaeth eich bod chi wedi’ch cefnogi’ch hun ers 3 blynedd. Er enghraifft, bydd angen i chi ddarparu P60 ar gyfer y 3 blynedd llawn. Os na allwch ddarparu tystiolaeth o gefnogaeth am y 3 blynedd cyn i chi ddechrau’ch cwrs, byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr dibynnol. Mae angen i fyfyrwyr dibynnol gyflenwi incwm eu cartref gyda thystiolaeth.

  8. A allwch gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith neu’r Swyddfeydd Treth i gadarnhau fy incwm?
    Ateb: Na allwn. Nid oes hawl ganddynt roi’r wybodaeth hon i ni yn sgil deddfau Diogelu Data. Bydd angen i chi gysylltu â nhw os oes angen unrhyw dystiolaeth ychwanegol o’ch incwm.