|
Mae’ch preifatrwydd yn bwysig i ni. Efallai y bydd angen i ni drafod gwybodaeth bersonol amdanoch er mwyn i ni allu cynnig gwasanaethau i chi. Bwriad y siarter hon yw rhoi hyder i chi o ran diogelwch y wybodaeth honno trwy esbonio’r hyn rydym yn ei wneud â hi.
Os gofynnwn i chi am wybodaeth bersonol, rydym yn addo:
• dweud wrthych pam y mae arnom ei hangen; • gofyn am yr hyn y mae arnom ei hangen yn unig; • gofalu amdani a sicrhau mai dim ond y sawl gydag angen gwirioneddol i’w gweld fydd yn gallu mynd ati; • rhoi gwybod i chi pan gaiff gwybodaeth ei rhannu rhwng sefydliadau er mwyn rhoi gwell gwasanaethau i chi – ac i roi cyfle i chi ddweud na i hyn lle y gallwn; • gwneud yn siŵr nad ydym yn ei chadw’n hwy na’r hyn sy’n angenrheidiol; a • pheidio â gwneud eich gwybodaeth bersonol ar gael at ddefnydd masnachol heb eich caniatâd.
O ganlyniad, gofynnwn i chi:
• roi gwybodaeth gywir i ni; a • rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau, fel cyfeiriad newydd, cyn gynted â phosibl. Mae hyn o gymorth i ni gadw’ch gwybodaeth yn ddibynadwy ac yn ddiweddar.
Gallwch gael mwy o fanylion ar:
• sut i ddarganfod pa wybodaeth sydd gennym arnoch a sut i ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau; • cytundebau sydd gennym gyda sefydliadau eraill ar gyfer rhannu gwybodaeth; • amgylchiadau lle gallwn drosglwyddo’ch gwybodaeth bersonol heb ddweud wrthych, er enghraifft er mwyn atal a chanfod troseddau, i lunio ystadegau dienw, neu lle y mae awdurdod perthnasol yn gofyn i ni wneud hynny; • ein cyfarwyddiadau i staff ar sut i gasglu, defnyddio a dileu’ch gwybodaeth bersonol; • sut rydym yn gwneud yn siŵr bod y wybodaeth yn ein meddiant yn gywir ac yn ddiweddar; a • sut i wneud cwyn am sut rydym yn dal neu’n defnyddio’ch gwybodaeth.
Mae’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ynghyd â’r Adran Arloesedd, Prifysgolion a Sgiliau, a sefydliadau partner, wedi llofnodi i’r egwyddorion ar y cyd hyn ar gyfer trafod eich gwybodaeth.
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’r: Data Protection Officer The Student Loans Company Ltd 100 Bothwell Street Glasgow G2 7JD dataprotection@slc.co.uk
Pan fyddwn yn gofyn i chi am wybodaeth, byddwn yn cadw at y gyfraith, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 1998. I gael cyngor annibynnol ar faterion diogelu data, preifatrwydd a rhannu data, gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn: Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF. Ffôn: 08456 30 60 60 neu 01625 54 57 45 Ffacs: 01625 524510 Gwefan: www.ico.gov.uk
|